Fel rhan o ymgyrch Bydd wych. Ailgylcha. WRAP ar gyfer Wythnos Ailgylchu 2020, mae gofyn i ni fod yn drech na’n cardfwrdd. Dywed WRAP fod y swm o becynnau cardfwrdd a ddaw o siopa ar-lein yn ein cartrefi yn enfawr.
Y newyddion da yw y gellir ailgylchu cardfwrdd ar ymyl y palmant. Er bod y rhan fwyaf ohonom yn Wrecsam eisoes yn gwneud hyn, mae’n werth atgoffa ein hunain sut i ailgylchu cardfwrdd yn gywir.
Efallai bod hyn yn swnio ychydig yn rhyfedd, ond gall fod yn hawdd iawn cael hyn yn anghywir.
Er mwyn i’ch pecynnau cardfwrdd allu cael eu hailgylchu, mae’n rhaid i chi wneud mwy na dim ond tynnu eich eitem allan a rhoi gweddill y cynnwys yn eich blwch ailgylchu papur.
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Tynnwch bopeth ychwanegol
Ia, popeth! Felly fe ddylech chi dynnu unrhyw dâp, styffylau, papur swigod, haenau plastig ac ati oddi ar eich bocs cardfwrdd cyn ei ailgylchu.
Yn anffodus, dydi rhai ohonon ni ddim yn gwneud hyn…rydyn ni’n tynnu ein heitem o’r bocs heb feddwl pa ddeunyddiau eraill rydyn ni’n eu gadael ar ôl.
Mewn rhai achosion, yn ein canolfannau ailgylchu, rydym wedi dod o hyd i ddillad, carpedi, bwyd a phlastigau cymysg gyda’ch cardfwrdd. Stopiwch os gwelwch yn dda ac edrychwch i weld beth arall allech chi fod yn ei adael ar ôl.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Yr unig ddeunyddiau y dylech chi fod yn eu rhoi i mewn yn y sach glas neu’r bocs olwynion uchaf yw cardfwrdd a phapur, felly fe ddylech chi dynnu unrhyw bapur swigod, haenau plastig neu dâp cyn eu rhoi i mewn. Mae hyn yn rhywbeth bach y gall pobl ei wneud i helpu, sy’n gwneud gwahaniaeth enfawr.”
Plygwch eich cardfwrdd yn fflat
I wneud y mwyaf o’ch bocs/bag ailgylchu, mae’n bwysig eich bod yn plygu eich bocsys cardfwrdd yn fflat. Os na fyddwch chi’n eu plygu’n fflat, bydd eich bocs/bag ailgylchu’n llenwi’n sydyn iawn, a bydd dim lle i ffitio eich pecynnau cardfwrdd a phapur eraill.
I wneud y mwyaf o’ch bocs/bag ailgylchu mae’n bwysig eich bod yn gwasgu eich bocsys cardbord yn fflat #wrecsam #ailgylchwyrgwych pic.twitter.com/BlGPx8o4YS
— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) September 23, 2020
Cofiwch, ni allwn ni gasglu cardfwrdd rhydd
Yn fwy nag erioed, mae rhagofalon hylendid llym iawn wedi bod ar waith gennym ni, ac oherwydd hyn ni all ein gweithwyr gyffwrdd unrhyw wastraff ailgylchu…felly ni allan nhw gyffwrdd unrhyw gardfwrdd rhydd.
Os bydd eich bocsys/bagiau ailgylchu yn llenwi, gallwch adael y deunyddiau ychwanegol i’w hailgylchu drws nesaf i’ch gwastraff ailgylchu eraill ar eich diwrnod casglu. Byddwn yn ailgylchu’r deunyddiau ac yn gadael eich cynwysyddion ychwanegol i chi eu defnyddio eto.
Felly, rhaid i ni bwysleisio mai’r unig ffordd ddiogel i ni fynd â’ch gwastraff ailgylchu ychwanegol yw i chi ei drefnu’n gywir a’i adael mewn cynhwysydd solid ar wahân i ni – dim bagiau plastig. Oni bai eich bod chi’n gwneud hyn, ni allwn fynd ag o.
Ychwanegodd y Cynghorydd Bithell: “Mae cymryd yr amser i blygu eich cardfwrdd yn fflat fel y gall ein gweithwyr wagu eich bagiau a’ch bocsys yn syth i’r cerbyd – heb gyffwrdd unrhyw ddeunyddiau – yn rhan bwysig iawn o’u cadw nhw’n ddiogel. Diolch i bawb am eich dealltwriaeth.”
Felly, y tro nesaf y bydd pecyn yn cyrraedd, cymerwch yr amser i ailgylchu popeth yn ofalus…mae’n gwneud gwahaniaeth mawr.
YMGEISIWCH RŴAN