Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Nodyn Briffio Covid-19 – beth fydd y rheolau newydd yn ei olygu yn Wrecsam o 28 Rhagfyr
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Nodyn Briffio Covid-19 – beth fydd y rheolau newydd yn ei olygu yn Wrecsam o 28 Rhagfyr
ArallY cyngor

Nodyn Briffio Covid-19 – beth fydd y rheolau newydd yn ei olygu yn Wrecsam o 28 Rhagfyr

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 29, 2020 11:19 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Covid-19
RHANNU

Nodyn briffio Covid-19 – daeth cyfyngiadau lefel rhybudd 4 i rym neithiwr (19 Rhagfyr)…dyma beth mae’n ei olygu yn Wrecsam

Cynnwys
  • Beth sydd angen i chi ei wneud?
  • Beth fydd yn cau yn Wrecsam?
  • Beth fydd yn aros ar agor?
  • Swigod Nadolig
  • Mae brechlynnau yn achub bywydau

Yn gynharach yr wythnos hon, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru set newydd o reolau a ddaw i rym ar draws Cymru ar 28 Rhagfyr.

O dan y system goleuadau traffig newydd, bydd y wlad yn symud i ‘Lefel Rhybudd 4’ – yn debyg i gyfnod atal byr yr hydref.

Felly beth yn union y mae angen i ni ei wneud o 28 Rhagfyr, a beth fydd yn newid yn Wrecsam?

Beth sydd angen i chi ei wneud?

Mae’r neges sylfaenol yn syml: arhoswch adref a chyfyngu ar nifer y bobl rydych chi’n dod i gysylltiad â nhw.

Mae hyn yn golygu:

  • Dim ond â phobl rydych chi’n byw â nhw neu eich swigen gefnogaeth eich hun y dylech chi gymysgu (ni fydd modd i chi gael aelwyd ‘estynedig’).
  • Peidio â chwrdd â phobl o aelwydydd eraill. Mae hyn yn cynnwys dan do a thu allan.
  • Teithio at ddibenion hanfodol yn unig, megis gwaith, rhesymau iechyd neu ddyletswyddau gofalu.

Darganfyddwch y gwybodaeth diweddaraf am Coronafeirws

Beth fydd yn cau yn Wrecsam?

Bydd y cyfleusterau canlynol ar gau o 28 Rhagfyr (er bydd llawer yn cau yn gynt oherwydd gwyliau banc y Nadolig):

  • Siopau/eiddo manwerthu nad ydyn nhw’n hanfodol.
  • Y Farchnad Gyffredinol.
  • Marchnad ddydd Llun ar Sgwâr y Frenhines.
  • Maes parcio ac adeilad Tŷ Pawb.
  • Lleoliadau lletygarwch ac adloniant.
  • Atyniadau i ymwelwyr, yn cynnwys Amgueddfa Wrecsam.
  • Bydd llyfrgelloedd yn aros ar gau heblaw ar gyfer archebu a chasglu.
  • Canolfannau hamdden, gan gynnwys Byd Dŵr Wrecsam a lleoliadau Hamdden Freedom eraill. Bydd cyrtiau chwaraeon a chyrsiau golff yn cau hefyd.
  • Lleoliadau ar gyfer derbyniadau priodas a the claddu.

Bydd y Cyngor yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau hanfodol (megis cynnal a chadw priffyrdd). Bydd rhai gwasanaethau eraill yn cael eu hatal am y tro.

Beth fydd yn aros ar agor?

Bydd y pethau canlynol yn aros ar agor:

  • Parciau sy’n cael eu rheoli gan y Cyngor, parciau gwledig a meysydd chwarae.
  • Darpariaeth gofal plant.
  • Mannau Addoli.
  • Amlosgfa Wrecsam (gyda chyfyngiadau ar fynychu gwasanaethau) a mynwentydd.
  • Y swyddfa gofrestru yn Neuadd y Dref am briodasau a seremonïau partneriaeth sifil, yn ogystal â chofrestriadau genedigaethau.
  • Bydd Marchnad y Cigydd yn aros ar agor ar gyfer masnachwyr bwyd.
  • Bydd Tŷ Pawb yn aros ar agor i fasnachwyr sy’n darparu gwasanaethau bwyd i fynd.
  • Bydd caffis ym Mhlas Pentwyn a Chanolfan Adnoddau Llai yn aros ar agor ar gyfer gwasanaethau bwyd i fynd.
  • Bydd gwaith yn yr awyr agored ar dai y cyngor yn parhau, a byddwn yn gwneud gwaith atgyweirio yn nhai tenantiaid os yw’n argyfwng.
  • Bydd y tair canolfan ailgylchu yn Bryn Lane, Brymbo a Phlas Madoc yn aros ar agor, ond rydym ni’n aros am ganllawiau terfynol gan Lywodraeth Cymru.

Swigod Nadolig

Rhwng 23 a 27 Rhagfyr (cyn i’r rheolau newydd ddod i rym ar 28 Rhagfyr), gall dwy aelwyd ffurfio ‘swigen Nadolig’.

Roedd caniatâd i dair aelwyd ffurfio swigen yn wreiddiol, ond mae’r nifer wedi lleihau yng Nghymru i ddwy aelwyd.

Mae’r risg yn cynyddu o ddal neu ledaenu’r feirws pan fyddwn ni’n dod ynghyd…felly meddyliwch yn ofalus wrth wneud cynlluniau.

Mae Nadolig llai yn Nadolig mwy diogel.

Os ydych chi’n penderfynu ffurfio swigen gydag aelwyd arall, dilynwch yr awgrymiadau yma gan Lywodraeth Cymru:

  • Osgowch gysylltiad agos gymaint â phosibl, defnyddiwch y lle’n gall a gadewch ddigon o le rhwng y seddi.
  • Agorwch ffenestri a drysau er mwyn awyru ystafelloedd pan fydd hi’n ddiogel i chi wneud hynny.
  • Glanhewch arwynebau’n rheolaidd a gochlwch eich dwylo’n aml – yn enwedig cyn bwyta.
  • Peidiwch â rhannu offer cegin a thyweli.

Mae brechlynnau yn achub bywydau

Mae brechlynnau wedi arbed miliynau o fywydau, ac wedi helpu i frwydro yn erbyn sawl afiechyd – yn cynnwys polio, y frech goch, difftheria a thetanws.

Gan fod rhaglen brechu y DU wedi dechrau, gallwn edrych ymlaen at 2021 gyda gobaith ac optimistiaeth.

Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf am frechlyn Covid-19 ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

???? Darganfyddwch y ffeithiau…darllenwch y gwybodaeth diweddaraf am brechlyn Covid-19 gan GIG Cymru ????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/”]CANFOD Y FFEITHIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Grant Arloesi Cyfleoedd Chwarae Digonol Wrecsam 2020-21 Grant Arloesi Cyfleoedd Chwarae Digonol Wrecsam 2020-21
Erthygl nesaf Covid-19 Nodyn briffio Covid-19 – daeth cyfyngiadau lefel rhybudd 4 i rym neithiwr (19 Rhagfyr)…dyma beth mae’n ei olygu yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English