Rydym wedi caffael darn o dir yng nghanol y dref sydd wedi’i leoli ar ochr ddeheuol Stryt Henblas sydd wedi bod yn wag ers 1998. Mae caffael a datblygu’r safle yn y dyfodol yn rhan o’r dull sydd wedi’i nodi yng Nghynllun Adfer Canol y Dref a gymeradwywyd ym mis Gorffennaf 2020 ac sy’n ffurfio rhan o Strategaeth Creu Lleoedd ehangach y Cyngor i sicrhau adfywiad ardal allweddol yng nghanol y dref.
Fe fydd y safle yma’n cael ei ddatblygu fesul cam. I ddechrau byddwn eisiau tacluso hen safle Sinema’r Hippodrome gan fod llystyfiant o wrychoedd cymysg, coed a chwyn wedi gordyfu yno. Bydd y gwaith tacluso yn golygu crafu a chlirio’r tir o’r holl dyfiant, yna byddwn yn cynnal y safle nes y bydd rhagor o ddatblygu. Bydd y safle’n cael ei diogelu hefyd er mwyn sicrhau bod yr hysbysfyrddau’n gadarn ac yn cael eu gadael mewn cyflwr diogel.
Dywedodd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Ar ôl meddiannu’r safle yma, gallwn reoli ei dyfodol. “Ein nod yw sicrhau bod y safle’n cael ei ddefnyddio orau, ac o fudd i fusnes yng nghanol y dref. “Hwn yw’r cyntaf o sawl pryniad o fewn canol y dref. Fyddwn yn edrych ar gael gafael ar adeiladau diangen sydd wedi bod yn eistedd yn wag am rhy hir. “ Rydw i’n fodlon wrth brynu darn yma o dir, er ei bod wedi cymryd hirach nag oedden ni’n hoffi.”
Dywedodd Aelod Arweiniol Datblygiad Economaidd ac Adfywio, y Cynghorydd Terry Evans: “Rydym wedi cymryd camau cadarnhaol wrth gaffael hen safle Sinema’r Hippodrome. Mae’r safle yma wedi bod yn wag ers 1998. Mae caffael a datblygu’r safle yn y dyfodol yn rhan o’r dull sydd wedi’i nodi yng Nghynllun Adfer Canol y Dref a gymeradwywyd ym mis Gorffennaf 2020 ac sy’n ffurfio rhan o Strategaeth Creu Lleoedd ehangach y Cyngor i sicrhau adfywiad ardal allweddol yng nghanol y dref.