Categori: Busnes ac Addysg

  • Mwy o ddigwyddiadau galw heibio wedi eu trefnu ar gyfer Cynllun Tai Gofal Ychwanegol

    Mwy o ddigwyddiadau galw heibio wedi eu trefnu ar gyfer Cynllun Tai Gofal Ychwanegol

    Mae’r ymateb wedi bod mor dda i ddatblygiad tai gofal ychwanegol newydd yn Wrecsam felly trefnwyd digwyddiadau diwrnod galw heibio ychwanegol i helpu pobl wybod mwy.

    Rydym eisoes wedi cynnal digwyddiadau galw heibio ar gyfer Maes y Dderwen, y Cynllun Tai Gofal Ychwanegol ar Ffordd Grosvenor a ddatblygwyd mewn partneriaeth rhwng Cyngor Wrecsam, Llywodraeth Cymru a’r Grŵp Tai Pennaf.

    Mae’r cynllun gofal ychwanegol Maes y Dderwen £10.5 miliwn yn darparu gofal preswyl amgen ac mae wedi’i ddylunio’n benodol i bobl leol 60 oed neu hŷn sy’n dymuno byw yn annibynnol mewn cartref eu hunain gyda’r tawelwch meddwl o fynediad 24 awr i ofal a chefnogaeth.

    PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.

    Mae’r diddordeb yn y datblygiad wedi bod mor boblogaidd rydym wedi trefnu cyfres arall o ddigwyddiadau gwybodaeth galw heibio yn Amgueddfa Wrecsam, Stryt y Rhaglaw.

    Y dyddiadau a drefnwyd ar gyfer y digwyddiad gwybodaeth yw:

    • Dydd Llun, 16 Ebrill – 10am tan 4pm
    • Dydd Sadwrn, 21 Ebrill 11am tan 2pm
    • Dydd Llun, 23 Ebrill – 10am tan 4pm
    • Dydd Llun, 30 Ebrill – 10am tan 4pm

    Bydd lluniau, cynlluniau, ffilm fer, llyfrynnau a thaflenni ffeithiau ar Maes y Dderwen ar gael, a bydd cynrychiolydd o Grŵp Pennaf hefyd wrth law i ateb cwestiynau gan unrhyw un â diddordeb.

    “Diddordeb yn datblygu”

    Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion yng Nghyngor Wrecsam: “Mae diddordeb yn datblygu ym Maes y Dderwen ac rydym yn falch iawn o ddweud  bod y newyddion da am y datblygiad eisoes wedi denu adborth cadarnhaol iawn – ond rydym yn gwybod bod rhai aelodau o’r cyhoedd yn ystyried Gofal Ychwanegol fel dewis ar gyfer tŷ yn y dyfodol ac roeddem eisiau cynnal mwy o ddigwyddiadau gwybodaeth i sicrhau eu bod yn cael yr holl wybodaeth maent ei hangen.”

    Ychwanegodd Steve Robinson, Rheolwr Gwasanaethau Gofal Ychwanegol gyda Pennaf: “Mae Maes y Dderwen wedi’i ddylunio’n benodol i alluogi pobl i fyw’n dda, yn eu cartref eu hunain, gyda mynediad i gefnogaeth sy’n gallu addasu wrth i’w hanghenion newid.

    Mae’r cynllun yn ddewis ardderchog i’r sawl ag ystod eang o anghenion cefnogaeth, o’r sawl sy’n edrych am ychydig o gymorth ychwanegol i’r sawl â gofynion mwy cymhleth.”

    Gall unrhyw un â diddordeb alw i mewn yn un o’r sesiynau neu gallant gysylltu â ni drwy ffonio 0800 183 5757 neu anfon e-bost i enquiries@tyglas.co.uk

    Neu, gallwch ymweld â gwefan Maes y Dderwen yma i wybod mwy.

    Mae Maes y Dderwen wedi’i ariannu gyda chefnogaeth Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a chyllid Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid a sicrhawyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, hefyd arian preifat a drefnwyd gan Grŵp Tai Pennaf.

    Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am ebostiau wythnosol rŵan.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

  • Gwaith beirniadu i sêr chwaraeon Wrecsam yng Ngemau’r Gymanwlad

    Gwaith beirniadu i sêr chwaraeon Wrecsam yng Ngemau’r Gymanwlad

    Llun: Y Cynghorydd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol gyda chyfrifoldedb dros Hamdden, a hyfforddwr Clwb Gymnasteg Olympus Paul Edwards.

    Fel y gwelsom ni drwy lwyddiant athletwyr Cymru – yn gynnwys pherfformiad tîm hoci merched Cymru – mae gan Gymru dîm o’r safon uchaf yng Ngemau’r Gymanwlad 2018 ar Arfordir Aur Awstralia.

    Ond nid athletwyr o Gymru’n unig sy’n cael llwyddiant rhyngwladol yn y gemau eleni.

    Diolch i ddau o enwogion chwaraeon o Wrecsam, bydd cynrychiolaeth o Gymru ymysg y rhai sy’n beirniadu hefyd.

    PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.

    Mae Paul Edwards, Prif Hyfforddwr a Chyfarwyddwr Clwb Gymnasteg Olympus, Llai, yn un o ddau feirniad o Gymru fydd yng Ngemau’r Gymanwlad eleni.

    Bydd yn barnu cystadleuaeth Freiniol Artistig y Dynion, ac yn Brif Feirniad ar gyfer cystadleuaeth Llawr a Llofnaid y Dynion.

    Bydd Jan Davies, sydd hefyd o Wrecsam, yn barnu’r gystadleuaeth Freiniol gyda Paul.

    “Braint ac anrhydedd cael cynrychioli Cymru”

    Dywedodd Paul: “Mae’n fraint ac anrhydedd cael cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad 2018 ar yr Arfordir Aur, yn enwedig ar ôl cael fy enwebu gan Gymnasteg Cymru a Gymnasteg Prydain, ac mae fy swydd fel Prif Feirniad ar gystadleuaeth Llawr a Llofnaid y Dynion wedi’i chymeradwyo gan y Ffederasiwn Gymnasteg Rhyngwladol.

    “Rwy’n gobeithio y bydd nifer o’r beirniaid iau yn fy ngweld i yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2018 ac y galla’ i eu hysbrydoli i fod yn fy sefyllfa i yn y dyfodol.”

    “Ffodus o gael hyfforddwyr o safon mor uchel yn ein hardal”

    Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrth-dlodi, sydd â chyfrifoldeb dros Hamdden: “Fe wnes i gyfarfod Paul a’r tîm yng Ngwobrau Chwaraeon diweddar Wrecsam ac roeddwn i’n awyddus iawn i fanteisio ar y cyfle i ymweld â’r clwb yn Llai.

    “Mae eu brwdfrydedd dros y gamp a thros helpu pobl ifanc i gyrraedd eu nod yn lleol yn arbennig. Rydyn ni wir yn ffodus o gael hyfforddwyr o safon mor uchel yn ein hardal.

    “Rydw i’n dymuno pob hwyl i Paul a Jan yn Awstralia – mae’n anhygoel bod y ddau feirniad o Gymru ar gyfer cystadleuaeth Freiniol Artistig y Dynion yn dod o Wrecsam.”

    Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am ebostiau wythnosol rŵan.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

  • Nofelau graffig AM DDIM mewn pryd at Comic Con Cymru!

    Nofelau graffig AM DDIM mewn pryd at Comic Con Cymru!

    Ydych chi’n edrych ymlaen at Comic Con Cymru?

    Ydych chi wrth eich bodd â nofelau graffig?

    Wel, os ydych chi’n aelod o’ch llyfrgell leol, gallwch gael gafael ar nofelau graffig ar-lein am ddim.  Mae Comics Plus: Library Edition yn cynnig miloedd o nofelau graffig a chomics i aelodau’r llyfrgell ar unrhyw ddyfais sy’n gysylltiedig â’r we.

    • Gallwch weld y teitlau drwy’ch porwr gwe ar unrhyw gyfrifiadur, llechen neu ffôn clyfar sydd â chysylltiad rhyngrwyd
    • Gallwch weld a darllen llyfrau drwy apiau iOS ac Android Mobile
    • Chwiliwch yn ôl genre, gwasg a chomic – yna ewch i chwilio am eich ffefrynnau’n syth
    • Cewch ddarllen comics pryd bynnag y byddwch chi eisiau – dim cadw na disgwyl

    PEIDIWCH BYTH   METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

    Mae ystod arbennig o gomics ar gael; dros 16,000 ohonynt  gan 93 cyhoeddwr.

    Mae rhai o’r comics poblogaidd yn cynnwys Big NATE, Lego Ninjago, Hell Boy, Adventure Time a Bone.

    Os ydych chi’n aelod o’r llyfrgell, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein

    Mae ymuno â’r llyfrgell yn hawdd ac am ddim. Os nad ydych chi’n aelod o’r llyfrgell eto, cofrestrwch heddiw!

    Bydd Comic Con Cymru’n cael ei gynnal yn Wrecsam ar 21 a 22 Ebrill 2018.

    Mae Comic Con Cymru’n gynhadledd gyfarwydd sy’n dathlu pob dim sy’n wych am ddiwylliant pop. Yn Comic Con Cymru, byddwch yn gallu cwrdd ag arlunwyr llyfrau comics, sêr ffilmiau a’r teledu, enwogion chwaraeon – gallwch hyd yn oed ofyn ambell gwestiwn anodd iddyn nhw yn ein sesiynau holi ac ateb am ddim. Mae yno hefyd ystod enfawr o stondinau’n gwerthu digon o bethau cŵl ar hyd y ffordd, cyfleoedd unigryw am luniau, gweithgareddau gemau ac mae llwyth o weithgareddau eraill ymlaen yn ystod y digwyddiad. Darganfyddwch fwy am Comic Con Cymru drwy’r wefan.

    Peidiwch byth â  methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

     

  • Cynlluniau ar ddangos ar gyfer dyfodol yr ystad dai hon..

    Cynlluniau ar ddangos ar gyfer dyfodol yr ystad dai hon..

    Gwahoddir tenantiaid y Cyngor i ddigwyddiad gwybodaeth am welliannau fydd yn cael eu gwneud i’w cartrefi.

    Rydym ni ar hyn o bryd yn moderneiddio cannoedd o gartrefi ar Stad Plas Madoc i sicrhau eu bod yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru.
    Mae’r gwelliannau yn cynnwys ail-doi ac insiwleiddio waliau allanol.

    Mae’r deunydd inswleiddio wedi ei gynllunio i gadw tai yn gynhesach, gwella eu hedrychiad ac estyn hyd oes yr adeiladau.

    Mae cam cyntaf y gwaith ar y gweill yn ardaloedd Bodlyn, Bran, Aled, ac Idwal. Mae’r gwaith ar rai cartrefi yn Idwal wedi ei wneud yn barod (gweler y llun).

    Mae’r ail gam yn cychwyn cyn bo hir ar gartrefi yn ardaloedd Alwen, Dinas, Glaslyn, Gwynant a Pheris.

    PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.

    Gwaith gwella wedi’i gwblhau yn idwal

    Cynlluniau mawr ar gyfer yr ystâd

    Bydd y digwyddiad gwybodaeth yn gyfle i denantiaid weld y cynlluniau ar gyfer eu cartrefi. Bydd Swyddogion Tai wrth law i ateb unrhyw gwestiwn am y gwaith.

    Mi fydd yna hefyd gyfle i weld cynigion/cynlluniau cychwynnol yr eiddo newydd rydym ni’n bwriadu eu codi ar y stad.

    Mwy o welliannau ar y ffordd

    Ym mis Chwefror, cymeradwyodd Bwrdd Gweithredol y Cyngor gynnig i fuddsoddi o £50.3 miliwn i barhau â’r gwaith o wella tai yn 2018/19.

    Mae hyn yn cynnwys grant Lwfans Atgyweiriadau Mawr a ddyfernir gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol i’w cefnogi nhw i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru.

    Dywedodd yr Aelod Arweiniol Tai, y Cyng. David Griffiths: “Rydym ni wedi ymrwymo’r buddsoddiad anferthol hwn i’n helpu ni parhau â’r gwelliannau ar draws y fwrdeistref sirol yn ystod y 12 mis nesaf. Ein nod yw sicrhau bod cartrefi ein holl denantiaid yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2020, ac mae’n falch gennyf ddweud ein bod ni ar y trywydd cywir i gyflawni hynny.”

    Cynhelir y digwyddiad gwybodaeth yn Lolfa Acwa, Canolfan Hamdden Plas Madoc ar 11 Ebrill rhwng 2pm a 6pm.

    Mae hwn yn ddigwyddiad galw heibio ac mae croeso i bawb.

    Os oes gennych chi unrhyw ymholiad, cysylltwch â Swyddfa Stad Plas Madoc ar 01978 813000 neu anfonwch e-bost at plasmadoc.estateoffice@wrexham.gov.uk

    Am ragor o wybodaeth am ein prosiect gwella tai a Safon Ansawdd Tai Cymru, edrychwch ar wefan y cyngor

    Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am ebostiau wythnosol rŵan.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

  • Mae Tŷ Pawb ar agor!

    Mae Tŷ Pawb ar agor!

    Stondinau bwyd, stondinau marchnad, arddangosfa newydd sbon; a dim ond y dechrau ydi hyn.

    Agorodd Tŷ Pawb yn swyddogol dros y penwythnos, gyda digwyddiad enfawr ddydd Llun y Pasg.

    Roedd datblygiad newydd Wrecsam o farchnadoedd, cymunedau a’r celfyddydau’n ganolbwynt dathliad enfawr, Dydd Llun Pawb, a daeth miloedd yno i gael gweld beth oedd yn digwydd.

    PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.

    Gan fod y drysau bellach ar agor, gallwch alw heibio am goffi boreol yn BL_NK C_NV_S, ychydig o dapas Cymreig i ginio a rhywbeth melys yn Just Desserts.

    Mae’r stondinau marchnad bellach ar agor ac yn cynnig popeth o fagiau llaw hyd at fferins, dillad retro a finyl hyd at wlân.

    Mae dwy oriel hefyd ac mae un ohonynt yn bodloni safonau cenedlaethol i gynnwys arddangosfeydd, ac mae sawl man perfformio a lle i ddysgu a datblygu.

    Mae’r hen neuadd farchnad wedi’i thrawsnewid ac mae’n olau ac yn awyrog ac yn teimlo’n fodern.

    Gwyliwch y fideo hon o’r agoriad ar Ddydd Llun Pawb:

    Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am ebostiau wythnosol rŵan.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

  • Parc Hamdden Gwifren Wib newydd wedi’i gynnig ar gyfer cyn safle glofa Gresffordd

    Parc Hamdden Gwifren Wib newydd wedi’i gynnig ar gyfer cyn safle glofa Gresffordd

    Mae syniad ar gyfer atyniad parc antur amlddefnydd newydd yn cael ei ystyried ar gyfer cyn safle’r domen Wilderness yng Ngresffordd, Wrecsam.

    Mae ‘Go Below’, cwmni presennol a leolir ym Metws-y-Coed, yn gweithio ar gynlluniau i ddatblygu’r safle yn atyniad cyrchfan gan gynnwys un o’r gwifrau gwib cyflymaf yn y DU, tŵr, siglen fenter a nifer o weithgareddau awyr agored eraill.

    Roedd gan y safle, gynt o dan berchnogaeth yr Awdurdod Lleol ganiatâd cynllunio ar gyfer llethr sgïo, ond roedd cynlluniau ar gyfer y llethr wedi disgyn drwodd, mae Go Below – cwmni antur arweiniol yng Ngogledd Cymru – yn edrych ar y cysyniad o ddatblygu’r tir fel parc antur.

    PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.

    Mae’r cynnig yn parhau’n amodol ar gytuno ar delerau ar gyfer les posibl a derbyn caniatâd cynllunio.

    Wrth siarad am y datblygiad, dywedodd Miles Moulding, Rheolwr Gyfarwyddwr Go Below;

    “Rydym yn gyffrous iawn am y rhagolygon ar gyfer datblygu’r parc antur yn y safle hwn a gyda’r safle o fewn cyrraedd hawdd i Ogledd a Chanolbarth Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr, rydym yn gweld hyn fel cyfle i ddatblygu’r cynnig cyrchfan twristiaeth yma yn Wrecsam.

    Rydym yn rhagweld y byddai yna bwll glo artiffisial i bobl archwilio, tŵr dringo, siglen fawr, gwifrau a thraciau i ieuenctid reidio o amgylch mewn cerbydau bach trydan. Byddai yna faes parcio bach, adeilad derbyn, ystafell offer ac ati i gefnogi hyn.

    Ychwanegodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweniol am Datblygrwydd Economaidd ac Adfywio:

    “Mae gan y prosiect hwn y potensial i gefnogi’r twf cyflym yn economi twristiaeth Bwrdeistef Sirol Wrecsam, drwy greu swyddi ac ymwelwyr yn gwario.  Mae Gogledd Cymru yn gyffredinol wedi datblygu enw da fel cyrchfan antur y DU ac yma yn Wrecsam rydym bob amser yn edrych ar gefnogi buddsoddiad mewnol sydd â’r potensial i ddatblygu ein heconomi leol a chynnig twristiaeth ymhellach.

    “Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn y cais cynllunio llawn os bydd y prosiect yn datblygu, yn ddiweddarach eleni a’r cyfle i weithio gyda Miles a’r tîm yn Go Below i’w cefnogi gymaint â phosibl.”

    Y cam nesaf yw mynd drwy gyfnod o amser ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus a chynnwys adborth yn y cynnig cyn belled ag y bydd hynny’n ymarferol.

    Mae digwyddiad galw heibio wedi’i drefnu i unrhyw un â diddordeb mewn gwybod mwy am y digwyddiad ddydd Gwener nesaf, 13 Ebrill rhwng 6.30pm – 9pm yng Nghlwb y Glofa, Gresffordd.

    Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am ebostiau wythnosol rŵan.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

  • Meddwl nad ydi llyfrgelloedd i chi? Mae Llyfrgell y Waun am brofi eich bod chi’n anghywir !

    Meddwl nad ydi llyfrgelloedd i chi? Mae Llyfrgell y Waun am brofi eich bod chi’n anghywir !

    Mae Llyfrgell y Waun yn paratoi ar gyfer diwrnod agored a fydd yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn yma, 7 Ebrill rhwng 10am a 2pm.

    Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Diogelu’r Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae hwn yn gyfle gwych i chi gael gwybod pa wasanaethau y mae eich llyfrgell leol yn eu cynnig. Mae gan Lyfrgell y Waun lond lle o adnoddau y bydd y teulu i gyd yn eu mwynhau a bydd y digwyddiad hwn yn arddangos y cyfan. Rwy’n annog pawb i fynd i weld beth sydd gan eu llyfrgell leol i’w gynnig.”

    PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

    Bydd y digwyddiad yn llawn hwyl i gyda phaentio wynebau, helfa drysor, crefftau, stori a rhigwm, raffl a llawer mwy.

    Cewch hefyd gyfarfod cymeriad enwocaf Llyfrgell y Waun – Russ yr Arth!

    Os ydych eisiau rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r llyfrgell: chirk.library@wrexham.gov.uk / 01691772344

    Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

  • Ewch allan i symud

    Ewch allan i symud

    Os yw’r plant wedi gorffen eu hwyau Pasg yn barod ac yn dechrau diflasu dan do, beth am fynd allan i symud gan ein bod ni bellach yn ail wythnos gwyliau’r Pasg?

    Dyma rai o’r digwyddiadau a’r gweithgareddau sydd o amgylch y sir.

    Dydd Mercher, 4 Ebrill – Sesiwn Chwaraeon a Gemau yn y Parciau. Dewch draw i lwyfan y bandiau o 1pm tan 3pm i ymuno yn yr hwyl. Bydd gweithgareddau am ddim i rai rhwng 8 a 14 oed. Ffoniwch 01978 298997.

    Bob dydd yr wythnos hon (dydd Llun tan ddydd Gwener), gallwch alw heibio i Ganolfan Hamdden a Gweithgareddau Byd Dŵr a gall plant nofio am ddim o 2pm tan 3pm.*

    Dydd Mercher, 4 Ebrill – Aerobeg Dŵr i Blant. Os hoffai eich plentyn chi roi cynnig ar ddosbarth ffitrwydd yn y dŵr am ddim, dewch draw i Ganolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans o 2.15pm tan 3pm. Mae’n addas i blant o bob gallu.*

    PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.

    Dydd Mercher, 5 Ebrill – Campfa i’r Plant. Dyma wahoddiad i bobl ifanc 11-15 oed i Stadiwm Heol y Frenhines i fwynhau sesiwn yn y gampfa am ddim o 4pm tan 5pm.*

    Drwy gydol y gwyliau, gall eich plentyn ddod i unrhyw un o’r prosiectau gwaith chwarae canlynol am ddim, felly cymerwch gip ar y lleoliadau a’r amseroedd isod.

    Gwersyllt
    Dydd Llun, Parc Pendine 2pm-5pm
    Dydd Mawrth, Parc Pendine 2pm-5pm
    Dydd Mercher, Caeau Bradley 2pm-5pm
    Dydd Iau, Caeau Bradley 2pm-5pm
    Dydd Gwener, Caeau Bradley 2pm-5pm

    Coedpoeth
    Dydd Mawrth, Cae Adwy 2pm-4pm
    Dydd Iau, Cae Adwy 2pm-4pm

    Offa
    Dydd Mawrth, Luke O’Connor House 2pm-4pm
    Dydd Mercher, Cae Chwarae Bryn-y-cabanau 2pm-4pm
    Dydd Iau, y Parciau 2pm-4pm
    Dydd Gwener, y Parciau 2pm-4pm

    Rhos a Johnstown
    Dydd Llun, Morton Circle (Johnstown) 2pm-4pm
    Dydd Mawrth, Morton Circle (Johnstown) 2pm-4pm
    Dydd Mercher, Bryn y Brain 2pm-4pm
    Dydd Iau, Parc Ponciau 2pm-4pm

    Rhosddu
    Dydd Mawrth, Llain y Pentref (o flaen Ysgol Wat’s Dyke), Garden Village 11am-1pm
    Dydd Mercher, Lôn Price 11am-1pm
    Dydd Iau, Lôn Price 11am-1pm
    Dydd Gwener, Ffordd yr Ardd (y tu allan i adeilad Byddin yr Iachawdwriaeth) 11am-1pm

    I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Datblygiad Chwarae Wrecsam ar (01978) 298361 neu e-bostiwch play@wrexham.gov.uk

    *Gwnewch yn siŵr eich bod yn dod â Cherdyn Hamdden eich plentyn.

    Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am ebostiau wythnosol rŵan.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

     

  • Agoriad swyddogol Tŷ Pawb

    Agoriad swyddogol Tŷ Pawb

    Agorwyd Tŷ Pawb, datblygiad Marchnadoedd, Cymunedau a Celfyddydau newydd Wrecsam, gwerth £4.5 miliwn, yn swyddogol heddiw cyn i’r dathliadiau Dydd Llun Pawb ar Dydd Llun.

    Dechreuodd y gwaith ar y cyfleuster newydd ym mis Ionawr 2017 , gydag Wynne Construction yn dechrau ar yr her o drawsnewid yr hen neuadd farchnad yn gyfleuster golau, awyrog a fydd yn ychwanegu at fyd celf ffyniannus Wrecsam, yn ogystal â neuadd fwyd a stondinau marchnad.

    Roedd y cyhoedd yn rhan bwysig o’r ddatblygiad trwy’r waith, gyda prosiectau, gweithdai a ddyfeisio enw newydd i’r canolfan – daeth yr enw “Tŷ Pawb” o gwmpas fel ganlyniad o waithdy rhanddeliaid, yn gynnwys cynrychiolwyr o’r gymuned celfyddydol a marchnadoedd yn Wrecsam, a’i ddilynwyd gan etholiad cyhoeddus.

    PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

    “Arloesol a chyffrous”

    Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, a ddadorchuddiodd y plac swyddogol: “Rydw i’n falch iawn o fod yma gyda chynrychiolwyr o Gyngor Celfyddydau Cymru, ac aelodau o gymuned celf a marchnadoedd Wrecsam. Rydym wedi gweithio’n galed i gyflwyno Tŷ Pawb i bobl Wrecsam a’r cyffiniau. Mae’n brosiect arloesol a chyffrous ac yn dangos ein hymrwymiad i’n marchnadoedd a’r byd celf ffyniannus yma yn Wrecsam. Hoffwn ddiolch i bawb oedd yn rhan o’r prosiect a dymunaf yn dda iddynt am ddyfodol llwyddiannus. Rhaid diolch yn arbennig i Gyngor Celfyddydau Cymru. Heb eu cefnogaeth ariannol hael, ni fyddai hyn yn bosib, ac rydw i’n falch iawn bod eu cadeirydd, Phil George yma gyda ni heddiw i nodi’r achlysur.”

    “Partneriaeth Gadarn”

    Roedd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn bresennol yn yr agoriad hefyd, a dywedodd: “Mae’n gyffrous iawn croesawu agoriad yr arloesol Tŷ Pawb, mewn cyfnod heriol ar gyfer arian cyhoeddus, a oedd yn bosib oherwydd partneriaeth gadarn rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Wrecsam a Llywodraeth Cymru. Rydw i bendant yn credu y bydd y cymysgedd hwn o ofodau celf gyda stondinau’r farchnad yn ddeniadol ac yn effeithiol iawn. Bydd yn bodloni anghenion lleol a hefyd yn cynnig Wrecsam fel lleoliad i ymwelwyr. Bydd adfywiad a dychymyg artistig yn mynd law yn llaw, fel maent yn aml iawn.”

    Bydd Tŷ Pawb yn darparu dwy oriel, un i safon genedlaethol ar gyfer arddangosfeydd, nifer o leoedd perfformio a fydd yn hyblyg o ran defnydd, stondinau marchnad, gofod dysgu ac addysg ac ardal fwyd. Ymhlith y nodweddion eraill mae gweithdy Cwt Bugail dodrefn newydd a seddi.

    “Canolbwynt i ymwelwyr.”

    Crëwyd Wal Pawb, darn mawr o waith celf cyhoeddus gan yr artist Katie Cuddon. Mae’n lliwgar, yn fentrus ac yn chwareus a bydd yn creu canolbwynt ar gyfer ymwelwyr i’r ganolfan newydd. Comisiynwyd dodrefn gan Tim Denton, a oedd yn cydweithio gyda’r gymuned i lunio 90% o’r dodrefn yn y cyfleuster newydd. Darllenwch ragor am hyn yma.

    Yn dilyn yr agoriad swyddogol, mae’r sylw nawr yn troi at ddigwyddiad mawr i ddathlu, sydd wedi’i gynllunio ar gyfer dydd Llun, 2 Ebrill, ac yn dechrau am 12.30pm gyda pharêd o Stryt yr Hôb a arweinir gan Fand Pres Llareggub, y band pres o ogledd Cymru sy’n datgan eu bod yn “fand pres gydag agwedd”. Bydd rhan o’r parêd yn cynnwys 6 cerflun enfawr, a fydd yn cynrychioli 6 agwedd wahanol o hanes a chymuned Wrecsam. Bydd sawl elusen a sefydliad ieuenctid a chymuned yn cael eu cynnwys yn y parêd, a fydd yn ymlwybro drwy ganol y dref hyd at brif fynedfa Tŷ Pawb ar Stryt Y Farchnad.

