Categori: Busnes ac Addysg

  • Ydych chi’n ystyried mynd yn hunangyflogedig? Fyddwch chi ddim am fethu hwn…

    Ydych chi’n ystyried mynd yn hunangyflogedig? Fyddwch chi ddim am fethu hwn…

    Ydych chi’n ystyried mynd yn hunangyflogedig ond ddim yn gwybod lle i ddechrau? Yna beth am fynd draw i Lyfrgell Wrecsam, ddydd Mercher 7 Chwefror, 1-2pm ar gyfer digwyddiad arbennig Dysgu yn Ystod Amser Cinio.
    Mae’r sesiwn addysgiadol wedi’i anelu’n benodol at unrhyw un sy’n ystyried mynd yn hunangyflogedig.

    Dewch i wybod am yr amrediad o wasanaethau cefnogi sydd ar gael i’ch helpu chi i ddechrau eich busnes eich hun, gyda’r mwyafrif helaeth ohonynt yn rhad ac am ddim. Dysgwch am y rheoliadau, grantiau, cyfleoedd marchnata a llawer mwy. Mae’r sesiwn hwn yn rhad ac am ddim a chaiff ei gyflwyno gan yr arbenigwr lleol, Gareth Hatton o Llinellfusnes.

    Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Economi – Datblygiad Economaidd ac Adfywiad, “Dyma gyfle perffaith i unrhyw un sy’n ystyried mynd yn hunangyflogedig. Mae Llinellfusnes yn adnodd hygyrch gwych a dylai unrhyw un â diddordeb mewn busnes gysylltu â nhw am gyngor.”

    CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

    Beth yw Llinellfusnes?

    Mae’r Llinellfusnes, sydd wedi’i leoli ar lawr cyntaf Llyfrgell Wrecsam, yn wasanaeth gwybodaeth fusnes proffesiynol ac am ddim yn bennaf i unrhyw un sy’n dechrau busnes, eisoes mewn busnes neu’n astudio busnes.

    Bydd yr adnoddau a’r wybodaeth yn eich helpu i:
    – Wneud penderfyniadau mwy effeithiol
    – Arbed amser i chi
    – Arbed arian i chi

    Mae gan y tîm Llinellfusnes ystod o brofiad, gwybodaeth a chymwysterau mewn busnes a rheoli gwybodaeth.
    Gallant helpu:

    – Dechrau busnesau
    – Busnesau a sefydlwyd
    – Myfyrwyr
    – Ceiswyr gwaith
    – Sefydliadau Cymorth Busnesau

    Gallwch alw heibio, ffonio, anfon e-bost neu bostio eich ymholiad i’r tîm. Mae’r rhan fwyaf o wasanaethau a ddarperir gan y Llinellfusnes am ddim.

    Am fwy o wybodaeth:

    Llinellfusnes
    Llyfrgell Wrecsam
    Ffordd Rhosddu
    Wrecsam LL11 1AU
    businessline@wrexham.gov.uk
    01978 292092

    Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://newyddion.wrecsam.gov.uk/cyfrif-snapchat-i-wrecsam/”] DILYNWCH NI AR SNAPCHAT [/button]

  • Mae newyddion da ar y ffordd i’r rhai a ddefnyddiwyd y bws 146 i Eglwyswen

    Mae newyddion da ar y ffordd i’r rhai a ddefnyddiwyd y bws 146 i Eglwyswen

    Mae newyddion da ar y ffordd i’r rhai a ddefnyddiwyd y bws 146 i Eglwyswen. Bydd y gwasanaeth yn ail-ddechrau o Ddydd Llun, o ddan Pat’s Coaches. Bydd yr amserlen yn aros fel yr oedd.

    Dwedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol am yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Ryw’n sicr bydd y rhai sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn croesawu’r newyddion hon, ac rwy’n ddiolchgar i swyddogion am eu hamser a’u hymrwymiad i sicrhau darparwyr arall ers i D. Jones & Son cau.”

    Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://newyddion.wrecsam.gov.uk/cyfrif-snapchat-i-wrecsam/”] DILYNWCH NI AR SNAPCHAT [/button]

  • Busnes gwyddonol-dechnegol yn symud i Wrecsam

    Busnes gwyddonol-dechnegol yn symud i Wrecsam

    Mae Aparito yn arbenigo mewn darparu dyfeisiadau i’w gwisgo ac apiau clefyd-benodol i ffonau symudol i ddarparu monitro cleifion o bell, tu allan i amgylchedd yr ysbyty.

    Ar ôl sefydlu eu hunain ynn Llundain dros y blynyddoedd diwethaf, roedd Aparito yn edrych i ehangu a helpodd tîm Busnes a Buddsoddiad Cyngor Wrecsam i ddod o hyd i safle posib iddynt, eu tywys o’u hamgylch gydag asiantiaid, eu cyflwyno i arweinwyr sector arloesi Llywodraeth Cymru a rhoi cysylltiadau iddynt ar gyfer prynu dodrefn swyddfa hyd yn oed, i’w helpu i ddechrau ar y droed flaen.

    Mae’r cwmni yn cyflogi gweithwyr iechyd a TGCh proffesiynol i ddatblygu dyfeisiadau a rhaglenni clyfar, cludadwy a deniadol sy’n addas i gleifion o bob oed, o blant bach i bobl ifanc egnïol a chleifion hŷn, bregus hyd yn oed.

    CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

    Mae Aparito nawr wedi symud i uned Ym Mharc Technoleg Wrecsam ac yn ystod yr haf roedd y tîm Busnes a Buddsoddiad yn falch iawn o rannu eu swyddfa a darparu gofod desgiau i Aparito tra roedd y swyddfa newydd yn cael ei pharatoi iddynt.

    “…antur gyffrous…”

    Dywedodd Dr Elin Haf Davies, Prif Swyddog Gweithredol Aparito: Cefais fy ngeni yn Wrecsam, rydw i a’n Prif Swyddog Gwybodaeth Chris Tyson yn Gymru ac er bod 20 mlynedd wedi pasio ers gadael Cymru, rydym ni’n dau yn gyffrous iawn i agor swyddfa yng Nghymru. Rydym yn gobeithio mai dyma fydd dechrau antur gyffrous i Aparito yng Nghymru.

    Mae’r estyniad yn Wrecsam yn golygu bod gennym leoliad canolog yn y Deyrnas Unedig a gallwn wasanaethu’r sawl sefydliad rydym yn cydweithio gyda nhw i gyflwyno’r datblygiad gofal iechyd hwn ac rydym yn ddiolchgar iawn am yr holl help a chefnogaeth rydym wedi ei gael gan Tîm Busnes a Buddsoddi Wrecsam.

    Aelod Arweiniol yr Economi – Datblygu Economaidd ac Adfywiad, Cyngor Wrecsam, Councillor Terry Evans: “Rydym wrth ein boddau bod y cwmni arloesol hwn wedi dewis symud i Wrecsam, rydym wedi gallu darparu amrywiaeth o gefnogaeth, yn cynnwys dod o hyd i swyddfa wych ym Mharc Technoleg Wrecsam ac rydym yn edrych ymlaen at weld Aparito’n tyfu ac yn cyfrannu at economi Wrecsam.”

    Darganfyddwch fwy am sut y gall y Tîm Busnes a Buddsoddi helpu eich busnes:
    01978 667000
    business@wrexham.gov.uk
    @CymorthBusWcsm
    Mwy o wybodaeth am Aparito: www.aparito.com / @aparitohealth

    Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://newyddion.wrecsam.gov.uk/cyfrif-snapchat-i-wrecsam/”] DILYNWCH NI AR SNAPCHAT [/button]

  • Cynghorau’r Gogledd yn lansio Cynnig Twf fydd yn golygu llawer o filiynau o bunnoedd i Ogledd Cymru

    Cynghorau’r Gogledd yn lansio Cynnig Twf fydd yn golygu llawer o filiynau o bunnoedd i Ogledd Cymru

    Mae chwe chyngor y Gogledd wedi cyflwyno Cynnig Twf yn ffurfiol i Lywodraeth y DU ac i Lywodraeth Cymru. Bydd trafodaethau am y Cynnig yn cychwyn ar ôl y Flwyddyn Newydd yn 2018.

