Mae’r nodyn hwn yn darparu diweddariad ar yr wybodaeth a bostiwyd yn y blog hwn yr wythnos ddiwethaf (22.5.20).
Negeseuon allweddol ar gyfer heddiw
• O ddydd Llun (1 Mehefin) bydd pobl yng Nghymru o ddwy aelwyd wahanol yn yr un ardal, yn cael cyfarfod yn yr awyr agored.
• Mae’r wythnos nesaf yn Wythnos y Gwirfoddolwyr. Mae’n gyfle i ddweud diolch wrth wirfoddolwyr yn Wrecsam ac ar draws y DU.
• Os oes gennych gardfwrdd ychwanegol i’w ailgylchu, mae’n rhaid iddo fod mewn cynhwysydd y gall ein criwiau bin ei wagio’n syth i’r rhan gywir o’r cerbyd….heb orfod cyffwrdd yn y cardfwrdd ei hun.
• Diolch yn fawr i bawb am gadw at y rheolau yn ein canolfannau ailgylchu.
• Os ydych wedi eich cofrestru ar gyfer cyfraddau busnes a’ch bod yn masnachu hyd at y cyfyngiadau ar symud, efallai eich bod yn colli cyfle i fansteisio ar grant o hyd at £25,000. Rydym eisoes wedi talu 22m i dros 1,800 o fusnesau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud cais cyn 30 Mehefin.
• Os ydych chi, neu rywun rydych chi’n eu hadnabod mewn perygl o ddioddef cam-drin domestig yn ystod argyfwng y coronafeirws, mae’r llinell gymorth Byw Heb Ofn ar gael 24-7. Ffoniwch 0808 80 10 800.
• Rydym wedi gwneud taliadau uniongyrchol ar gyfer prydau ysgol am ddim i dros 3,300 o blant ers cychwyn y cynllun ar 4 Mai. Dylai’r taliad ar gyfer y pedair wythnos nesaf fod yng nghyfrifon banc pobl ar 1 Mehefin.
Ian Bancroft – Prif Weithredwr
Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor
Erbyn i chi ddarllen hwn…
Erbyn i chi ddarllen hwn, mae’n debyg y byddwch yn gwybod am y newidiadau i’r cyfyngiadau ar symud o’r wythnos nesaf.
Yn gynharach heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru, o ddydd Llun (1 Mehefin) y bydd pobl o ddwy aelwyd wahanol yn yr un ardal yn cael cyfarfod yn yr awyr agored.
Mae’n rhaid i chi barhau i gadw pellter cymdeithasol a golchi’ch dwylo’n drylwyr.
Bydd raid i chi aros yn lleol hefyd – sydd, fel rheol, yn golygu peidio â theithio mwy na phum milltir o’ch cartref.
Mae gorfod cadw draw oddi wrth deulu a ffrindiau wedi bod yn anodd iawn, ac fe fyddwn ni i gyd yn gwerthfawrogi’r llacio bychan hwn ar y cyfyngiadau.
Ond mae’n bwysig iawn nad ydym yn mynd dros ben llestri, a’n bod yn parhau i ddilyn y rheolau er mwyn helpu i atal lledaeniad y feirws.
Arhoswch yn lleol er mwyn helpu i gadw Wrecsam – a gweddill Cymru – yn ddiogel.
Diolch i wirfoddolwyr ym mhob man
Mae’r wythnos nesaf yn Wythnos y Gwirfoddolwyr. Mae’n gyfle i ddweud diolch wrth filiynau o wirfoddolwyr ar draws y DU.
Yma yn Wrecsam, mae gwirfoddolwyr yn chwarae rôl allweddol…yn helpu prosiectau ac elusennau cymunedol, ac yn cefnogi gwasanaethau lleol fel y cyngor, gwasanaethau iechyd a’r gwasanaeth brys.
Maen nhw’n gwneud gwahaniaeth i’n bywydau ni i gyd drwy’r fwrdeistref sirol, ac maen nhw’n barod i gynnig cymorth a helpu pan fydd sefyllfaoedd newydd yn codi.
Dydy hyn erioed wedi bod mor amlwg ag y mae yn ystod y cyfnod hwn o argyfwng.
Mae gwirfoddolwyr a gydlynwyd gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam (AVOW) wedi helpu i ddanfon bwyd, nôl presgripsiynau a gwneud pob math o waith arall er mwyn helpu’r mwyaf diamddiffyn.
Felly gadewch i ni ddweud diolch wrth wirfoddolwyr dros y fwrdeistref sirol i gyd, a defnyddio’r wythnos nesaf i feddwl am yr hyn maen nhw’n ei wneud i ni.
Mae nifer o arwyr yn ein plith ar y funud. Mae gwirfoddolwyr yn sicr yn rhai ohonynt.
(Er mwyn cysylltu â Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam, e-bostiwch VB@avow.org neu ffoniwch 01978 312556)
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Pam na allwn ni gasglu cardfwrdd rhydd
Wrth i ni gasglu eich sbwriel a’ch deunyddiau ailgylchu, ein blaenoriaeth yw eich cadw chi a’n criwiau sbwriel yn ddiogel.
