Mae Cyngor Wrecsam wedi cyhoeddi neges i gefnogi teuluoedd a busnesau lleol yn dilyn y newyddion y bydd 1,700 o weithwyr Airbus yn y DU yn colli eu swyddi.
Gwnaeth y cawr awyrofod y cyhoeddiad yr wythnos hon, a bydd llawer o swyddi yn cael eu colli ar safle’r cwmni ym Mrychdyn, Sir y Fflint.
Mae yna lawer o bobl o Wrecsam yn gweithio ar y safle ac mae yna nifer o fusnesau lleol yn cyflenwi deunyddiau, nwyddau a gwasanaethau i’r cwmni awyrofod.
“Cyflogwr mawr”
Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Economi: “Bydd hyn yn effeithio ar lawer o bobl yn Wrecsam a byddan nhw’n poeni am eu dyfodol.
“Mae Airbus yn gyflogwr mawr yn yr ardal ac mae’r cwmni yn fawr iawn ei barch – yn darparu swyddi o ansawdd da i bobl ar draws gogledd ddwyrain Cymru, Swydd Gaer a Wirral.
“Bydd hyn hefyd yn effeithio ar lawer o fusnesau… gan gynnwys cwmnïau yma yn y fwrdeistref sirol.
“Mae’n bwysig ein bod ni’n gweithio gyda’n partneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol cyfagos a Llywodraeth Cymru, i wneud popeth y gallwn i ddenu buddsoddiad a chefnogaeth i’r rhanbarth… er mwyn i ni helpu busnesau oroesi’r cyfnod anodd hwn, diogelu swyddi a chreu swyddi newydd.”
Diogelu swyddi a diwydiannau
Mae’r diwydiant awyrofod yn teimlo effaith pandemig Covid-19, gyda llai o alw am deithiau awyr ac awyrennau ar y funud.
Mae Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy (partneriaeth economaidd rhwng gogledd ddwyrain Cymru, Swydd Gaer a Wirral) wedi addo gwneud popeth y gallan nhw i gefnogi’r economi trawsffiniol.
Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy: “Rydym ni’n cydymdeimlo’n llwyr â theuluoedd pryderus gweithwyr Airbus a’r busnesau hynny sy’n cyflenwi nwyddau i’r cwmni.
“Bydd y newyddion hyn yn drychinebus i nifer o bobl ac felly byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid i wneud popeth y gallwn i ddiogelu swyddi ac i gefnogi diwydiannau lleol drwy’r cyfnod anodd hwn.
“Bydd cyhoeddiad Airbus yn effeithio ar nifer fawr o bobl a busnesau yn Wrecsam ac felly bydd yn rhaid i ni wneud popeth y gallwn gyda’n partneriaid i ddiogelu buddsoddiad a chefnogaeth i’r rhanbarth.”
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws
YMGEISIWCH RŴAN