    “Diweddglo mawreddog o dân gwyllt”

    Bydd y rhuban yn cael ei dorri pan mae’r parêd yn cyrraedd Tŷ pawb ac yna bydd y gweithgareddau’n parhau tan 9pm gyda diweddglo mawreddog o dân gwyllt.” Bydd gweithgareddau i blant a drefnwyd gan ein Tîm Chwarae hefyd, ac ar Ffordd Caer bydd stondin ffair gyda thema Fictoraidd, llawer o gelf, stondinau bwyd a diod, Planetariwm ‘StarDome’ Techniquest Glyndŵr a cherddoriaeth byw gan artistiaid yn cynnwys ‘The Big Beat’, Côr Cymunedol Wrecsam, ‘Baby brave’ a Chlwb Acordion Parc Du.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

    Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

  • Yn galw pawb sydd rhwng 11 – 25 oed – mae arnom eich angen!

    Yn galw pawb sydd rhwng 11 – 25 oed – mae arnom eich angen!

    Mae gwasanaeth eirioli ail lais yn chwilio am bobl ifanc i ymuno â’u grŵp cynghori.
    Nod ail lais yw sicrhau bod barn pobl ifanc yn cael ei glywed. Felly, mae’n gwneud synnwyr bod y grŵp cynghori ar gyfer y gwasanaeth yn cynnwys pobl ifanc.

    Mae’r grŵp yn cwrdd yn fisol yn y siop INFO ar Stryt Y Lampint a byddent wrth eu boddau’n gweld wynebau newydd yn ymuno â’r tîm.

    Gallech gwrdd pobl newydd a gwneud ffrindiau, a chewch hefyd ddysgu sgiliau newydd a fyddai’n edrych yn wych ar eich CV!

    PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

    Mae rhai o’r pethau mae’r grŵp wedi bod yn ymwneud â nhw hyd yma yn cynnwys:
    – Cyfweld pob eiriolwr newydd cyn iddynt ddechrau’r hyfforddiant
    – Ymgynghori ar bolisïau a chanllawiau newydd a anelir at bobl ifanc
    – Helpu i hyrwyddo’r gwasanaeth, gan gynnwys gwneud fideos hyrwyddo
    – Dylunio unrhyw gyhoeddusrwydd ar gyfer Ail Lais

    Os byddwch yn ymuno â’r grŵp cynghori, bydd yr holl oriau yn cael eu cofnodi gyda Gwirfoddolwyr y Mileniwm a Gwobrau Sêr yng Nghymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam.

    Dywedodd y Cynghorydd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol, “Dyma gyfle gwych i bobl ifanc leisio eu barn. Byddai bod yn rhan o grŵp cynghori Ail Lais yn golygu y byddech yn ennill sgiliau newydd a phrofiad yn ogystal â chael ymgynghori ar bolisïau a chanllawiau sy’n effeithio pobl ifanc yn uniongyrchol. Hoffwn annog unrhyw un sydd rhwng 11 a 25 oed i ystyried ymuno â’r grŵp”

    Beth yw eiriolaeth?

    Eiriolaeth yw pan fydd rhywun arall yn eich helpu i ddweud eich dweud, helpu i wneud rhywbeth yn iawn, fel gwneud cwyn neu gyflwyno eich ochr chi o’r stori mewn sefyllfaoedd pan fyddwch chi’n teimlo na fedrwch chi wneud hynny.
    Mae Ail Lais yn brosiect eirioli a sefydlwyd i helpu i sicrhau, pan fydd angen help arnoch i egluro neu gwyno am bethau sy’n bwysig i chi, fod eiriolwr hyfforddedig ar gael i’ch cefnogi.

    Er mwyn datgan diddordeb mewn ymuno â’r grŵp cynghori cysylltwch â: 01978 295600
    Am fwy o wybodaeth am wasanaeth eirioli Ail Lais, cysylltwch â: 0800 0322630

    Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]