Fe ailgychwynnodd cyfarfodydd ein Bwrdd Gweithredol yr wythnos yma a bore ‘ma (09.06.20), wrth iddynt gyfarfod trwy gyfrwng Zoom.
Fel y byddech yn ei ddisgwyl ar gyfer y cyfarfod cyntaf ers i’r pandemig gael ei gyhoeddi, mae yna adroddiadau llawn am ymateb y Cyngor i Covid-19 gan olygu mai dim ond gwasanaethau hanfodol gafodd eu darparu, a sut mae’n bwriadu ail-ffynnu o’r effeithiau – a fydd yn golygu ffyrdd gwahanol iawn o weithio wrth i ni ddatgloi gwasanaethau yn unol â chanllawiau’r Llywodraeth.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Roedd yna eitem hefyd am y prosiect Profi, Olrhain a Diogelu sy’n gweithredu ar draws Cymru gyda’r nod o arwain Cymru allan o’r pandemig drwy wyliadwriaeth iechyd yn y gymuned, er mwyn olrhain cysylltiadau yn effeithiol ac eang, a chefnogi pobl i hunan-ynysu pan mae angen iddynt wneud hynny.
Gallwch ddarllen y rhaglen yma
https://moderngov.wrexham.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=129&MId=4622
Gwahoddwyd y wasg leol i wylio’r cyfarfod ar-lein.
Ni chafodd y cyfarfod cyntaf ei weddarlledu ond cafodd ei recordio gyda’r bwriad o’i gyhoeddi ar-lein yn nes ymlaen.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19