    Mae’r cynghorau wedi creu corff newydd, sef Bwrdd Twf Gogledd Cymru fydd yn cwblhau’r Cynnig Twf ac yn rheoli sut bydd yn cael ei chyflawni unwaith y bydd y ddwy Lywodraeth yn cytuno arni. Cydbwyllgor o blith yr awdurdodau lleol yw’r corff newydd gyda chynrychiolwyr o’r partneriaid allweddol: Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy, Prifysgolion a Cholegau Addysg Bellach.

    Byddai’r cynigion yn rhyddhau buddsoddiad o £1.3biliwn i economi’r Gogledd gan gynnwys arian y fargen twf, £328m o gyfalaf a £55.4m o refeniw, sef cyfanswm o £383.4m sy’n gyfystyr â £3.40 am bob punt sy’n cael ei gwario.

    PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

    Bydd mwy na 5,000 o swyddi yn cael eu creu. Mae deilliannau eraill yn cael eu hamcangyfrif a bydd yn cynnwys creu busnesau newydd, codi unedau tai, gan gynnwys tai fforddiadwy a darparu gwaith ar gyfer aelwydydd â phobl heb waith.

    Meddai’r Cyng. Aaron Shotton, Cadeirydd Bwrdd Twf Gogledd Cymru: “Rwy’n falch o gyhoeddi lansio swyddogol Cynnig Twf y Gogledd gyda fy nghyd-Arweinwyr Cyngor a chynrychiolwyr ein partneriaid allweddol ym myd busnes, Addysg Uwch ac Addysg Bellach.

    “Rydym wedi cyflwyno ein cynigion amlinellol i Guto Bebb AC, Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gymru ac i Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru. “Rydym wedi sefydlu Cyd-bwyllgor Cysgodol fydd yn dwyn yr enw Bwrdd Twf Gogledd Cymru. Mae’r bwrdd newydd yn diolch i aelodau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru am eu cyfraniad yn y dasg yn ystod y 18 mis diwethaf o greu’r sylfeini ar gyfer Cynnig Twf credadwy ac uchelgeisiol.

    “Rydym wrthi’n penodi tîm datblygu’r cynnig fydd yn datblygu achosion busnes manwl fydd yn cydymffurfio â’r safonau mae camau cyflawni effeithiol yn gofyn amdanynt. Rydym yn bwriadu cyflawni yn ôl ein gair”.

    “Rydym wedi datblygu ein cynigion mewn partneriaeth â’r sector breifat, ein prifysgolion (Bangor a Glyndŵr Wrecsam) a’n Colegau Addysg Bellach (Cambria a Grŵp Llandrillo Menai). Rydym wedi derbyn cefnogaeth ac anogaeth gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ein Haelodau Cynulliad a’n Haelodau Seneddol. Mae pawb wedi cydweithio’n ddyfal i gyrraedd y man hwn.

    “Rhanbarth unedig ac uchelgeisiol yw Gogledd Cymru. Ein bwriad yw datblygu economi newydd fydd yn fwy ffyniannus, arloesol a chynhyrchiol fydd yn gall, yn gyd-gysylltiedig ac yn rhoi cyfleoedd ar gyfer gwell cyflogaeth ledled y rhanbarth.

    Meddai’r Cyng. Dyfrig Siencyn, Is-gadeirydd y Bwrdd Twf: “Un rhan yn unig o’n Gweledigaeth Twf yw’r Cynnig Twf. Byddwn yn parhau i bwyso am well cysylltiadau trafnidiaeth y tu allan i’r Cynnig Twf. Byddwn yn ymgyrchu ac yn pwyso ar i’r Adran Drafnidiaeth ddarparu’r cyllid ar gyfer gwell seilwaith o ran y rheilffyrdd ac ar i Lywodraeth Cymru ariannu gwell gwasanaethau rheilffordd.

