Categori: Y Cyngor

  • Ystâd Ddiwydiannol Vauxhall – cymuned hapus iawn

    Ystâd Ddiwydiannol Vauxhall – cymuned hapus iawn

    Pan fyddwn yn ystyried diwydiant llwyddiannus yma yn Wrecsam rydym yn tueddu i feddwl am Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam – un o’r mwyaf yn y DU, ond mae sawl un arall yma yn y fwrdeistref sirol.

    Mae un o’r rhain yn Rhiwabon – Ystâd Ddiwydiannol Vauxhall – ac mae’n prysur ddatblygu i fod yn gartref i ystod o ddiwydiannau.

    CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB

    “Felly, pwy sydd yno?”

    Ym Mharth Un mae Brother Industries (UK) Ltd, Valentines Travel Solutions Ltd., Tomlinson’s Dairies Ltd – Distribution, Fourways Furnishings, Amberon Traffic Management, Link Powder Coating and Metal Finishing, Fry Fresh Edible Oils Ltd., Ruabon Fitness Centre a Ceramtec.

    Ym Mharth 2 mae Clwyd Spares and Repair Ltd., Molly’s Cafe, BT Garage Tyres and Auto Care, Wrexham Apple Repairs, Wizard of Pawz, Big Padlock Ltd, Thompson Coating Solutions, Flint Group, The House Nameplate Company, Elite Graphics UK Ltd, Sutureds Ltd, AE Sewing Machines, Advance Spares Ltd a Steel Physiotherapy.

    Maent oll yn darparu cyflogaeth ar gyfer dros 600 o bobl leol ac maent wedi uno yn ddiweddar i brynu’r arwydd sydd ar frig yr erthygl hon.

    Maent wedi llunio Fforwm i rannu syniadau a byddant yn lansio eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn fuan.

    “Mae Cymorth i Fusnesau ar gael”

    Mae’r Cyngor yn cefnogi’r busnesau yno gyda Swyddog Cefnogi Busnes o’r Tîm Buddsoddi Busnes.  Dyma adran sy’n cynorthwyo busnesau ar draws y fwrdeistref sirol, a rhai sy’n dymuno symud i Wrecsam, gyda phethau megis canfod lleoliad, sefydlu busnes, cyngor marchnata, sefydlu cadwyni cyflenwi, marchnata ac ymchwil; nodi a hwyluso cyfleoedd rhwydweithio, cyfeirio at gyllid, cefnogi menter ddigidol, hyfforddiant a deddfwriaeth a chynorthwyo i ddiogelu cyfleoedd cyflogaeth ar gyfer y dyfodol.

    Mae oddeutu 11,000 o fusnesau yn y sir ac maent oll yn gallu derbyn cefnogaeth ac arweiniad.

    Mae’r tîm wedi’u lleoli yn Nhŵr Rhydfudr ar yr ystâd ddiwydiannol a gallwch gysylltu â nhw ar 01978 667300.

    “Gweithio gyda’i gilydd i hyrwyddo eu hunain”

    Mae’r Cynghorydd David A Bithell, Aelod Lleol yr ardal yn rhan o’r grŵp fforwm sy’n gweithio gyda busnesau lleol ac fe ddywedodd:  “Roeddwn yn falch iawn o faint o fusnesau sy’n ffynnu yn yr ardal ac mae’n wych eu gweld yn gweithio gyda’i gilydd i hyrwyddo eu hunain yn unigol ac fel cymuned fusnes”.

    Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Mae nifer o gwmnïau arloesol yn Wrecsam ac mae’n wych gweld Ystâd Ddiwydiannol arall yn ffynnu gyda chefnogaeth ein Tîm Buddsoddi Busnes”.

    Ydych chi’n chwilio am eiddo busnes neu’n gobeithio ehangu i uned fwy?  Os felly, cysylltwch â’n Tîm Buddsoddi Busnes a fe gewch eich synnu faint o gymorth y gallant ei roi gyda chyngor a chefnogaeth.  Codwch y ffôn a ffoniwch 01978 667300 neu anfonwch e-bost at business@wrexham.gov.uk

    Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_61″] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]

  • Cyfnod preswyl Evrah Rose

    Cyfnod preswyl Evrah Rose

    Mae ‘Dydd Llun 2’ ar ei ffordd ac fel rhan o’r dathliadau ar 22 Ebrill bydd y bardd Evrah Rose yn perfformio am y tro cyntaf fel bardd preswyl Tŷ Pawb.

    Derbyniodd Evrah Rose lawer o sylw yn lleol ar gyfer ei cherdd ‘I am from Wrexham’, cerdd a gyhoeddodd ar You Tube ym mis Ionawr.

    Ers hynny mae hi wedi cael ei gwahodd i fod yn llais barddol Tŷ Pawb ac yn cael ei chomisiynu i gyfansoddi cerddi wedi’u hysbrydoli gan arddangosfeydd a digwyddiadau sydd wedi’u cynnal yno.

    CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB 

    Wrth siarad am ei rôl newydd, meddai Evrah Rose: “Dwi wedi gwirioni fy mod i’n cael y cyfle i gymryd rhan mewn barddoniaeth mewn cymuned mor fywiog.

    “I mi yn bersonol mae Tŷ Pawb wedi dod yn ganolfan lewyrchus a dwi’n edrych ymlaen i gyfansoddi cerddi unigryw yma. Mae’n gymaint o fraint cael fy newis i gyflawni cyfnod preswyl, cyfle dwi’n hollol ddiolchgar amdano a heb os yn siŵr o wella fy sgiliau fel bardd a pherfformiwr.”

    Bydd Evrah Rose yn perfformio fel rhan o ‘Dydd Llun 2’, dathlu pen-blwydd cyntaf Tŷ Pawb. Mae’r dathliad ar ddydd Llun y Pasg, 22 Ebrill, 11am-9.30pm.

    Ydych chi’n cyfansoddi cerddi? Os hoffech gyngor ar eich gwaith mae Evrah Rose yn fwy na pharod i sgwrsio gyda chi a’ch helpu i gyflawni eich nodau ysgrifennu. Cysylltwch â staff Tŷ Pawb ac mi fyddan nhw’n gallu eich rhoi mewn cysylltiad â hi.

    Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_61″] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]

  • Gweld beth sy’n digwydd yng nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol y mis hwn

    Gweld beth sy’n digwydd yng nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol y mis hwn

    Bydd ein Bwrdd Gweithredol yn cyfarfod eto ar 9 Ebrill, ac mae’r rhaglen ar ein gwefan.

    Y mis yma bydd aelodau yn pleidleisio ar gynigion i gynyddu niferoedd disgyblion ym Mro Alun yn dilyn yr ymgynghoriad diweddar. Gellir darllen mwy amdano yma (link to Bro Alun story) ynghyd â gosod yr amserlen am broses gyllideb 20/22. Byddant hefyd yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am ysgol hedyn i Addysg Cyfrwng Cymraeg ar leoliad blaenorol ysgol fabanod Hafod y Wern.

    CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

    Bydd aelodau’n cael gwybodaeth bellach am Lythyr Blynyddol Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru sydd wedi ei dderbyn, ac sy’n nodi’r nifer o gwynion a dderbyniwyd yn 2016/17. Mae’n dangos ein bod wedi ein gosod yn safle rhif 10 o ran y cwynion a wnaed i’r Ombwdsman am Awdurdodau Lleol yng Nghymru.

    Bydd gofyn i aelodau hefyd gymeradwyo 6 o aelodau i banel er mwyn ymgymryd ag Ymweliadau Rota i Gartrefi Gofal y Sector Annibynnol, ynghyd â phennu Chylch Gorchwyl y Panel. Bydd gofyn iddynt hefyd gymeradwyo aelod i eistedd ar Fwrdd Gwyddoniaeth Gogledd Cymru hyd nes y bydd yr etholiadau llywodraeth leol nesaf yn cael eu cynnal yn 2022.

    Yn olaf, bydd gofyn iddynt gymeradwyo cais i ymgeisio am Wobr Arian, Cynllun Cydnabod Cyflogwyr a redir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn. Os caiff ei gymeradwyo, byddwn yn ymrwymo, yn arddangos, ac yn hyrwyddo cefnogaeth i’r lluoedd arfog a’r gymuned amddiffyn yn ehangach. Byddwn yn sicrhau fod ein gwerthoedd yn cyfateb i werthoedd Cyfamod y Lluoedd Arfog.

    Gellir darllen y rhaglen lawn yma.

    Nodwch y dyddiad: 9 Ebrill am 10am yn Neuadd y Dref. Mae croeso i aelodau’r cyhoedd fod yn bresennol.

    Bydd gweddarllediad o’r cyfarfod a gellir ei wylio yn fyw yma.

    Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_61″] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]

  • Digwyddiad arbennig ar gyfer cymuned ysbyty Pwylaidd Llannerch Banna…

    Digwyddiad arbennig ar gyfer cymuned ysbyty Pwylaidd Llannerch Banna…

    Mae arddangosfa gyfredol Amgueddfa Wrecsam ar hanes Ysbyty Pwylaidd Llannerch Banna wedi denu llawer o ddiddordeb!

    Roedd yr ysbyty yng nghanol gymuned Bwylaidd unigryw a dyfodd yn Llannerch Banna am nifer o flynyddoedd ar ôl iddi agor ym 1946.

    Ers i’r arddangosfa agor, mae llawer o bobl wedi ymweld â’r Amgueddfa i rannu eu hatgofion a straeon eu hunain am gymuned yr ysbyty.

    CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB

    Parti ar gyfer Pwylaidd Llannerch Banna

    I ddathlu hyn, mae digwyddiad arbennig yn cael ei gynllunio yn yr amgueddfa i aduno  aelodau o gymuned Ysbyty Pwylaidd a’u teuluoedd.

    Os ydych chi’n adnabod unrhyw un sydd â diddordeb mewn dod draw, rhowch wybod iddyn nhw! Byddem wrth ein bodd yn gweld cymaint o bobl â phosibl yn mynychu i rannu eu straeon ac efallai cwrdd â hen ffrindiau!

    Bydd hefyd yn gyfle i weld rhai o’r eitemau gwych a achubwyd o’r ysbyty ac sydd bellach yn cael eu harddangos fel rhan o’r arddangosfa.

    Sut i gymryd rhan

    • Cynhelir yr aduniad yn yr Amgueddfa ddydd Sadwrn, Mai 11 am 2pm
    • Am fwy o wybodaeth ac i archebu lle, cysylltwch â’r Amgueddfa – 01978 297460 neu e-bostiwch museum@wrexham.gov.uk

    Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_61″] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]

  • Lansio Caffi Cyfle yn Nyfroedd Alun

    Lansio Caffi Cyfle yn Nyfroedd Alun

    Mae’n partneriaid newydd wedi cymryd gofal o gaffi cymunedol mewn parc gwledig poblogaidd.

    Mae Groundwork Gogledd Cymru bellach wedi dechrau masnachu yn y caffi yn Nyfroedd Alun – a elwir bellach yn Caffi Cyfle.

    Cyhoeddwyd y byddai Groundwork yn rhedeg y caffi yn ôl ym mis Chwefror.

    CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

    Yn ôl y Cyng. David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Bydd y caffi’n parhau i gael ei redeg yn fasnachol, ac yn darparu lluniaeth i’r cannoedd o bobl sy’n ymweld â Dyfroedd Alun bob blwyddyn. Rwy’n ffyddiog y bydd Groundwork yn parhau gyda’r gwaith ardderchog y mae’r caffi wedi ei wneud yn y gorffennol o gynnig gwasanaeth i’r gymuned ynghyd â chyfleon i’r rhai sydd eu hangen.”

    Dywedodd y Cyng. Joan Lowe,  Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae’r caffi yn Nyfroedd Alun yn lle gwych i unigolion sydd ag anawsterau dysgu gael y cyfle i ddysgu sgiliau newydd, ac mae wedi darparu cyfleon a gwaith sy’n werthfawr iawn iddynt. Mae’r enw newydd, Caffi Cyfle, yn cyfleu’r ysbryd hwn i’r dim.

    “Mae gan elusen Groundwork y profiad a’r adnoddau i barhau a’r gwaith, ac edrychwn ymlaen i weithio gyda nhw yn y dyfodol”

    Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_61″] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]

  • Rownd gyntaf o gyllid chwaraeaon Cist Gymunedol ar agor am 2019

    Rownd gyntaf o gyllid chwaraeaon Cist Gymunedol ar agor am 2019

    Mae ’na lawer o grwpiau chwaraeon yn Wrecsam sy’n cynnig hyfforddiant ar chwaraeon fel pêl-droed, rygbi, bocsio, athletau, tennis a llawer mwy.

    A ydych chi’n aelod o un o’r grwpiau chwaraeon cymunedol yma? Efallai eich bod chi’n rhan o redeg un?

    Os ydych chi, yna peidiwch â cholli’r cyfle i gael mwy o gyllid a allai eich helpu chi ym mhob ffordd, o gyfarpar hyd at hyfforddiant.

    CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

    Mae’r rownd gyntaf o geisiadau am gyllid Cist Gymunedol am 2019 ar agor, gyda cheisiadau’n cau ar ddydd Mercher, Ebrill 17.

    Gall grwpiau ymgeisio am hyd at £1,500 y flwyddyn.

    Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi, sydd â chyfrifoldeb dros Hamdden: “Mae ‘na nifer o grwpiau chwaraeon ac athletau da sy’n gwneud gwaith arbennig yn eu cymunedau.

    “Mae Cist Gymunedol yno i helpu’r clybiau hynny gael yr adnoddau ychwanegol maent eu hangen.” Dylai’r rhai sydd yn cymryd rhan wneud yn siŵr eu bod nhw ddim yn colli allan.”

    Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Louise Brady, Cyngor Wrecsam ar louise.brady@wrexham.gov.uk; ffôn 01978 297359 neu cofrestrwch trwy ein wefan.

    Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_61″] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]

  • Cynllunio ymlaen i fantoli’r gyllideb

    Cynllunio ymlaen i fantoli’r gyllideb

    Wrth i filiau Treth y Cyngor gyrraedd ein cartrefi yn dilyn heriau ariannol anodd, rydym bellach yn paratoi i gynllunio ar gyfer cyllideb 2020/2022.

    Mae adroddiad i’r Bwrdd Gweithredol nesaf yn amlygu maint yr her ariannol gyda diffyg
    disgwyliedig o ryw £9.8 miliwn dros y ddwy flynedd o 2020/21 i 2021/22, ac mae’n gofyn i aelodau gytuno ar ffordd ymlaen i fantoli’r gyllideb ar gyfer cyfnod 2020/21.

    CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB

    Gelwir y broses hon yn broses y gyllideb ac mae’n ffordd o sicrhau bod ein holl gynghorwyr yn cymryd rhan ac yn cael cyfle i fynegi eu barn.

    Mae’n dechrau’n gynnar iawn – y mis yma mewn gwirionedd – a bydd yn para trwy gydol y flwyddyn dros y broses ymgynghori yn yr hydref a gosod Treth Y Cyngor ym mis Chwefror.

    Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Mae’n broses yr awn trwyddi bob blwyddyn a bob blwyddyn mae’n dod yn fwyfwy anodd cydbwyso’r gyllideb, gosod Treth y Cyngor a pheidio â gostwng gwasanaethau i lefel annerbyniol.

    “Ni fydd pethau’n newid y flwyddyn nesaf ac rwy’n gofyn i’r Bwrdd Gweithredol gymeradwyo dyddiadau ar gyfer gweithdai ac ymgynghoriadau amrywiol gyda rhanddeiliaid gan gynnwys y cyhoedd ar ddiwedd y flwyddyn.

    “Unwaith eto, mae gennym dasg enfawr o’n blaenau. Gofynnir i ni wneud gwerth dros £9m o doriadau i’n cyllideb sy’n £63 miliwn yn ychwanegol at y toriadau sydd eisoes wedi digwydd ers i’r mesurau cyni ddechrau. Rwy’n hyderus y byddwn unwaith eto yn gosod cyllideb gytbwys yn unol â’r toriadau a ddisgwylir gan y Llywodraeth.”

    Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_61″] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]

  • Canfod Achosion o Dipio Anghyfreithlon wrth Gasglu Sbwriel

    Canfod Achosion o Dipio Anghyfreithlon wrth Gasglu Sbwriel

    Daeth gwirfoddolwyr o hyd i lawer o ddeunydd wedi’i dipio’n anghyfreithlon trwy gymryd rhan mewn digwyddiad casglu sbwriel ym Mhant.

    Roedd y deunydd, sef concrid a phren yn bennaf, wedi’i adael yn hytrach na chael ei waredu gan gwmni proffesiynol neu hyd yn oed ei gymryd i’r ganolfan ailgylchu gwastraff cartref.

    CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB

    Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’n gywilyddus bod pobl yn poeni cyn lleied am ein hamgylchedd ac yn disgwyl i bobl eraill i glirio eu llanast. Dwi wedi gofyn i swyddogion ymchwilio o ble ddaeth y llanast, a gan ei fod yn edrych fel petai modd ei adnabod yn hawdd, byddwn yn ymweld â rhywun yn ddigon buan.”

    Gan fod y nosweithiau’n oleuach rŵan ac wrth i ni droi ein sylw tuag at waith DIY a gwelliannau yn yr ardd, cofiwch gynllunio sut byddwch chi’n cael gwared ar y sbwriel sydd ar ôl, ac os yw’n bosibl, ceisiwch ei gynnwys yn y pris terfynol os bydd angen cwmni proffesiynol i gael gwared arno.

    Cewch fanylion am ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref yma.

    Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_61″] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]

  • Dim Gwrthwynebiad i Gynyddu Niferoedd Disgyblion yn Ysgol Bro Alun

    Dim Gwrthwynebiad i Gynyddu Niferoedd Disgyblion yn Ysgol Bro Alun

    Cynhelir cyfarfod nesaf ein Bwrdd Gweithredol ddydd Mawrth,9 Ebrill am 10am.

    Ar y rhaglen bydd y cynnig i gynyddu niferoedd disgyblion yn Ysgol Bro Alun, mater yr ymgynghorwyd arno’n ddiweddar. Mae’r adroddiad yn nodi nad oedd unrhyw wrthwynebiad, ac felly, yr argymhelliad yw i ganiatáu’r cynigion

    CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB 

    Os caiff y cynlluniau eu cymeradwyo, bydd estyniad yn cael ei adeiladu ar gyfer 105 o ddisgyblion ychwanegol – 15 disgybl ym mhob grŵp blwyddyn yn dechrau yn 2019. Yn y pen draw, bydd 315 o ddisgyblion yn yr ysgol, gyda 45 ychwanegol yn y cylch meithrin.

    Dywedodd y Cyng. Phil Wynn, Aelod Arweiniol dros Addysg: “Rydym wedi ymrwymo i gynyddu ein darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg sy’n boblogaidd gyda rhieni. Rydym yn parhau i ateb y galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg, ond wnaiff hyn ond parhau os ydym yn cynyddu’r niferoedd y gallwn eu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws y fwrdeistref sirol.”

    Bydd y Bwrdd Gweithredol yn cyfarfod i drafod y rhain a materion eraill ddydd Mawrth, 9 Ebrill am 10am. Bydd y cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar ein gweddarllediad a gellir ei wylio yma.

    Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_61″] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]

  • Oes angen help arnoch i hawlio Credyd Cynhwysol? Mae llyfrgelloedd Wrecsam yma i helpu!

    Oes angen help arnoch i hawlio Credyd Cynhwysol? Mae llyfrgelloedd Wrecsam yma i helpu!

    Mae gan Wasanaeth Llyfrgell Wrecsam adnodd ar-lein sy’n mynd â chi drwy’r broses hawlio credyd cynhwysol a hefyd drwy’r porth swyddi.

    CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

    Gall ddysgu sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol i chi hefyd fel sut i ddefnyddio llygoden. Mae manylion ar y wefan ynglŷn â sut i baratoi ar gyfer cyfweliad, cyngor ar sut i ysgrifennu CV a mwy.

    Mae pob adran wedi’u rhannu’n fodiwlau a gallwch wirio i weld pa fodiwlau yr ydych wedi’u cwblhau. Mae’r adnodd amhrisiadwy hwn ar gael gan www.wrecsam.gov.uk/llyfrgelloedd (dilynwch y ddolen gwasanaethau ar-lein) a gallwch edrych arno adref neu yn y llyfrgell ond bydd angen cerdyn llyfrgell dilys arnoch i’w ddefnyddio.

    Heb ymaelodi â’r llyfrgell? Gallwch ymuno ar-lein am ddim