Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Beth all eich canolfan ailgylchu ei wneud i chi… dyma rai pethau llai cyfarwydd y gallwch eu hailgylchu
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor
Lucy Cowley
Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Beth all eich canolfan ailgylchu ei wneud i chi… dyma rai pethau llai cyfarwydd y gallwch eu hailgylchu
Y cyngor

Beth all eich canolfan ailgylchu ei wneud i chi… dyma rai pethau llai cyfarwydd y gallwch eu hailgylchu

Diweddarwyd diwethaf: 2019/09/17 at 9:31 AM
Rhannu
Darllen 5 funud
cooking, oil, recycling, centre
RHANNU

Bydd nifer ohonoch chi wedi bod yn ein canolfannau ailgylchu yn Wrecsam, ond hyd yn oed os nad ydych, mae’n debyg y bydd gennych ryw syniad am beth maent yn ei wneud.

Cynnwys
Beth ydyn nhw?BatrisPlastig caled/anhyblygBylbiau golauPaentCynwysyddion gwastraff peryglusTecstilauY siop ailddefnyddio

Fe fyddwch yn siŵr o fod yn gwybod y gallwch ailgylchu pethau fel papur, gwydr, pren, gwastraff gardd ac eitemau trydanol yma – y pethau arferol – ond mae llawer mwy na hyn, a dweud y gwir.

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Mae gennym ni dair canolfan ailgylchu yn Wrecsam ac mae pobl yn gallu dod â llu o bethau i’w hailgylchu iddynt. Dydi pawb ddim yn gwybod am yr ystod o ddeunyddiau y gallwn ni eu hailgylchu, felly rydyn ni’n ceisio dangos i bobl be’ ydi rhai o’r pethau ‘llai cyfarwydd’ yma.”

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Beth ydyn nhw?

Er enghraifft, oeddech chi’n gwybod y gallwch ailgylchu olew coginio ym mhob un o’n canolfannau ailgylchu? Gallwch, wir. Mae gennym ni gynhwysydd arbennig ar gyfer hyn… siaradwch ag un o’r gweithwyr er mwyn iddynt ei agor i chi.

co

Mae’r un peth yn wir am olew injan, sydd hefyd â chynhwysydd arbennig ar ei gyfer.

Mae llawer mwy o bethau na fyddwch efallai yn gwybod eich bod yn gallu eu hailgylchu ar ein safleoedd hefyd. Dyma restr er mwyn i chi gael y darlun yn llawn 🙂

Batris

Rydyn ni’n derbyn pob math o fatris ar ein safleoedd… o fatris AA hyd at rai’r car! Os byddwch chi’n dod â batris car i ni, rhowch wybod i un o’n gweithwyr a byddant yn dod i’w dderbyn gennych.

A oeddech chi’n gwybod bod tair canolfan ailgylchu yn Wrecsam lle gallwch ailgylchu llawer iawn o bethau, gan gynnwys batris car? #wrecsam #ailgylchu pic.twitter.com/9D4DIu2iHl

— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) July 26, 2019

Plastig caled/anhyblyg

Iawn, mae’n siŵr y byddwch chi’n gwybod ein bod yn derbyn plastig caled ac anhyblyg, ond ydych chi’n gwybod am bob math o blastig mae hyn yn ei gynnwys?

Yn ogystal â’r pethau rydych chi’n gyfarwydd â nhw, rydyn ni’n derbyn bordiau plastig Correx, landeri a phibelli PVC, cratiau, biniau ar olwynion, pibelli HDPE, bocsys plastig, cesys CD/DVD, bwcedi, dodrefn gardd a theganau.

Os yw eich dodrefn gardd a’ch teganau mewn cyflwr go lew, galwch ar un o’n gweithwyr gan y gallai siop ailddefnyddio Hosbis Tŷ’r Eos eu gwerthu nhw 🙂

Bylbiau golau

Efallai y byddwch chi’n gwybod am hwn, ond eto, mae hyn yn cynnwys pob math o fylbiau fel stribedi golau a thiwbiau fflworoleuol na fyddwch efallai yn gwybod ein bod yn eu derbyn!

Paent

Gallwch ddod â phob math o baent, p’un a yw’r tuniau’n wag neu ddim. Os nad ydych chi’n siŵr ble i’w rhoi, cofiwch ofyn i un o’r gweithwyr.

Cynwysyddion gwastraff peryglus

Dewch ag unrhyw gynwysyddion gwastraff peryglus yma, fel silindrau nwy, ond gofynnwn i chi roi gwybod i’n gweithwyr fel y gallant eich helpu.

Peidiwch byth â meddwl am roi un o’r rhain yn y gwastraff cyffredinol gan y gallai achosi tân wrth i ni drin y gwastraff.

Tecstilau

Gallwch ailgylchu pob math o ddefnydd tecstilau, cyn belled â’i fod yn lân ac yn sych. Mae hyn yn cynnwys bagiau llaw, beltiau, esgidiau, pob math o ddillad, cynfasau, llieiniau, blancedi, cyrtens, carthenni, gobenyddion a chwiltiau.

Y siop ailddefnyddio

Rydyn ni wedi sôn ychydig am hon yn barod, ond os ydych chi’n ailgylchu unrhyw bethau a allai gael eu gwerthu ymlaen, dywedwch wrth ein gweithwyr gan y byddant yn rhoi’r rhain i siop ailddefnyddio Hosbis Tŷ’r Eos ar Lôn y Bryn.

Gallwch roi pethau i’r siop ailddefnyddio yn unrhyw un o’n tair canolfan ailgylchu, felly os byddwch chi’n dod ag unrhyw feiciau, dodrefn neu deganau ac ati, cofiwch am hyn.

Wel, ydych chi wedi dysgu rhywbeth? Neu oeddech chi’n feistr ar y busnes ailgylchu yma’n barod? Beth bynnag am hynny, diolch i chi am dreulio amser yn meddwl am ailgylchu 🙂

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

COFRESTRWCH FI RŴAN

Rhannu
Erthygl flaenorol Fyfyrwyr! Cadwch eich blaendal ac osgoi gwenwyn bwyd! Fyfyrwyr! Cadwch eich blaendal ac osgoi gwenwyn bwyd!
Erthygl nesaf Drysau tân yn achub bywydau Drysau tân yn achub bywydau

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor Awst 8, 2025
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor Awst 8, 2025
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall Awst 8, 2025
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor Awst 7, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Family Teulu
Pobl a lleY cyngor

Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth

Awst 8, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 8, 2025
Road maintenance
ArallY cyngor

Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall

Awst 7, 2025
Adult holding a child's hand
DigwyddiadauY cyngor

Galwad o’r newydd am fabwysiadwyr Cymraeg eu hiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Awst 1, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English