    “Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i greu Metro ar gyfer y Gogledd a rhwydwaith ffyrdd gwell.

    “Bydd ein cynigion yn cael eu teilwra gyda rhaglenni Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gyda’r bwriad o wella cysylltedd digidol a diwifr yn y rhanbarth.

    “Ar y cyd â chymorth y ddwy lywodraeth i wella trafnidiaeth a chysylltedd digidol, bydd y Cynnig Twf yn hwb sylweddol i dwf economaidd, yn gofalu bod buddion yn cael eu dosbarthu’n deg ledled y rhanbarth ac yn helpu cadw pobl ifanc yn y rhanbarth.

    “Mae llawer o waith caled i’w wneud o hyd ac mae trafodaethau anodd o’n blaenau cyn y gallwn gwblhau bargen twf gyda’r ddwy lywodraeth.
    “Mae’r gwaith rydym wedi’i wneud hyd yn hyn gyda phroses y Cynnig wedi rhoi momentwm ac undod inni ac rydym yn benderfynol o lwyddo.”

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

    Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

  • 20.12.17: Diweddariad ar Wasanaethau Bws – Gwasanaeth Newydd i ran-Gyflenwi hen Lwybr Rhif 6

    20.12.17: Diweddariad ar Wasanaethau Bws – Gwasanaeth Newydd i ran-Gyflenwi hen Lwybr Rhif 6

    Bydd gwasanaeth a’i rhedwyd gan weithredwr caeedig i ail-ddechrau’n rhannol o’r Flwyddyn Newydd.

    O Ionawr 7, 2018, bydd gwasanaeth masnachol newydd yn rhan gyflenwi’r hen wasanaeth Rhif 6, a weithredir D Jones & Son, a darfodd busnes ar Ragfyr 16.

    PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

    Darparwyr y llwybr Rhif 4/4a (Wrecsam at Benycae trwy Ros) gan Fysiau Arriva bob awr, ac yn gweinyddu’r cymunedau yn Rhostyllen, Rhosllannerchrugog, Johnstown a Penycae, gan gynnwys y Stad Afoneitha.

    Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol am yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Rwy’n falch iawn i gyhoeddi y bydd y gwasanaeth hwn yn ddechrau yn y Flwyddyn Newydd, ac yn darparu gwasanaeth i’r cymunedau a effeithiwyd.

    “Serch hynny, rydym yn gydnabyddus a’r ffaith ni fydd y gwasanaeth newydd yn gweinyddu’r holl ardaloedd a oedd yn rhan o’r hen wasanaeth Rhif 6 a redwyd gan D Jones & Son, a gyda’r ymwybyddiaeth hynny, rydym yn parhau i ddiogelu darpariaeth am yr ardaloedd hynny, fel rhan o’n gynllun cyfwng am fysiau.”

    Mae mwy o wybodaeth am y gwasanaethau 4 a 4a, gan gynnwys llwybrau ac amserlenni, ar gael ar wefan Arriva (dolen gyswllt Saesneg).

    Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

  • O droi’r goleuadau Nadolig ymlaen i reidiau gwifren wib anturus… mae’r arth hwn wedi gwneud y cyfan!

    O droi’r goleuadau Nadolig ymlaen i reidiau gwifren wib anturus… mae’r arth hwn wedi gwneud y cyfan!

    Dyma Russ Bear, tedi bêr anturus Llyfrgell y Waun.

    Cafwyd Russ mewn siop elusen ac mae wedi dod yn ffordd wahanol i’r cynorthwywyr llyfrgell, Carolyn a Liz, hyrwyddo’r llyfrgell yn y gymuned leol. Mae Russ Bear wedi dod yn enwog yn ei rinwedd ei hun, a chafodd droi’r goleuadau Nadolig yn y Waun ymlaen yn ddiweddar!

    Digonedd o anturiaethau!

    Russ Bear

    Mae Russ Bear wedi peri cyffro ar Facebook, gyda llawer o bobl yn dilyn ei gampau. Mae ganddo ei gerdyn llyfrgell ei hun, cymerodd ran yn Her Ddarllen yr Haf eleni, ac aeth ar wifren wib yng Ngharnifal y Waun hyd yn oed.

    Wyddoch chi?

    Mae pobl yn ymweld â llyfrgelloedd cyhoeddus yn amlach na’r sinema, cyngherddau byw, y theatr neu unrhyw un o’r 10 o atyniadau mwyaf poblogaidd i dwristiaid – ac mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw rhwng 15 a 24 oed! Mae Carolyn a Liz o lyfrgell y Waun yn annog mwy o bobl i ddefnyddio’r llyfrgell yn y Waun a mwynhau buddion y gwasanaethau gwych y mae’n ei darparu.

    Allwn ni ddim aros i ddilyn mwy o gampau Russ Bear y flwyddyn nesaf!

    Gallwch ddilyn ei anturiaethau ar dudalen Facebook Llyfrgell Wrecsam

    Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

  • Awydd cymryd rhan yn Nydd Llun Pawb?

    Awydd cymryd rhan yn Nydd Llun Pawb?

    Mae gwahoddiad i grwpiau cymunedol o ac o amgylch Wrecsam gymryd rhan mewn parêd i ddathlu’r hyn sy’n gwneud y dref mor arbennig, yn rhan o seremoni agoriadol swyddogol Tŷ Pawb.

    Tŷ Pawb yw’r datblygiad newydd gwerth £4.5 miliwn yng nghanol Wrecsam.

    Mae wrthi’n cael ei adeiladu ar safle hen Farchnad y Bobl, wedi’i gefnogi gan grant o £2.3 miliwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru, £700,000 gan Lywodraeth Cymru ac £1.5 miliwn ychwanegol gan Gyngor Wrecsam, a bydd y datblygiad yn dwyn marchnadoedd, busnesau, theatrau, orielau, a llefydd i fwyta ac yfed ynghyd o dan un to yng nghanol y dref.

    PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

    Bydd drysau Tŷ Pawb ar agor i’r cyhoedd ddydd Llun y Pasg, 2 Ebrill 2018 ar Ddydd Llun Pawb – dathliad diwrnod o hyd gydag awyrgylch carnifal, yn cynnwys cerddoriaeth fyw, celfyddydau perfformio, crefftau, stondinau bwyd a diod a llu o weithgareddau ymarferol i ymwelwyr o bob oed.

    Mae Dydd Llun Pawb yn dod â hen draddodiad yn ôl i Wrecsam, pan fyddai’r trigolion lleol yn heidio i’r dref am ddiwrnod o ddathlu ar y dydd Llun ar ôl marchnad flynyddol y gwanwyn.

    Bydd Dydd Llun Pawb yn dechrau gyda pharêd a fydd yn dathlu popeth sy’n arbennig am Wrecsam.

    Wrth symud drwy ganol tref Wrecsam wedi’i arwain gan seindorf, bydd y parêd yn cynnwys fersiynau enfawr o chwe Chofrodd newydd sbon am Wrecsam, a ddewiswyd fis Tachwedd gan y cyhoedd.

    Gwahoddiad i grwpiau gymryd rhan

    Bydd lle i 30 o grwpiau lleol ymuno â nhw, a phob un yn dathlu eu cyfraniad unigryw eu hunain i’r gymuned.

    I gymryd rhan, rhaid i grwpiau cymunedol fod ar gael ddydd Llun, 2 Ebrill o hanner dydd tan 2.00pm, a bod ar gael i arlunydd lleol ddod i ymweld â nhw rhwng 15 Ionawr a 2 Mawrth 2018.

    Bydd yr arlunydd yn eu helpu i ddylunio a chreu deunyddiau ar gyfer y parêd. Nid os angen talu ac mae pobl o bob oed, diddordeb a gallu’n cael eu hannog i gymryd rhan.

    Ar gyfer y rhai hynny nad ydynt yn aelodau o unrhyw grŵp, ond a hoffai ymuno â’r parêd, bydd nifer o weithdai cyhoeddus hefyd yn cael eu cynnal.

    Bydd mwy o fanylion am ddigwyddiadau’r diwrnod yn cael eu datgelu yn y Flwyddyn Newydd.

    Dylai grwpiau sydd â diddordeb mewn cymryd rhan ym mharêd Dydd Llun Pawb gysylltu ag enquiries@typawb.wales cyn dydd Gwener, 22 Rhagfyr.

    Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol:  “Pwrpas Tŷ Pawb ydi gwasanaethu a dathlu cymuned Wrecsam ac fe fydd Dydd Llun Pawb yn ategu hynny.

    “O ddewis yr enw hyd at greu’r dodrefn, mae nifer o bobl wedi cefnogi datblygiad y ganolfan o’r cychwyn cynaf, a bydd parêd anferthol i ddathlu cyfraniadau arbennig cymaint o bobl i’r dref yn ffordd wych o ddiolch iddyn nhw wrth agor y drysau!”

    Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

  • Datgelu Straeon Wrecsam ar gyfer Dydd Llun Pawb

    Datgelu Straeon Wrecsam ar gyfer Dydd Llun Pawb

    Datgelwyd y chwe hoff stori am Wrecsam – yn ôl eich pleidleisiau chi!

    Yn dilyn pleidlais gyhoeddus, lle pleidleisiodd 200 o bobl yn ôl rhestr fer o 25 stori ryfedd a rhyfeddol am Wrecsam, rydym yn falch iawn o ddatgelu pa straeon a ddewiswyd fel y chwech uchaf.

    Bydd y chwe stori yn cael eu gwneud yn ddarnau o waith celf am Wrecsam gan chwe gwahanol artist, a fydd ar gael i’w prynu ar Ddydd Llun Pawb – diwrnod agoriadol Tŷ Pawb – ar 2 Ebrill.

    Mae tîm Oriel Wrecsam/Tŷ Pawb wedi ymgymryd â misoedd o ymgynghori er mwyn darganfod beth mae’r cyhoedd yn credu i fod y straeon mwyaf diddorol i gynrychioli Wrecsam. Roedd y 25 stori yn amrywio o fod yn bartïon stryd gwyllt, enillydd Miss World, i gelc anferth o friciau Lego a gladdwyd o dan y dref.

    Yr un mwyaf poblogaidd, gyda 23% o’r pleidleisiau yw treftadaeth Cymraeg ein tref, a sbardunodd ddychymyg y cyhoedd. Fel dywedodd Hannah Wright, a rannodd ei stori gyda ni, “Mae’r Gymraeg yn berthnasol, yn draddodiadol, yn gyfredol ac yn ddiwylliannol.”

    Mae’r rhestr gyflawn o’r chwe stori fuddugol, gan gasglu 89% o’r holl bleidleisiau fel y ganlyn:

    • Stori 20 (23% o’r pleidleisiau) – ‘Yr iaith Gymraeg’
    • Stori 7 (13%) –    ‘Byd bach’ – Dim ots lle ewch chi yn y byd, mae’n ymddangos fel y byddwch o hyd yn cyfarfod rhywun o Wrecsam!
    • Stori 22 (13%) – ‘Bywyd ymroddedig i eraill: Marjorie Dykins’
    • Stori 25 (11%) – ‘Croeso i Wrecsam: Croesawu’r Byd’
    • Stori 1 (10%) –    ‘Clwb Pêl-droed Wrecsam: Clwb i achub bywydau!’
    • Stori 24 (9%) –    ‘Y dref sy’n gwneud!’

