Mae crynodeb o’r gwaith annibynnol ar gyfer statws dinas yn amlinellu buddion allweddol statws dinas yn cael ei rannu gyda Chynghorwyr, partneriaid a phreswylwyr cyn y penderfyniad a gymerir gan y Cyngor yn Rhagfyr.
Mae’r datganiad yn nodi 10 budd allweddol i Wrecsam os daw yn ddinas, sy’n cynnwys:
- Mwy o synnwyr o falchder lleol.
- Llwyfan i hyrwyddo Wrecsam.
- Cyfleoedd i sefydliadau a busnesau lleol i godi eu proffil a denu buddsoddiad e.e. Y Brifysgol.
- Mwy o botensial i ddenu myfyrwyr, staff a buddsoddwyr medrus ac uchelgeisiol i Wrecsam e.e. Ysbyty.
- Cyfleoedd i’r gymuned, isadeiledd, a gwasanaethau i dyfu a datblygu yn fwy cynaliadwy.
- Canolbwynt ar gyfer ymgyrchoedd brandio a marchnata’r dyfodol.
- Mwy o ymwybyddiaeth o hanes, diwylliant ac iaith Wrecsam – denu mwy o ymwelwyr a chefnogi’r economi leol.
- Mwy o botensial i ddenu prosiectau mawr.
- Y gallu i gydweithio gyda dinasoedd Cymru a’r DU ar brosiectau a mentrau dinas penodol.
- Disgwyliadau cynyddol o ‘greu lle’ a fydd yn ei dro yn creu lleoedd mwy ffyniannus i fyw, gweithio a buddsoddi.
Cyhoeddwyd y datganiad cyn penderfyniad allweddol Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam ar gyflwyno cais ai peidio am statws dinas ac roedd yn rhan o’r penderfyniad a gytunwyd yn y Cyngor i hyrwyddo’r buddion mor eang â phosib.
Gellir darllen y datganiad llawn ar wefan Cyngor Wrecsam.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam:
“Ysgrifennwyd y datganiad gan yr arbenigwyr a benodwyd i edrych ar statws dinas fel rhan o waith ehangach siapio lle ac mae’n crynhoi’r buddion allweddol o’u hymchwil. Mae’r datganiad hwn yn darparu mewnwelediad gwerthfawr iawn a chrynodeb byr i ni gyd yn Wrecsam o’r buddion allweddol o ddod yn ddinas.”
Ychwanegodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd Cyngor Wrecsam:
“Mae’r adroddiad hwn yn ei gwneud yn glir y byddai statws dinas yn rhan o ddarlun siapio lle mwy, ac yn un o nifer o ddulliau gweithredu a fydd o gymorth i gryfhau lles cymunedol, hunaniaeth a balchder yn Wrecsam.”