Mae gennym ragofalon llym iawn mewn lle o ran hylendid, ond rydym angen eich help chi gyda rhai o’r rhain.
Er enghraifft, ni chaiff ein gweithwyr gyffwrdd yn eich deunyddiau ailgylchu o gwbl…felly ni chânt godi cardfwrdd rhydd.
Os oes gennych gardfwrdd ychwanegol i’w ailgylchu, mae’n rhaid iddo fod mewn cynhwysydd y gall ein criwiau bin ei wagio’n syth i’r rhan gywir o’r cerbyd.
Darllenwch yr erthygl hon am fwy o wybodaeth.
Diolch yn fawr i bawb am gadw at y rheolau yn ein canolfannau ailgylchu
Fel y gwyddoch mae’n debyg, fe ail-agorodd eich canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref yn Lôn y Bryn, Plas Madog a Brymbo yn gynharach y mis hwn.
Rydym eisiau diolch o galon i bawb am gadw at y rheolau, a helpu i gadw pawb yn ddiogel.
Peidiwch ag ymweld â’n safleoedd oni bai bod gwir angen, a chofiwch archebu lle ymlaen llaw os ydych am ymweld â safle Brymbo (ffoniwch 01978 801463).
Dyma nodyn sydyn i’ch atgoffa o’r rheolau.
Allai’r arian hwn helpu eich busnes chi? Gwnewch gais erbyn 30 Mehefin
Rydym wedi helpu dros 1,800 o fusnesau ac unig fasnachwyr yn y fwrdeistref sirol drwy ddarparu £22m mewn grantiau busnes ers cychwyn y cyfyngiadau ar symud.
Mae hyn yn cynnwys elusennau bychain a chlybiau chwaraeon cymunedol yn dilyn diwygio’r rheolau cymhwyso’n ddiweddar.
Ond, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar y bydd y cynllun grantiau’n cau ar gyfer ceisiadau ar 30 Mehefin.
Felly, dyma alw ar unrhyw fusnes nad yw wedi derbyn benthyciad busnes neu arian hyd yma o’r Gronfa Cadernid Economaidd, i fynd i’n gwefan i wirio ydyn nhw’n gymwys – ac os ydyn nhw – i wneud cais.
Fe ddewch o hyd i’r holl wybodaeth berthnasol ar ein safle, gan gynnwys meini prawf diwygiedig ar gyfer elusennau bychain a chlybiau chwaraeon amatur cymunedol.
Rydym yn gofyn yn arbennig i berchnogion siopau, swyddfeydd, siopau trin gwallt, garejis a gorsafoedd petrol, a chanolfannau cymuned neu adeiladau nad ydynt yn perthyn i’r cyngor i ystyried gwneud cais.
Dyffryn Ceiriog am ginio dan glo
Mae cymunedau ledled y fwrdeistref sirol wedi bod yn dod at ei gilydd yn ystod yr argyfwng presennol.
Er enghraifft, daeth gwirfoddolwyr yn Nyffryn Ceiriog at ei gilydd i baratoi, coginio a danfon 100 o brydau cig eidion i bobl sy’n hunan-ynysu.
Darllenwch yr erthygl a gyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon.
#BywHebOfn
Os ydych chi, neu rywun rydych yn eu hadnabod, mewn perygl o ddioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol yn ystod argyfwng y coronafeirws, mae help a chefnogaeth ar gael.
Mae’r llinell gymorth Byw Heb Ofn ar gael 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos ac mae am ddim. Ffoniwch 0808 80 10 800.
Darllenwch yr erthygl a bostiwyd gennym yn gynharach yr wythnos hon am fwy o wybodaeth.
Taliadau uniongyrchol prydau ysgol am ddim
Rydym wedi gwneud taliadau uniongyrchol ar gyfer dros 3,300 o blant ers cychwyn y cynllun ar 4 Mai.
Bydd y rhai sy’n gymwys yn derbyn taliad pellach i’w cyfrif banc dynodedig ar 1 Mehefin ar gyfer y pedair wythnos nesaf.
Os ydy’ch plentyn chi’n mynychu ysgol yn Wrecsam, ac yn derbyn prydau ysgol am ddim ac nad ydych wedi gwneud cais am daliadau uniongyrchol hyd yma, edrychwch ar yr wybodaeth ar ein gwefan.
Cofiwch – ffynonellau dibynadwy o wybodaeth am Covid-19
Darperir yr wybodaeth ddiweddaraf am y feirws a’r hyn y dylai pobl ei wneud yn ei gylch drwy:
• Ddatganiadau dyddiol ar y teledu gan y Llywodraeth (gan gynnwys gweinidogion y Llywodraeth) am tua 5pm.
• Datganiadau dyddiol gan Lywodraeth Cymru am tua 12.30pm.
• Briffio swyddogol dyddiol gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am 2pm, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am 3pm.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19
Covid-19 (Novel Coronavirus) – nodyn briffio’r cyhoedd 22.5.20