Ar ddydd Llun 20 Rhagfyr, fe wnaeth ci neu grŵp o gŵn ymosod ar, ac anafu defaid ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr.
Digwyddodd hyn oddeutu 9.15am lle gwelodd dyst gi defaid yn neidio i’r cae lle’r oedd defaid ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Adroddodd y tyst y digwyddiad i un o’n ceidwaid, ac ar ôl archwilio daethpwyd o hyd i lawer o wlân yn y cae ac o leiaf un ddafad gyda chlwyf ar ei hochr.
Ar hyn o bryd mae caniatâd i gŵn fod oddi ar eu tennyn yn ein parciau cyhoeddus (oni bai am feysydd parcio), fodd bynnag, os fydd digwyddiadau o’r fath yn parhau i ddigwydd, byddwn yn edrych ar newid y rheolau.
Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Nid ydym eisiau i berchnogion cŵn anghyfrifol gael effaith negyddol ar y nifer o berchnogion cyfrifol sy’n mwynhau ein parciau. Cadwch eich cŵn o dan reolaeth yn ein parciau gwledig, gan nad ydym eisiau gweld digwyddiadau o’r fath yn digwydd eto.”
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL