Categori: Busnes ac Addysg

  • Ydych chi’n cofio Dydd Llun Pawb? Bydd arddangosfa newydd yn ail nodi’r diwrnod

    Ydych chi’n cofio Dydd Llun Pawb? Bydd arddangosfa newydd yn ail nodi’r diwrnod

    Mae’n bosibl bod lliw a hwyl Dydd Llun Pawb, a welodd miloedd o bobl yn dod i ganol tref Wrecsam i ddathlu agoriad Tŷ Pawb ar ddydd Llun Gŵyl y Banc glawog, fel atgof pell wrth i ni nesáu at yr haf.

    Wrth i arddangosfa agoriadol Tŷ Pawb, Ai’r ddaear yw hon? ddod i ben ar ddiwedd mis Mehefin, bydd arddangosfa newydd sy’n edrych yn ôl dros waith paratoi carnifal Dydd Llun Pawb yn agor.

    Y teitl fydd Wrecsam yw’r Enw, a bydd yr arddangosfa newydd yn cynnwys y chwe chofrodd ar thema Wrecsam a gomisiynwyd gan Dŷ Pawb fel rhan o ddathliadau Dydd Llun Pawb, ynghyd â gwrthrychau a delweddau eraill.

    EWCH YN WYRDD – DEWISWCH FILIAU TRETH CYNGOR DI-BAPUR…

    Chwe stori wedi’u dewis

    Ym mis Tachwedd y llynedd, dewiswyd chwe artist gan Dŷ Pawb i ddatblygu cofrodd a ysbrydolwyd gan stori benodol o orffennol Wrecsam.

    Dewiswyd y chwe stori a ysbrydolodd y cofroddion gan y cyhoedd yn ystod haf y llynedd o restr hir o 25, ac fe’u datblygwyd gan yr artistiaid Sophia Leadill, John Merrill, Marcus Orlandi, Nicholas Pankhurst, Martha Todd a Bedwyr Williams.

    O’r prosiect fe ddaeth casgliad amrywiol o arteffactau, o gyhoeddiadau print i sgarffiau pêl-droed, a gaiff eu harddangos yn Nhŷ Pawb.

    Fe fydd y gwaith teimladwy, doniol ac ingol wedi’u harddangos ochr yn ochr ag amrywiaeth o eitemau dogfennau Dydd Llun Pawb – lle cafodd fersiynau o’r cofroddion eu paredio drwy’r dref i ddathlu agoriad Tŷ Pawb – a chyfweliadau gyda phob un o’r chwe artist.

    Bydd hyn yn cynnwys gwrthrychau a delweddau sy’n gysylltiedig â phrosiect Dydd Llun Pawb, a oedd yn flwyddyn o hyd, a oedd yn cynnwys gweithdai ac ymgysylltu â’r gymuned yn ystod y cyfnod a oedd yn arwain at y diwrnod dathlu ar 2 Ebrill.

    Bydd Wrecsam yw’r Enw yn rhedeg yn Nhŷ Pawb o 30 Mehefin tan 19 Awst.

    “Straeon rhyfedd a rhyfeddol”

    Dywedodd Jo Marsh, Arweinydd Celfyddydau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Mae’r broses o ddatblygu’r chwe chofrodd wedi datgelu straeon rhyfedd a rhyfeddol. Mae’r chwe artist wedi gwneud gwaith gwych wrth gyfieithu ein treftadaeth yn rhywbeth y bydd ymwelwyr i Dŷ Pawb am fod yn berchen arno a’i drysori.”

    Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn nhreftadaeth Wrecsam i ymweld â’r arddangosfa hwn yn Nhŷ Pawb. Mae hon yn enghraifft wych o’n cymunedau lleol yn cynnwys eu hunain ym mywyd Tŷ Pawb.

    “Mae’r cofroddion a gynhyrchwyd wedi’u hysbrydoli gan nifer o atgofion o’r Wrecsam a fu, ac rwy’n siŵr y bydd gan aelodau’r cyhoedd atgofion yr un mor felys ohonynt.”

    Cyflym, effeithlon ac yn dda am yr amgylchedd – dewiswch filiau Treth Cyngor di-bapur trwy FyNghyfrif

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/MyServices”] COFRESTRWCH AM FILIAU DI-BAPUR [/button]

  • Angen help ar gyfer eich busnes? Ewch i weld Canolbwynt Menter newydd Wrecsam

    Angen help ar gyfer eich busnes? Ewch i weld Canolbwynt Menter newydd Wrecsam

    Busnesau sefydledig yw enaid unrhyw economi, ac mae’r nifer o bobol sy’n awyddus i fynd i few i hunangyflogaeth yn y DU yn cynyddu.

    Os ydych chi’n un o’r rhai gyda syniad neu’r angerdd i fod yn bos eich hun, mae adnodd newydd ar gael yn Wrecsam am rad ac am ddim i helpu chi dechrau a thyfu busnes eich hun.

    Agorwyd yr Hwb Menter Busnes Wrecsam newydd ar ddydd Iau gan Ken Skates AS, Ysgrifennydd Cabinet am Economi a Seilwaith am Lywodraeth Cymru.

    EWCH YN WYRDD – DEWISWCH FILIAU TRETH CYNGOR DI-BAPUR…

    Rhedwyd yr hwb gan Town Square Spaces Ltd ar ran Busnes Cymru, ac arianwyd yr hwb gan y Gronfa Ddatblygiad Rhanbarthol Ewropeaidd.

    Mae’r Hwb yn awr yn annog ceisiadau am un o’i 20 o leoedd cronnol llawn-amser. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn popeth byddent yn eu hangen i dyfu a lansio, gan gynnwys cynghoriaeth un-i-un a desg lawn-amser am 12 mis.

    “Grym gwirioneddol dros newid economaidd”

    Dywedodd y Cyng. Terry Evans, Aelod Arweiniol Perfformiad Economaidd ac Adfywio: “Roeddwn yn falch iawn i fod yn bresennol yn agoriad y canolbwynt newydd ar Sgwâr y Frenhines.

    “Cefais y cyfle i fod yn bresennol mewn agoriad anffurfiol yn gynharach yn yr haf ac yn y ddau ddigwyddiad, roeddwn yn falch iawn i weld y brwdfrydedd tu ôl i’r canolbwynt a’i botensial fel grym gwirioneddol dros newid economaidd yn Wrecsam – yn arbennig ar gyfer busnesau bach.

    “Hoffwn ddymuno’n dda iawn i’r tîm yn Town Square Spaces a byddwn yn cynghori unrhyw un sydd â diddordeb mewn sefydlu neu ddatblygu eu busnes eu hunain i gysylltu â nhw.

    “Mae tîm busnes CBSW yn edrych ymlaen at gefnogi’r prosiect hwn a’r Town Square Team i ddatblygu ein hentrepreneuriaid drwy sicrhau fod ganddynt fynediad ar yr holl gymorth sydd ar gael iddynt.”

    “Nifer o bobol frwdfrydig”

    Dywedodd Gareth Jones, sylfaenydd Town Square Spaces, mae’r Hwb yn anelu at gynnig taith realistig at hunangyflogaeth. Yn ôl i’r FBS, hunan gyflogaeth oedd y ffynhonnell am bron dau ym mhob pump o swyddi newydd yn y 10 mlwyddyn ddiwethaf.

    Dywedodd Mr Jones: “Mae’n gyffrous i ni allu lansio’r Hwb ar ôl lot o waith gan nifer o bobol. Dechreuwyd yr holl broses mwy na flwyddyn yn ôl, ond mae’r syniad o ddod rhywbeth fel yr Hwb i’r Wrecsam wedi ei thrafod ers eisoes. Rydym wedi cyfarfod a nifer o bobol frwdfrydig wrth i ni ddatblygu’r cynllun am yr Hwb, a dwi’n sicr byddem yn llwyddiannus yn ein hamcanion ac ymhellach gyda’u chefnogaeth.

    “Mae Wrecsam yn llawn o bobol greadigol a frwdfrydig, a bydd yr Hwb yn lle i gynnig y gefnogaeth a’r amodau i helpu cwmnïoedd a syniadau i dyfu. O brosiectau unigol i weithwyr annibynnol yn edrych am gartref, neu arloeswyr diwydiannol, rydym yn falch i ddeud mae lle ar gael yn Wrecsam.”

    I weld sut allwch Fusnes Cymru helpu eich busnes, galwch 03000 6 03000, dilynwch @busnescymru neu @businesswales ar Twitter, neu ewch i www.busnescymru.llyw.cymru/ am fwy o wybodaeth.

    Cyflym, effeithlon ac yn dda am yr amgylchedd – dewiswch filiau Treth Cyngor di-bapur trwy FyNghyfrif

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/MyServices”] COFRESTRWCH AM FILIAU DI-BAPUR [/button]

  • Seren sioe oriau brig ITV o Wrecsam i berfformio yn Nhŷ Pawb

    Seren sioe oriau brig ITV o Wrecsam i berfformio yn Nhŷ Pawb

    Flwyddyn yn ôl, gwnaeth y ferch ysgol o Wrecsam Elan Catrin Parry addewid i Davina McCall ar sioe oriau brig ITV sy’n ceisio trawsnewid bywydau, ‘This Time Next Year’, yn datgelu ei breuddwyd: “Dw i eisiau creu albwm.” Un flwyddyn yn ddiweddarach, ac mae Elan wedi arwyddo cytundeb recordio o bwys gyda Decca Records.

    Mae’r ferch 15 oed yn rhyddhau ei sengl gyntaf Anfonaf Angel, gydag albwm i ddilyn yn ddiweddarach eleni. Hi yw’r gantores gyntaf o Gymru i gael ei llofnodi’n egsgliwsif i Decca ers Katherine Jenkins 15 mlynedd yn ôl. Bydd Elan yn perfformio mewn cyngerdd i ddathlu ddydd Gwener yma am 5pm yn y canolbwynt celfyddydau lleol, Tŷ Pawb.

    EWCH YN WYRDD – DEWISWCH FILIAU TRETH CYNGOR DI-BAPUR…

    Mae Elan wedi bod yn cystadlu mewn cystadlaethau canu traddodiadol yr Eisteddfodol ers yn bedair oed, yn dathlu cerddoriaeth a diwylliant ac yn cyrraedd dros 150,000 o bobl bob blwyddyn. Y llynedd, cyrhaeddodd Elain y rownd derfynol yn ei chategori yn yr Eisteddfod, a dyna lle y cafodd ei gweld gan swyddogion Decca a gynigiodd gontract recordio iddi’n ddiweddarach.

    Cafodd ei sengl Anfonaf Angel ei pherfformio’n flaenorol gan y tenor Rhys Meirion yn 2012 fel teyrnged i’w chwaer, Elen, a fu farw yn 43 oed. Mae lle arbennig i’r gân hon yng nghalon Elan gan ei bod wedi ei chlywed yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf gan Rhys yn yr Eisteddfod ac wedi syrthio mewn cariad â’r gân. Cafodd y gân hefyd ei chwarae yng nghynhebrwng taid Elan.

    Mae’r ferch ifanc yn angerddol am barhau â llinach cerddoriaeth gorawl Gymreig a chadw’r traddodiad yn fyw, a bydd ei albwm gyntaf yn cynnwys caneuon yn y Gymraeg a’r Saesneg. Wrth siarad am ei dewis o ganeuon, mae’n dweud “Yn gerddorol, mae’n gymysgedd o ganeuon gwerin a thonau clasurol.” Mae hi’n ddwyieithog ac yn newid yn naturiol o’r Gymraeg i’r Saesneg – ar yr albwm a gartref. “Rydw i bob amser wedi canu’n Gymraeg ac mae’n rhywbeth sy’n naturiol i mi,” meddai am ei hangerdd at yr iaith. “Mae dyletswydd ar fy nghenhedlaeth i’w drosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf.”

    Fel y gwelodd y gwylwyr ar ‘This Time Next Year’ gwnaeth Elan ei haddewid a gadawodd drwy’r drws ‘This Time’ yn y stiwdio i ddechrau ar ei blwyddyn o her. Ond diolch i fformat “teithio mewn amser” y sioe, yr hyn y gwelodd y gwylwyr eiliadau’n ddiweddarach oedd Elan yn dod allan drwy’r drws ‘Next Year’ yn y stiwdio i ddweud wrth Davina am y flwyddyn a fu a’i gwelodd yn mynd o fod yn ferch ysgol i fod yn seren recordio.

    Yn sgil fformat y sioe, un o’r darnau anoddaf i Elan oedd cadw’r gyfrinach am ei thaith gyffrous am flwyddyn gyfan. “Yn ffodus, roeddwn yn gallu ei drafod a’i rannu gyda fy nheulu a’m ffrindiau agos, a dw i erioed wedi bod yn un sy’n brolio’r hyn dw i’n ei wneud, ond mae blwyddyn yn amser hir!

    “Roedd mor gyffrous i mi ei ffilmio,” medai, “Roedd Davina mor hyfryd, gan ei gwneud yn hawdd iawn, gan fod y cyfan yn newydd i mi – cael fy ngwallt a’m colur wedi ei wneud yn broffesiynol, dydw i ddim fel arfer yn gwisgo llawer o golur ond roedd yn dipyn o hwyl i roi cynnig ar y cyfan! Mi wnes i wisgo gwisg goch a dywedodd ei bod yn hoff ohoni. Ond wrth gwrs, y peth pwysicaf a’r mwyaf bendigedig oedd fy mod wedi cael fy arwyddo, a dw i wedi creu albwm rwyf wrth fy modd efo fo.”

    Mi wnaeth Davina McCall hefyd fwynhau cwrdd ag Elan hefyd – gan ddweud ar y sioe, “Mae’r cyfuniad o dy wyneb prydferth, prydferth a’r llais anhygoel yna yn fy swyno.”

    Mae Elan, sy’n byw gyda’i rhieni a’i chwaer ieuengach, wedi bod yn y stiwdio wrth iddi astudio am ei arholiadau TGAU. Mae hi’n mwynhau chwarae’r piano, y clarinet, drymiau a’r delyn, yn ogystal â chanu. Mae hi hefyd yn chwarae pêl-rwyd ac yn rhedeg – gan hyd yn oed fynd trwodd i rownd derfynol rhedeg Traws Gwlad Ysgolion Cymru.

    Cerddoriaeth, serch hynny, fydd cariad cyntaf Elan. Mae’r llais newydd nefolaidd o ‘Wlad y Gân’ yn sicr o swyno cynulleidfaoedd am flynyddoedd i ddod.

    Cyflym, effeithlon ac yn dda am yr amgylchedd – dewiswch filiau Treth Cyngor di-bapur trwy FyNghyfrif

    button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/MyServices”] COFRESTRWCH AM FILIAU DI-BAPUR [/button]

  • Ai Caer a Wrecsam fydd cartref newydd Channel 4?

    Ai Caer a Wrecsam fydd cartref newydd Channel 4?

    Mae cais cymhellol wedi cael ei wneud i Gaer a Gogledd Cymru ddod yn gartref i’r darlledwr.

    Eisoes, mae’r cartref ar y sgrin i raglen Channel 4, Hollyoaks , Caer – ynghyd â’i gymydog Wrecsam – bellach yn y ras i groesawu pencadlys cenedlaethol y darlledwr gyda chyflwyniad cryf.

    Mae’r darlledwr cenedlaethol yn symud 300 o’i 800 o staff o’r brifddinas i dri lleoliad newydd mewn gwahanol leoliadau ledled y DU fel rhan o’i gynllun 4.

    Mae dwy ardal Caer a Wrecsam wedi uno i annog Channel 4 i sefydlu ei bencadlys newydd yn y maes trawsffiniol unigryw hwn.

    Mae’r cynnig gan ddwy wlad amrywiol yn seiliedig ar y berthynas waith agos rhwng Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ASau, busnesau a’r gymuned ehangach ar y ddwy ochr i’r ffin.

    • Mae diwylliannau a ffyrdd o fyw o bob math yn ein hardal ni sy’n cynrychioli amrywiaeth Prydain fodern.
    • Mae’r cynnig yn cyflwyno neges o undeb ac yn rhoi addewid bod y symud wirioneddol yn gynllun fydd ar gyfer pawb o’r DU
      Dewis o swyddfeydd unigryw, o ansawdd uchel, sydd ag offer digidol sy’n gallu cael eu teilwra i anghenion mwy penodol.
    • Ardal gafodd ei nodi fel un o’r lleoedd gorau i fyw ynddi yn y DU gyda safonau byw uchel, ysgolion gwych a nifer fawr o atyniadau.
    • Lleoliad strategol yng nghalon y DU gydag economi hyfyw sy’n uchel ei barch o ran iechyd, lles a hapusrwydd.
    • Cartref i rai o raglenni mwyaf ym mhortffolio Channel 4.

    Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Mae hon yn enghraifft o ddwy wlad – a dau gyngor cyfagos – yn dod at ei gilydd i gynnig cyfle unigryw i un o gwmnïau mwyaf arloesol y DU.

    “Mae gan Wrecsam gronfa ddofn o ddoniau ar draws ei choleg, ei phrifysgol a’r sectorau creadigol, ac mae’n lle gwirioneddol gyffrous i bobl a busnesau creadigol ar hyn o bryd.

    A thrwy uno â’n cymdogion yng Nghaer, gallwn roi cynnig unigryw a llawer mwy pwerus i Channel 4 – gan roi mwy o gyfleoedd i ni fod yn llwyddiannus a chyflawni canlyniad y gall Wrecsam a Chaer elwa ohono.”

    Bydd y darlledwr yn sefydlu ei hun mewn tri lleoliad ledled y DU, pencadlys a dau ganolbwynt creadigol pellach. Mae’r darlledwr wedi addo gwario 50 y cant o’i arian cynnwys yn y rhanbarthau. Mae’n amcangyfrif y bydd 3,000 o swyddi cynhyrchu yn cael eu hategu gan y busnes newydd.

    EWCH YN WYRDD – DEWISWCH FILIAU TRETH CYNGOR DI-BAPUR…

    Dywedodd Chris Matheson, AS Caer: “Roeddwn i eisoes wedi ysgrifennu at benaethiaid Channel 4 yn eu gwahodd i ystyried Caer, ac mae ein cynnig wedi cael ei gryfhau’n anfesuradwy wrth uno â Gogledd Cymru. Mae Caer a Gogledd Cymru yn gweddu’n berffaith â chenhadaeth Channel 4 i fod yn arloesol a pheidio â gwneud y pethau amlwg fel mynd i un o’r dinasoedd mwy.

    “Bydd ein hardal yn hawdd i’w gwerthu i staff Channel 4, gyda’n hysgolion gwych, ein lleoliad canolog a’n cysylltiadau cludiant, ac am ein bod wedi’n cydnabod fel un o’r lleoedd gorau i fyw ynddo. Drwy gyfuno hynny gyda’n sector creadigol a diwylliannol deinamig sy’n ehangu, a’n cysylltiadau cryf gyda Channel 4, rydym ni’n credu bod gennym gynnig pwerus iawn ar gyfer Channel 4 a’i weithwyr.”

    Dywedodd y Cynghorydd Samantha Dixon, Arweinydd Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer: “Mae hwn yn gyfle cyffrous iawn i Wrecsam a Chaer. Credwn bod gennym gymaint i’w gynnig i Channel 4, a allai elwa o sefydlu yn un o ranbarthau gorau’r wlad.

    “Mae gan Gaer gysylltiadau agos â Channel 4. Mae’r ddinas yn gartref i’r rhaglen The Secret Life of the Zoo, a enwebwyd am Wobr Bafta, ac mae hefyd yn gartref i Hollyoaks. Y rhaglen boblogaidd hon yw rhaglen fwyaf Channel 4 a gomisiynir gan Wledydd a Rhanbarthau, ac rydym wedi croesawu’r cast a’r criw sydd wedi ffilmio ledled y ddinas dros y blynyddoedd.

    “Mae cyfoeth o ddoniau creadigol yma yng Nghaer a Gogledd Cymru i Olygyddion Comisiynu Rhaglenni’r darlledwr ddewis ohonynt. Bydd atyniad byw yn ein rhanbarth a’r seilwaith lleol cadarn sydd â chysylltiadau â’r rhwydwaith cludiant yn denu’r doniau gorau i weithio yn Channel 4.”

    Dywedodd Ian Lucas, AS Wrecsam: “Mae gennym gyfle i ddod â Channel 4 i’n cymuned trawsffiniol, unigryw yng Nghaer a Gogledd Cymru. Mae’r cynnig gan ddwy wlad amrywiol ac yn seiliedig ar y berthynas waith agos a ddatblygwyd yn y blynyddoedd diwethaf gan gynghorau, busnesau a’r gymuned ehangach ar y ddwy ochr i’r ffin.

    “Mae gennym sector creadigol lewyrchus gydag artistiaid o amgylch Caer, Wrecsam a Bangor, ac rydym ni eisiau i Channel 4 dorri’r patrwm, fel y mae wedi’i wneud yn y gorffennol, drwy symud i ranbarth ddeinamig, sy’n symud yn ei flaen.”

    Cyflym, effeithlon ac yn dda am yr amgylchedd – dewiswch filiau Treth Cyngor di-bapur trwy FyNghyfrif

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/MyServices”] COFRESTRWCH AM FILIAU DI-BAPUR [/button]

  • NODWCH: Cyngor busnes am ddim am eich busnes newydd

    NODWCH: Cyngor busnes am ddim am eich busnes newydd

    Gareth Hatton, sydd â thros 10 mlynedd o brofiad yn gweithio i’r Llinellfusnes, yn egluro sut gall y Llinellfusnes eich helpu chi.

    Problem gyda cheudwll? Dwedwch wrthym ni yn hawdd ac yn gyflym ar-lein.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/online_w/eforms/pothole.htm “] DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL [/button]

  • Hwyl yn yr haul i ddathlu prosiectau lleol o fudd i 900 o bobl ifanc

    Hwyl yn yr haul i ddathlu prosiectau lleol o fudd i 900 o bobl ifanc

    Ymunodd grŵp o bobl ifanc o ddau brosiect lleol a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) â’i gilydd ddydd Mercher 9 Mai i ddathlu diwrnod yr UE ynn Ngogledd Ddwyrain Cymru.

    Roedd y diwrnod yn cynnwys ystod eang o weithgareddau llawn hwyl ar draeth Talacre, cinio yng Nghanolfan Ieuenctid Treffynnon ac ymweliad i Gastell y Fflint i gloi. Lluniwyd y digwyddiad gyda thema ‘Blwyddyn y Môr’ Llywodraeth Cymru mewn golwg, yn ogystal ag arddangos beth sy’n wych am ‘Treftadaeth Ddiwylliannol’ Cymru i gyd-fynd gyda’r thema ar draws Ewrop ar gyfer dathliadau Diwrnod Ewrop eleni.

     

    Dywedodd Karen Whitney-Lang, Rheolwr Rhaglen Prosiectau TRAC ac ADTRAC ar draws Wrecsam a Sir y Fflint, a threfnydd y digwyddiad: “Mae’r ddau brosiect wedi elwa o gyfanswm 900 o bobl rhwng 11 a 24 mlwydd oed ers lansio TRAC ym mis Ebrill 2016 ac ADTRAC ym mis Ionawr eleni. Mae’r staff a’r bobl ifanc a aeth i ddigwyddiad heddiw yn cynrychioli llwyddiant y prosiect hyd yn hyn, ac mae’n wych fod pawb wedi cofleidio’r diwrnod. Rydym yn falch iawn o arddangos effeithiau cadarnhaol buddsoddiad Cronfa Gymdeithasol Ewrop. Mae’r digwyddiad wedi cael ei gynnwys mewn cystadleuaeth Diwrnod UE ADTRAC 16-24 ac rydym i gyd yn croesi ein bysedd y bydd y wobr yn dod i Ogledd Ddwyrain Cymru, er bod cystadleuaeth gref gan ein cydweithwyr mewn siroedd cyfagos”.

    EWCH YN WYRDD – DEWISWCH FILIAU TRETH CYNGOR DI-BAPUR…

     Dathliadau ar draws Ewrop

    Cynhelir Diwrnod Ewrop bob blwyddyn ym mis Mai, ac mae’n dathlu heddwch ac undod yn Ewrop. Mae’r dyddiad yn nodi pen-blwydd ‘datganiad Schuman’. Mewn araith ym Mharis yn 1950, nododd Robert Schuman, gweinidog tramor Ffrainc ar y pryd, ei syniad am fath newydd o gydweithio gwleidyddol yn Ewrop, a fyddai’n gwneud y syniad o ryfel rhwng cenhedloedd yn un amhosibl ei ddychmygu. Mae cynnig Schuman yn cael ei ystyried fel dechrau, beth sydd nawr yn cael ei alw’n Undeb Ewropeaidd. Bob blwyddyn mae miloedd o bobl yn cymryd rhan mewn dathliadau ar draws Ewrop i nodi Diwrnod Ewrop ac i godi ymwybyddiaeth o’r UE.

    I ddathlu gyda’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn prosiectau a ariennir gan ESF, gweithiodd aelodau o dimau TRAC a ADTRAC Wrecsam a Sir y Fflint mewn partneriaeth gyda Groundwork Gogledd Cymru i gynnal ystod eang o weithgareddau llawn hwyl, o hedfan barcud a chodi cestyll tywod i ras sbrowts Brwsel a llwy ar y traeth!

    Rhoddodd gyfle i bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y prosiectau i fwynhau diwrnod llawn hwyl a chael cefnogaeth lles gan eu Mentoriaid Ymgysylltu Ieuenctid i fagu eu hyder a’u hunan-barch. I rhai o’r bobl ifanc oedd yn cymryd rhan, dyma eu profiad gyntaf o ymweld â thraeth a chastell, a rhoddodd y diwrnod gyfle iddynt i fwynhau rhai o safleoedd lleol Gogledd Ddwyrain Cymru.

     Cefnogaeth Un-i-Un

    Mae prosiectau TRAC ac ADTRAC yn cael eu noddi’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, gan gynnig cefnogaeth bersonol i bobl ifanc rhwng 11 a 24 mlwydd oed, i ddymchwel rhwystrau a’u helpu i ymgysylltu â’u haddysg neu i fynd ymlaen i waith, addysg neu hyfforddiant.

    Cewch wybod mwy am y prosiect ADTRAC neu cysylltwch â thîm ADTRAC Wrecsam a Sir y Fflint ar ADTRAC@wrexham.gov.uk i gael rhagor o fanylion ynghylch y broses atgyfeirio ar gyfer sefydliadau yn ogystal â hunan-atgyfeiriadau.

    Cewch wybod mwy am y prosiect TRAC neu cysylltwch dros e-bost ar TRAC@wrexham.co.uk.

    Cyflym, effeithlon ac yn dda am yr amgylchedd – dewiswch filiau Treth Cyngor di-bapur trwy FyNghyfrif

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/MyServices”] COFRESTRWCH AM FILIAU DI-BAPUR [/button]

  • Dewch i ddychmygu dyfodol Wrecsam…

    Dewch i ddychmygu dyfodol Wrecsam…

    Dychmygwch ddyfodol lle mae Wrecsam wedi datblygu technoleg i’w phweru ei hun gyda 100% o ynni adnewyddadwy.

    Mewn Wrecsam ddi-garbon, byddem yn gallu ein bwydo ein hunain yn gynaliadwy a gadael hinsawdd ddiogel i fyw ynddi i’n plant a chenedlaethau’r dyfodol.

    Pe byddech chi’n gallu byw yn y dyfodol fel hyn a bod gennych gyfle i anfon cerdyn post ‘yn ôl mewn amser’ i Wrecsam fel mae hi rŵan, beth fyddech chi’n ei ddweud wrthym ni?

    Bydd Tŷ Pawb yn eich gwahodd chi i ysgrifennu eich neges yn y digwyddiad ‘Cardiau Post o’r Dyfodol’.

    EWCH YN WYRDD – DEWISWCH FILIAU TRETH CYNGOR DI-BAPUR…

    Sut allwn ni greu dyfodol y gellir ei ddefnyddio?

    Mae Tŷ Pawb yn edrych ymlaen at groesawu Paul Allen yn ei ôl i Dŷ Pawb ar gyfer y digwyddiad dilynol hwn i ‘Wrecsam Ddi-garbon’.

    Mae’n un o gyfres o ddigwyddiadau sy’n cyd-fynd â’r arddangosfa fawr gyntaf yn Nhŷ Pawb, ‘Ai’r Ddaear yw Hon?’

    Pwrpas ‘Cardiau Post o’r Dyfodol’ yw annog sgwrs barhaus am gynaliadwyedd a newid hinsawdd ac effaith hyn arnom ni a’n cynefin.

    Gall deall y stori hon newid sut rydym yn meddwl am ein byd a ni’n hunain, gan ein gwneud ni’n fwy agored i bosibiliadau newydd a rhoi hyder i ni ddychmygu Wrecsam ddi-garbon.

    Lle newydd cyffrous ar gyfer trafodaethau

    Dywedodd y Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Pobl, Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae Tŷ Pawb yn rhoi gofod newydd cyffrous i Wrecsam drafod pynciau sy’n cynnwys materion cymdeithasol a dinesig, yr amgylchedd, iechyd, hunaniaeth ddiwylliannol, cynaliadwyedd ac addysg.

    “Rydw i’n falch iawn o weld Paul Allen yn dod yn ôl i Dŷ Pawb ar gyfer y digwyddiad hwn. Bydd ei ffordd arloesol o ddychmygu’r dyfodol yn cychwyn pob math o sgyrsiau am y materion sy’n dod yn fwyfwy pwysig yn y byd modern.”

    Bydd ‘Cardiau Post o’r Dyfodol’ yn cael ei gynnal yn Nhŷ Pawb ddydd Iau 17 Mai, 6.30pm-8.00pm.

    Mae’r digwyddiad am ddim ond byddai’n well cadw lle ymlaen llaw i wneud yn siŵr y gallwch ddod!

    Cyflym, effeithlon ac yn dda am yr amgylchedd – dewiswch filiau Treth Cyngor di-bapur trwy FyNghyfrif

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/MyServices”] COFRESTRWCH AM FILIAU DI-BAPUR [/button]

  • Pa ysgol sydd bellach dan un to?

    Pa ysgol sydd bellach dan un to?

    Mae ‘na lawer o hwyl a dathlu wedi bod yn Ysgol Penycae yn ddiweddar wrth i’r ysgol nodi cwblhad gwerth £2.6miliwn o waith adeiladu ac ailwampio sy’n golygu fod yr holl ddisgyblion ac athrawon bellach gyd gyda’i gilydd dan un to am y tro cyntaf.

    Erbyn hyn mae gan yr ysgol 4 ystafell ddosbarth newydd, neuadd newydd, gwell cyfleusterau cegin a gwell lle chwarae.

    Cwmni Reed Construction wnaeth yr holl waith gan ei gwblhau o fewn y gyllideb a’r amserlen y cytunwyd arnynt.

    EWCH YN WYRDD – DEWISWCH FILIAU TRETH CYNGOR DI-BAPUR…

    “Gwir ymdeimlad o gymuned”

    Cllr Mark Pritchard, Leader of Wrexham Council, said: “Roeddwn i wrth fy modd cael mynd i’r ysgol i weld drosof fy hun beth mae’r gwelliannau hyn yn eu golygu i’r disgyblion a’r staff dysgu. Mae ‘na ymdeimlad o gymuned go iawn yno rŵan ac mae dyfodol yr ysgol yn edrych yn llewyrchus dros ben. Mae ein gwelliannau parhaus i’n hysgolion yn arwydd o’n hymrwymiad i wella’r amgylchedd addysgol ar gyfer disgyblion a staff. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i’n cefnogi ni yn hyn o berth drwy nawdd Ysgolion yr 21ain Ganrif roeddwn yn falch iawn o weld eu cynrychiolwyr yn y dathliadau.”

    “Diwrnod gwych i’r ysgol”

    Meddai Cadeirydd y Llywodraethwyr, y Cynghorydd Joan Lowe: “Mae hwn yn ddiwrnod da i’r ysgol ac roeddwn i’n falch iawn o groesawu pawb i’r cyfleusterau newydd a dadorchuddio’r plac ar y cyd â dau o ddisgyblion yr ysgol. Hoffwn ddiolch i bawb oedd yn rhan o hyn a sicrhau fod y gwelliannau’n digwydd ac am ein gwneud ni i gyd mor falch o’n hysgol. Da iawn chi bawb a phob lwc i’r disgyblion a’r staff ar ddechrau’r bennod newydd hon yn hanes yr ysgol.”

    “Cyfleusterau Rhagorol”

    Dywedodd Kirsty Williams: “Mae ein Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif yn ymwneud nid yn unig ag adeiladau newydd ond hefyd â gwella ein hysgolion presennol er mwyn creu’r amgylcheddau dysgu gorau ar gyfer ein dysgwyr. Rydw i mor falch o weld cwblhad y prosiect hwn, a gyflawnwyd gyda nawdd cyfatebol o £1.3m gan Lywodraeth Cymru, sydd hefyd wedi darparu Neuadd newydd, gwell cegin, mannau parcio a lle chwarae yn ogystal ag ardal wedi’i hail-ddylunio’n gyfangwbl ar gyfer y Cyfnod Sylfaen – cyfleusterau rhagorol a fydd yn cael eu mwynhau am flynyddoedd i ddod”
    Ariannwyd y gwaith gan ddefnyddio cyllid Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru a nawdd cyfatebol gan Gyngor Wrecsam.

    “Amcanion gwerth cymdeithasol

    Dywedodd Kasia Pugh, Rheolwr Ymgynghori â Read Construction, “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cyflwyno’r cynllun hwn, ynghyd â Chyngor Wrecsam a Fframwaith Gogledd Cymru, gan ddarparu amgylchedd dysgu o’r 21ain ganrif ar gyfer y disgyblion. Drwy gydol y prosiect, gwnaethom gyflawni nifer o amcanion cymdeithasol, gan gynnwys gwneud y mwyaf o hyfforddiant a recriwtio ar gyfer pobl leol i elwa’r gymuned leol.

    Dywedodd yr Aelod Lleol, y Cyng. John Phillips, “Mae uno’r ddwy ysgol o fudd i’r ardal gyfan. Ysgol fodern ar gyfer yr 21ain ganrif sydd ag adnoddau da ac sy’n addas at ei diben lle fydd plant yn ffynnu ac yn cyflawni cymaint ag y gallant. Mae ansawdd yr estyniad newydd yn hollol wych ac mae’n gweddu’n dda i’r adeilad gwreiddiol. Hoffwn fanteisio ar y cyfle yma i ddiolch i bawb am eu gwaith caled a’u hymroddiad. Rydyn ni’n gwerthfawrogi hynny’n fawr iawn.”
    Ariannwyd y gwaith gan ddefnyddio cyllid Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru a nawdd cyfatebol gan Gyngor Wrecsam.

    Cyflym, effeithlon ac yn dda am yr amgylchedd – dewiswch filiau Treth Cyngor di-bapur trwy FyNghyfrif

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/MyServices”] COFRESTRWCH AM FILIAU DI-BAPUR [/button]

  • Prosiect newydd yn cychwyn ar garlam!

    Prosiect newydd yn cychwyn ar garlam!

    Mae dros 100 o bobl ifanc eisoes wedi eu cyfeirio at brosiect ADTRAC ar gyfer Wrecsam a Sir y Fflint, a lansiodd ym mis Chwefror eleni.  Mae’r prosiect, a gefnogir drwy Gronfeydd Strwythurol Ewrop, yn ceisio cynnig cefnogaeth bwrpasol wyneb yn wyneb gan fentoriaid personol ADTRAC neu ymarferwyr iechyd meddwl y GIG yn ogystal â hyfforddiant a chyrsiau wedi eu dylunio i gwrdd ag anghenion penodol a gwell alles pobl ifanc 16-24 oed sydd yn cymryd rhan yn y prosiect.

    Mae’r prosiect yn cynnal cymorth personol i bobl ifanc i chwalu rhwystrau a helpu eu cynnydd i fyd gwaith, addysg, neu hyfforddiant.

    “Canlyniadau Trawiadol”

    Wrth siarad mewn digwyddiad dathlu ar gyfer pobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y prosiect ddydd Gwener 30 Ebrill 2018, dywedodd Aelod Cynulliad Wrecsam, Lesley Griffiths:  “Mewn cyfnod cymharol fyr, mae prosiect ADTRAC wedi cyflawni canlyniadau trawiadol, gyda dros 100 o bobl yn elwa ar y gwasanaethau a ddarperir.  Mae’n braf gweld nifer o asiantaethau yn gweithio mewn partneriaeth, yn cefnogi rhai o’r bobl fwyaf diamddiffyn mewn cymdeithas drwy gynnig y cyfle i ennill cymwysterau na fyddent efallai wedi eu cyflawni fel arall.”

    “Roedd yn anrhydedd mawr i gael cyflwyno tystysgrifau i’r oedolion ifanc sy’n cymryd rhan yn y prosiect ADTRAC.  Ar ôl treulio amser gyda rhai o’r unigolion, roedd yn amlwg fod eu hyder a’u hunan-gred yn cynyddu, ac rwy’n gobeithio y bydd hyd yn oed mwy o oedolion ifanc o Wrecsam a’r ardaloedd cyfagos yn elwa o’r prosiect yn y dyfodol.”

    DWEUD EICH DWEUD AM DDYFODOL TAI YN WRECSAM.

    Gweithio mewn partneriaeth

    Arweinir ADTRAC gan Grŵp Llandrillo Menai ar draws Gogledd Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Sir y Fflint a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gyda chefnogaeth gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a Gyrfa Cymru.

    “Angen gwirioneddol am y gwasanaeth”

    Dywedodd y Cynghorydd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi, “Mae hwn yn ddechrau gwych i’r prosiect ac rwy’n gynhyrfus i weld sut y bydd yn parhau. Gyda dros 100 o atgyfeiriadau yn barod, mae’n dangos fod angen gwirioneddol am y gwasanaeth ac y bydd yn gwneud gwasanaeth i fywydau pobl ifanc yn yr ardal. Fedra i ddim aros i weld sut bydd y prosiect hwn yn datblygu dros y misoedd nesaf.”

    Beth mae ADTRAC yn ei gynnig?

    • Cymorth dwys un i un
    • Cynlluniau gweithredu personol
    • Cefnogaeth i ddatblygu hyder a goresgyn rhwystrau
    • Cymorth lles gan gynnwys y cyfle i gael mynediad at ddarpariaeth ar gyfer anghenion iechyd meddwl ysgafn / cymedrol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
    • Mynediad at hyfforddiant
    • Cymorth cyflogadwyedd

    Cewch wybod mwy am y prosiect ar https://www.gllm.ac.uk/adtrac neu cysylltwch â thîm ADTRAC Wrecsam a Sir y Fflint ar ADTRAC@wrexham.gov.uk i gael rhagor o fanylion ynghylch y broses atgyfeirio ar gyfer sefydliadau yn ogystal â hunan-atgyfeiriadau.

    Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=612&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy “] DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI  [/button]

  • Dewch i werthu a phrynu yn Sêl top fwrdd Tŷ Pawb…

    Dewch i werthu a phrynu yn Sêl top fwrdd Tŷ Pawb…

    Ydych chi’n dymuno cael gafael ar fargen neu werthu eich eitemau diangen eich hun?

    Dewch draw i Sêl top fwrdd Tŷ Pawb!

    Os nad ydych chi erioed wedi bod i Sêl top fwrdd o’r blaen, meddyliwch amdano fel gwerthu cist car dan do!

    Gall unrhyw un sy’n dymuno gwerthu eitemau ar y diwrnod gysylltu â chi i archebu bwrdd (mawr neu fach) lle gallwch chi werthu’ch eitemau.

    DWEUD EICH DWEUD AM DDYFODOL TAI YN WRECSAM.

    Diwrnod llawn o weithgareddau

    I siopwyr, mae hyn yn golygu y gallai fod pob math o eitemau ar werth,
    felly beth am ddod a chael golwg?

    Mae gennym hefyd gerddoriaeth fyw wedi’i lunio ar gyfer y prynhawn a bydd lluniaeth ar gael trwy gydol y dydd.

    Bydd y Maes Parcio ar agor yn llawn ar gyfer y digwyddiad.

    Meddai Prif Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Mark Pritchard: “Mae’r Sêl top fwrdd yn addo bod yn ddiwrnod prysur arall yn Nhŷ Pawb. I lawer o bobl, mae penwythnosau yn amser delfrydol i fynd allan, felly rwyf wrth fy modd ein bod yn cynnig diwrnod llawn o weithgareddau. Bydd cerddoriaeth fyw yn dilyn y Siopa Tabl a bydd ein Marchnadoedd a’n Llys Bwyd ar agor felly rwy’n gobeithio y bydd yn ddigwyddiad pleserus iawn. ”

    Beth sydd angen i chi wybod

    • Cynhelir y Sêl top fwrdd ar ddydd Sul 13 Mai.
    • Dylai’r gwerthwr gyrraedd 8.00am i sefydlu.
    • Bydd y gwerthiant ei hun yn dechrau 9.00am.
    • Os hoffech chi ddod a gwerthu eitemau, gallwch archebu bwrdd mawr am £10, neu fwrdd bach am £5.

    I archebu bwrdd neu i gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, e-bostiwch typawb@wrexham.gov.uk neu ffoniwch 01978 292093.

    Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=612&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy “] DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI [/button]