Yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf mae swyddogion ein tîm Gwarchod y Cyhoedd a Heddlu Wrecsam wedi bod yn ymweld â safleoedd trwyddedig yn y fwrdeistref sirol i wirio a ydyn nhw’n cydymffurfio â chyfyngiadau’r Coronafeirws.
Hyd yma maen nhw wedi ymweld â 27 o lefydd ac maen nhw’n hapus iawn efo’r lefel uchel o gydymffurfio.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Mae’r rhain yn ymweliadau dirybudd sy’n cael eu cynnal ar adegau amrywiol gan gynnwys gyda’r nosau ac yn ystod gwyliau’r banc.
Roedd pob busnes oedd fod ar gau ar gau, ac roedd y rheiny a oedd yn dal yn masnachu yn gwneud hynny’n gyfrifol. Defnyddiwyd yr ymweliadau hefyd i ddarparu rhagor o wybodaeth ar gadw pellter cymdeithasol mewn perthynas â staff a chwsmeriaid sy’n casglu archebion bwyd.
“Cydymffurfio â chyfyngiadau’r Coronafeirws”
Meddai Ian Bancroft, y Prif Weithredwr a’r Cyng. Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Mae’n gyfnod anodd dros ben i fusnesau a hoffem ddiolch i bawb am gydymffurfio â’r cyfyngiadau. Rydym ni’n gobeithio y bydd pethau’n gwella’n fuan ond, am rŵan, mae’r camau gweithredu hyn yn helpu i leihau lledaeniad y feirws a’n cadw ni’n saff.”
Meddai’r Uwch-arolygydd Mark Pierce, Rhanbarth y Dwyrain: “Rydym ni’n gweithio’n agos gyda’r Cyngor i helpu i sicrhau diogelwch pawb ar yr adeg anodd hon. Diolch byth, mae’r rhan fwyaf o bobl yn deall pwysigrwydd cydymffurfio â’r cyfyngiadau presennol ac mae’n braf cael gwybod bod yr holl safleoedd sydd wedi’u gwirio yn chwarae eu rhan.”
Bydd yr ymweliadau hyn yn parhau yn ystod yr wythnosau nesaf ond, os ydych chi’n pryderu ynghylch busnes penodol, anfonwch neges i contact-us@wrexham.gov.uk.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19