Mae’r nodyn hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn yr hyn a gyhoeddwyd ar y blog hwn ar 17.8.20
Negeseuon allweddol yr wythnos hon
- Bydd disgyblion yn dechrau dychwelyd i’r ysgol yr wythnos nesaf. Rydym eisiau i hyn fod mor ddiogel â phosibl i bawb.
- Cludiant i’r ysgol. Gofynnir i ddisgyblion wisgo gorchudd wyneb ar gludiant i’r ysgol
- Bydd prydau ysgol ychydig yn wahanol
- Mae’n ŵyl banc olaf cyn y Nadolig ac os ydych yn mynd i’r dref gyda ffrindiau neu deulu, cadwch yn ddiogel a threfnwch eich ymweliad ymlaen llaw.
Rhag ofn eich bod wedi methu…
Mae nodyn briffio heddiw yn grynodeb o gyhoeddiadau a newidiadau dros yr ychydig ddyddiau diwethaf…
Covid-19 – Yr hyn rydych angen ei wybod cyn i’ch plentyn ddychwelyd i’r ysgol
Os ydych yn rhiant neu’n ofalwr, byddwch yn gwybod fod ysgolion ar draws Wrecsam yn agor ar gyfer y tymor newydd o ddydd Mawrth, 1 Medi.
Ar gyfer y rhan fwyaf o ysgolion byddant yn dychwelyd yn raddol dros bythefnos, gyda gwahanol grwpiau blwyddyn yn dychwelyd ar ddyddiau gwahanol a bydd eich ysgol wedi bod mewn cysylltiad i gadarnhau trefniadau.
Rydym eisiau i’r trefniadau dychwelyd fod mor ddiogel â phosibl i bawb ac rydym wedi cyhoeddi gwybodaeth ar beth gall rhieni a disgyblion ei ddisgwyl yr wythnos nesaf a’r hyn a ddisgwylir hefyd gan ddisgyblion a’u rhieni/gofalwyr.
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Cludiant i’r ysgol. Gofynnir i ddisgyblion wisgo gorchudd wyneb ar gludiant i’r ysgol
Bydd cludiant i’r ysgol yn gweithredu pan fydd disgyblion yn dychwelyd a gellir sicrhau rhieni/gofalwyr bod yna bwyslais ar ddiogelwch i ddisgyblion sy’n teithio ar gludiant i’r ysgol neu dacsi.
Mae’n ofynnol i’r disgyblion hynny sy’n 11 oed a hŷn wisgo gorchudd wyneb pan fyddant yn dychwelyd i’r ysgol yn defnyddio cludiant o’r cartref i’r ysgol. Bydd cludiant yn cael ei lanhau’n rheolaidd hefyd.
Rydym wedi paratoi cwestiynau cyffredin a phrotocol felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o bopeth a ddisgwylir.
Bydd prydau ysgol ar gael
Bydd prydau ysgol yn cael eu darparu pan fydd plant yn dychwelyd i’r ysgol yr wythnos nesaf – ond efallai y byddant yn cael eu gweini’n wahanol
Os ydych yn mynd i’r dref y penwythnos hwn cadwch yn ddiogel
Wrth i ni nesáu at benwythnos gŵyl banc bydd llawer ohonoch yn ymweld â chanol y dref am ddiod gyda ffrindiau a theulu. Trefnwch eich ymweliad i sicrhau eich bod yn osgoi cael eich siomi a dilyn yr holl gyngor a roddwyd er mwyn Cadw’n Saff yn Wrecsam.
Casgliadau bin gŵyl banc
Nid oes unrhyw newid i gasgliadau bin yr wythnos nesaf felly peidiwch ag anghofio rhoi eich bin allan ar y diwrnod casglu arferol.
Taliadau ar-lein nawr ar gael ar gyfer bin gwastraff gwyrdd
Gallwch bellach dalu i wagu eich bin gwastraff gardd gwyrdd ar-lein
Nodyn Atgoffa – ffynonellau gwybodaeth ddibynadwy am Covid-19
Caiff y wybodaeth ddiweddaraf am y feirws a beth ddylai pobl wneud amdano ei darparu trwy:
YMGEISIWCH RŴAN