Mae sefydliadau yn Wrecsam yn cael eu gwahodd i ymgeisio am grantiau fel rhan o gam diweddaraf rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin (CFfG) Llywodraeth y DU.
Gwahoddir ceisiadau am £2k hyd at £49,999 ar draws pob maes blaenoriaeth CFfG, gan gynnwys…
Cymunedau a Lle
Grantiau ar gyfer prosiectau sy’n cryfhau balchder lleol (gan gynnwys digwyddiadau a gweithgareddau), yn cefnogi cyfleusterau lleol a mannau agored, ac yn gwella diogelwch cymunedol.
Pobl a Sgiliau
Grantiau ar gyfer prosiectau a gweithgareddau sy’n helpu oedolion i wella eu sgiliau mathemateg, cyflogaeth a TG.
Bydd y cyfnod gwneud cais yn agor yr wythnos nesaf (o hanner dydd Ddydd Llun, 19 Mai) ar gyfer sefydliadau, grwpiau a busnesau ledled Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Y dyddiad cau i wneud cais yw 5pm ar 9 Mehefin.
Dwedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Rydym am i grwpiau a sefydliadau lleol fanteisio ar y cyfle gwych hwn drwy wneud cais am grant.
“Os ydych chi’n gweithio ar brosiect a fydd yn helpu i gynyddu balchder a chyfleoedd bywyd lleol yn y fwrdeistref sirol, cymerwch gip ar wefan y Cyngor oherwydd y gallai hyn fod yn gyfle i sicrhau’r cyllid sydd ei angen arnoch.
“Rydyn ni hefyd eisiau i fusnesau lleol wneud yn fawr o’r cyfle hwn… rydym am eu helpu i dyfu a chystadlu. Mae cefnogi cyflogwyr lleol yn hynod bwysig, ac nid ydym am weld unrhyw un yn colli’r cyfle.”
Gallwch ddarganfod mwy am y grantiau CFfG sydd ar gael ar hyn o bryd drwy ymweld â gwefan Cyngor Wrecsam.
Efallai y byddwch hefyd yn mwynhau darllen am fusnesau lleol a dderbyniodd grant CFfG o’r blaen, a’r hyn a wnaeth y grant iddynt:
Grant CFfG yn mynd â busnes artist i’r lefel nesaf – Newyddion Cyngor Wrecsam
Bara i bara am byth… – Newyddion Cyngor Wrecsam
Yn dod yn fuan
Cadwch lygad ar y blog hwn yn ystod yr wythnosau nesaf i gael gwybodaeth am lansiad Grant Busnes Wrecsam.
Bydd y grant hwn yn dyfarnu rhwng £2,000 a £10,000 i fusnesau bach a chanolig hyfyw yn ariannol i ad-dalu hyd at 50% o brosiectau gwariant cyfalaf cymwys a / neu wariant refeniw arbenigol.
Bydd Grant Busnes Wrecsam yn agor cyn hir!
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.