Gall gadw’r plant yn brysur ac yn egnïol yn ystod gwyliau’r haf fod yn broblem i rieni.
A llawer o’r amser gall y gweithgareddau sydd ar gael costio gormod – yn arbennig os oes gennych fwy nag un plentyn.
Yn ffodus, mae Cyngor Wrecsam yn cynnig gweithgareddau chwarae am ddim drwy gydol y gwyliau’r haf.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Ac mae gweithwyr chwarae proffesiynol wedi’u hyfforddi yno ar gyfer pob gweithgaredd.
I gael gwybod yn union yr hyn sydd gennym wedi’u trefnu yn ystod yr haf, mae rhestr lawn o’r gweithgareddau ar gael yma
“Cynlluniau Chwarae yn rhoi digonedd o bethau i’r plant i’w gwneud”
Dywedodd y Cynghorydd Paul Rogers, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Ieuenctid a Gwrth Dlodi: “Mae chwe wythnos yn amser hir – ac i blant ifanc sydd wedi diflasu, gall deimlo’n hirach. I rieni prysur sydd wedi blino gall deimlo’n fwy na hynny!
“Bydd ein gwahanol gynlluniau chwarae, diolch i gyllid gan Gynghorau Cymuned, yn gwneud yn siŵr bod gan y plant ddigon i wneud yn ystod gwyliau’r haf, gyda digon i’w gynnig i bawb.
“Mae hwn yn enghraifft dda o weithio mewn partneriaeth rhwng y Gwasanaethau Ieuenctid a Chwarae’r Bwrdeistref Sirol a Chynghorau Cymuned.”
Yn ogystal â’r gwahanol weithgareddau gwych sydd ar gael yn barod, mae’r Tîm Datblygu Chwarae wedi cadarnhau y byddant yn cynnal cynllun chwarae newydd sbon yng Nghefn Mawr ac Acrefair.
Bydd y sesiynau hyn yn cael eu cynnal o 11am tan 1pm ar ddydd Llun a dydd Mercher ym Mharc Plas Kynaston, Cefn Mawr, ac ar yr un amser ar ddydd Gwener yng nghaeau’r ysgol yn Acrefair.
Peidiwch ag anghofio Diwrnod Chwarae!
A pheidiwch ag anghofio – bydd Cyngor Wrecsam yn cynnal ei ddathliad blynyddol o Ddiwrnod Chwarae cenedlaethol dydd Mercher, 2 Awst.
Mae croeso cynnes i bawb ac mae’n argoeli i fod yn ddiwrnod prysur iawn yn llawn gweithgareddau – felly peidiwch ag anghofio!
Ac wrth gwrs, mae’r awyr agored bob amser am ddim – felly i wneud defnydd da o dywydd yr haf ewch i barciau yn Wrecsam sydd wedi ennill Gwobr Y Faner Werdd
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI