Gyda 300,000 o briodasau yn y DU bob blwyddyn mae yna farchnad enfawr ar gyfer conffeti – ac os yw wedi’i wneud o blastig neu ffoil mae hynny’n gur pen enfawr i’r amgylchedd os nad yw’n ecogyfeillgar. Gall fod yn berygl posibl i fywyd gwyllt a chyrsiau dŵr hefyd.
Yn Neuadd y Dref yma yn Wrecsam mae tua 120 o gyplau yn priodi pob blwyddyn ac mae’n llawenhau ein diwrnod i glywed y gerddoriaeth o’r seremonïau a gweld y briodferch a’r priodfab yn achlysurol.
Mae pawb yn caru conffeti, a pham ddim? Mae’n rhan o’r dathliadau. Ond wrth i ni fod yn fwy ymwybodol o’n hamgylchedd rydym yn gofyn i bawb sydd gan briodas eleni – naill ai fel gwesteion neu’n trefnu un – i feddwl yn naturiol a phrynu conffeti naturiol neu ofyn i’ch gwesteion ddefnyddio cynnyrch naturiol yn unig.
Os ydych yn darparu conffeti i’ch gwesteion neu’n mynd â’ch conffeti eich hun, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio o ble mae wedi dod ac o beth mae wedi cael ei wneud.
Meddyliwch am yr amgylchedd wrth brynu neu ddarparu conffeti
Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio conffeti naturiol a wnaed o flodau neu berlysiau ond os nad ydych yn dymuno defnyddio hwn peidiwch â dewis conffeti plastig na ffoil os gwelwch yn dda.
Mae yna lawer o syniadau ar-lein ar gyfer dewisiadau eraill ac rydym yn argymell eich bod yn cael golwg arnynt.
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae priodasau yn achlysuron hapus iawn a dylid eu dathlu gan bawb sy’n cymryd rhan. Fodd bynnag, yn y byd modern heddiw, mae’n amlwg bod conffeti plastig a ffoil yn dod yn boblogaidd a gofynnwn i chi feddwl am yr amgylchedd wrth brynu neu ddarparu conffeti. Mae’n rhywbeth bach i’w ystyried wrth gynllunio priodas ond gall fynd yn bell i leihau ein gwastraff nad yw’n compostio.
“Rydym wedi datgan argyfwng hinsawdd yn ddiweddar ac rydym yn gwybod bod llawer o drigolion yn Wrecsam yn cefnogi hyn felly os gwelwch yn dda – defnyddiwch gonffeti naturiol.”
Sign up to pay for your green bin to be emptied.
I WANT TO PAY NOW