Diwrnod canlyniadau TGAU a Lefel 2 2023 – 24 Awst
Hoffem longyfarch ein holl fyfyrwyr sydd wedi derbyn eu canlyniadau TGAU a chymwysterau lefel 2 heddiw.
Dywedodd y Cyng. Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Dylai pob disgybl sy’n cael eu canlyniadau TGAU heddiw fod yn falch iawn o’u cyflawniadau yn ystod cyfnodau heriol.
“Dwi’n dymuno’r gorau i chi wrth i chi symud ymlaen at addysg bellach, gwaith neu hyfforddiant.”
Llongyfarchiadau i bob myfyriwr
Meddai Karen Evans, Pennaeth Addysg Wrecsam: “Ar ran Cyngor Wrecsam, hoffwn longyfarch pob myfyriwr sy’n cael eu canlyniadau heddiw, a diolch i’n staff addysgu, rhieni a gwarcheidwaid am eu cefnogi.”
Dywedodd llefarydd ar ran GwE, Gwasanaeth Gwella Ysgolion rhanbarth Gogledd Cymru, “Fe hoffai’r 6 Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru a GwE longyfarch pob dysgwr ar eu cyflawniadau yn arholiadau TGAU a chymwysterau Lefel 2 eraill eleni. Fe hoffem ddymuno’r gorau i’r bobl ifanc at y dyfodol a chydnabod y gefnogaeth maent wedi’i gael gan eu hysgolion, eu teuluoedd ac Awdurdodau Lleol.
“Byddem yn annog pob dysgwr i geisio cyngor ac arweiniad am yr ystod eang o gyfleoedd dysgu ôl-16 sydd ar gael iddynt. Rydym yn dymuno’r gorau i bob un o’n dysgwyr yn y camau nesaf maent wedi’u dewis.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch
Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Wythnos ar ôl i ymestyn hawliad Budd-dal Plant i bobl ifanc yn eu harddegau