    Byddwn nawr yn dyrannu artist yr un, a ddatgelon ni’r mis ddiwethaf, i’r chwe stori  – Sophia Leadill, John Merrill, Marcus Orlandi, Nicholas Pankhurst, Martha Todd a Bedwyr Williams.

    Bydd yr artistiaid yn cynhyrchu prototeip i gofio, yn seiliedig ar y stori a ddyrannwyd iddynt ar gyfer agoriad Tŷ Pawb a’r parêd Dydd Llun Pawb, ddydd Llun 2 Ebrill, 2018.

    Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Dw i’n falch iawn o weld bod pobl Wrecsam wedi pleidleisio ar y straeon hyn a ddewiswyd i’w cynrychioli fel rhan o Ddydd Llun Pawb – ac mae’n arbennig o ddymunol gweld bod yr un mwyaf poblogaidd yn seiliedig ar dreftadaeth Cymraeg y dref.”

    “Dw i’n sicr nad ydw i ar fy mhen fy hun pan ddwedaf fy mod i’n edrych ymlaen at weld beth fydd ein hartistiaid yn ei gynhyrchu ac yn ei ddatgelu ar Ddydd Llun Pawb.”

  • Diwrnod o Archwilio Trysorau i’r Disgyblion

    Diwrnod o Archwilio Trysorau i’r Disgyblion

    Yn ddiweddar cafodd rhai o ddisgyblion ysgol gynradd y cyfle i weld eu hanes lleol gyda’u llygaid eu hunain pan ddaeth arddangosfa deithiol Amgueddfa Wrecsam i ymweld â’u hysgol.

    Daeth arddangosfa deithiol o Amgueddfa Wrecsam i ymweld â phlant o Ysgol Gynradd Wirfoddol Bronington a Gynorthwyir, i arddangos darnau arian o Gasgliad Bronington, o’r 15fed ganrif.

    Mae’r daith yn rhan o brosiect Yn Gudd yn y Gororau Amgueddfa Wrecsam ac mae wedi ei hariannu gan brosiect Hel Trysor: Hel Straeon Cronfa Dreftadaeth y Loteri mewn cydweithrediad ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

    PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

    Mae’r darnau arian hyn yn dyddio’n ôl i’r 15fed Ganrif. Canfuwyd y darnau hyn, ynghyd â modrwy aur a saffir, gan ddarganfyddwyr metel, wedi’u claddu yn ardal Whitewall.

    Mae’r darnau arian yn dyddio o deyrnasiad Edward I i Edward IV. Claddwyd y casgliad yn fwriadol tua’r flwyddyn 1465 – er nid ydym yn gwybod pwy gladdodd y casgliad na pham.

    Mae’r ymweliad gan Amgueddfa Wrecsam yn dilyn misoedd o waith gan Ysgol Gynradd Wirfoddol Bronington a Gynorthwyir a fu’n cyflawni prosiectau ar y darnau arian ac yn ysgrifennu cerdd am y canfyddiadau yn gynharach yn ystod y flwyddyn academaidd.

    “Hynod ddiolchgar i Amgueddfa Wrecsam”

    Dywedodd Angela Birkinshaw, Pennaeth Ysgol Gynradd Wirfoddol Bronington a Gynorthwyir: “Roeddwn yn falch iawn ein bod wedi llwyddo i gael y darnau arian i’r ysgol ac rwyf yn hynod ddiolchgar i Amgueddfa Wrecsam a phawb a fu’n rhan o’r prosiect am sicrhau bod y plant yn cael cyfle i weld y darnau arian gyda’u llygaid eu hunain.

    “O ystyried bod yr ysgol yn agos iawn at fan lle canfuwyd y darnau arian yn wreiddiol, roedd yn bwysig iawn bod y disgyblion yn cael cyfle i ddysgu mwy am hanes yr ardal gyfagos, a hynny yn eu hysgol eu hunain.

    Ychwanegodd Mrs Birkinshaw: “Rwyf hefyd yn falch bod cynrychiolwyr o Amgueddfa Wrecsam wedi bod wrth law i roi syniad i’r plant o arwyddocâd y casgliad.

    “Roedd y plant wedi mwynhau’r diwrnod yn fawr iawn, yn ogystal â’r cyfle i weld y darnau arian a’u llygaid eu hunain – nid pawb sy’n cael cyfle i weld arteffactau o bwysigrwydd hanesyddol.”

    Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Braf yw gweld bod disgyblion Ysgol Gynradd Wirfoddol Bronington a Gynorthwyir wedi cael cyfle i weld y darganfyddiadau hanesyddol a phwysig hyn gyda’u llygaid eu hunain ac rwyf yn falch bod y plant wedi croesawu’r arddangosfa â brwdfrydedd.”

    Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

  • Oes gennych chi ddiddordeb yng Nghanol y Dref? Efallai bydd gennych ddiddordeb yn hwn…

    Oes gennych chi ddiddordeb yng Nghanol y Dref? Efallai bydd gennych ddiddordeb yn hwn…

    Rydym yn gwybod bod gan bawb ddiddordeb yng Nghanol Tref Wrecsam.

    Mae llawer o newyddion dros y flwyddyn ddiwethaf ar y gwahanol fusnesau yn mynd a dod, ac ymdrechion i glirio rhannau o’r dref a’r adferiad bwriadedig o hen adeiladau.

    Er bod nifer o’r ymdrechion unigol hyn wedi’u cyflawni, mae aelodau o Gyngor Wrecsam wedi bod yn edrych hefyd ar y ffordd orau o  gydlynu popeth.

    DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.

    Mae adroddiad sydd yn dilyn adolygiad o waith a gyflawnwyd gan y cyngor yng nghanol y dref, yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Craffu Cyflogaeth, Busnes a Buddsoddiad dydd Mercher, 6 Rhagfyr.

    Bwriad ar ôl yr adolygiad craffu yw bod y Cyngor yn datblygu strategaeth i rwymo’r holl waith sydd yn digwydd eisoes yng nghanol y dref.

    Gallai hyn gyflenwi’r gwaith a gyflawnir gan y tîm Strydwedd i glirio a chynnal strydoedd a ffyrdd; y gefnogaeth a roddir i ddechrau busnesau gan Gefnogi Busnes; neu beth mae’r tîm Datblygu Economaidd wedi’i wneud i hwyluso tenantiaeth mewn eiddo gwag.

    Mae’r adroddiad yn cyfeirio at gyfarfodydd a gynhelir ar lefel uwch fel rhan o’r dull cydlynol newydd, a hefyd yn amlinellu’r cynnydd yn erbyn Cynllun Meistr Canol y Dref, sef yr arf cynllunio ac adfywiad i ganol y dref.

    Cynhelir y cyfarfod dydd Mercher, 6 Rhagfyr, a bydd yn cael ei ddarlledu’n fyw ar dudalen gweddarlledu’r Cyngor o 4pm ymlaen.  Mae’r ddolen i’r Rhaglen a’r dudalen gweddarlledu yma.

    “Llawer o ddidordeb yng Nghanol y Dref”

    Dywedodd y Cynghorydd Rodney Skelland, Cadeirydd y Pwyllgor: “Rwy’n deall bod llawer o ddiddordeb yng Nghanol Dref Wrecsam ar hyn o bryd – gan y cyfryngau, busnesau, rhanddeiliaid ac aelodau o’r cyhoedd.

    “O ganlyniad, byddwn yn argymell i unrhyw un sydd â diddordeb yng nghanol y dref i ddilyn y rhaglen gweddarlledu o’r cyfarfod – neu dewch eich hun – a gweld y math o waith sy’n digwydd i gydlynu adfywio ac iechyd parhaus canol y dref.

    “Edrychaf ymlaen at yr hyn a bydd yn drafodaeth ddiddorol.”

    Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=453&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy”]DYWEDWCH EICH DWEUD[/button] [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://newyddion.wrecsam.gov.uk”]GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU[/button]