Mae’r nodyn hwn yn darparu diweddariad ar yr wybodaeth a bostiwyd yn y blog hwn ddydd Llun (15.5.20).
Negeseuon allweddol ar gyfer heddiw
• Wrth i ni wynebu penwythnos gŵyl y banc arall, cofiwch fod y neges ‘aros adref’ yn dal i gael ei gweithredu yng Nghymru.
• Byddwn yn gwagio eich biniau ac yn casglu eich ailgylchu fel arfer ddydd Llun gŵyl y banc (Mai 25).
• Os ydych wedi eich cofrestru ar gyfer cyfraddau busnes a’ch bod yn masnachu hyd at y cyfnod cyfyngiadau ar symud , efallai eich bod yn colli cyfle i fanteisio ar grant o hyd at £25,000.
Ian Bancroft – Prif Weithredwr
Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor
Peidiwch â rhoi’r ffidil yn y to rŵan, a pheidiwch â mentro cael dirwy…arhoswch adref
Wrth i ni wynebu penwythnos gŵyl y banc arall, cofiwch fod y neges ‘aros adref’ yn dal i gael ei gweithredu yng Nghymru.
Ac er y cewch adael eich cartref i wneud ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd rŵan, dylech barhau i ymarfer yn eich ardal leol, a mynd ar deithiau hanfodol yn unig.
Mae pobl wedi dangos gwydnwch rhyfeddol yma yn Wrecsam, ond mae’n rhaid i ni ddal ati. Felly plîs….peidiwch â neidio i’r car a gyrru i’n parciau’r penwythnos hwn.
Peidiwch â gyrru i’n canolfannau ailgylchu oni bai eich bod chi wir angen gwneud hynny.
Arhoswch yn lleol.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gofyn i bawb ddal ati i wneud y peth cywir, ac yn cynnig cyngor gwerthfawr yn y fideo hwn ar Facebook…
Cynyddu’r dirwyon am dorri’r cyfyngiadau ar symud
Yn ogystal â’ch siomi chi eich hun ac eraill, mae goblygiadau ariannol sylweddol os ydych chi’n torri’r rheolau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau – o heddiw ymlaen – y bydd y cosbau uchaf am dorri’r cyfyngiadau ar symud, yn codi.
Yn hytrach na rhoi dirwyon o £60 am drosedd gyntaf, gan godi i £1,920 am ail drosedd a throseddau dilynol, bydd y dirwyon rŵan yn dyblu gyda phob trosedd – gan godi o £60 i £120 i £1,920 am y chweched trosedd.
Cadwch at y rheolau. Cadwch yn ddiogel. Peidiwch â mentro cael dirwy.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Does dim newid i gasgliadau biniau dros ŵyl y banc
Byddwn yn gwagio’ch biniau ac yn casglu’ch deunyddiau ailgylchu fel arfer ddydd Llun gŵyl y banc (Mai 25)
Felly os mai dydd Llun yw eich diwrnod bin arferol, rhowch eich biniau a’ch deunyddiau ailgylchu allan fel arfer….fydd gŵyl y banc yn newid dim ar hynny.
Edrychwch ar yr erthygl a bostiwyd gennym yn gynharach yr wythnos hon…a helpwch ni i gasglu’ch deunyddiau ailgylchu yn ddiogel.
Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Brymbo
Fe ail-agorwyd ein tair canolfan ailgylchu gwastraff y cartref ar 15 Mai, ac – oherwydd problemau traffig – cyflwynwyd system archebu lle ar gyfer safle Brymbo yn gynharach yr wythnos hon.
Os ydych eisiau archebu lle yn safle Brymbo, ffoniwch 01978 801463 rhwng 8am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener.
Does dim angen archebu lle er mwyn defnyddio safleoedd Lôn y Bryn neu Blas Madog. Ond, dylech ymweld â’n canolfannau ailgylchu ddim ond os oes gwir angen gwneud hynny, a chadwch at reolau’r safle.
Ydych chi wedi gwneud cais am grant cymorth i fusnesau?
Rydym bellach wedi talu mwy na £21 miliwn i 1,806 o fusnesau yn Wrecsam fel rhan o’r cymorth rhyddhad cyfraddau busnes a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru.
Os ydych wedi eich cofrestru ar gyfer cyfraddau busnes a’ch bod yn masnachu hyd at y cyfyngiadau ar symud, efallai eich bod yn colli cyfle i fanteisio ar grant o hyd at £25,000.
Efallai fod gennych chi siop, swyddfa, siop trin gwallt, garej neu orsaf betrol? Efallai eich bod hyd yn oed yn rhedeg canolfan neu adeilad cymunedol nad yw’n eiddo i’r cyngor?
Pa fath bynnag o fusnes ydych chi’n ei redeg, os nad ydych wedi gwneud cais hyd yma, ewch i’n gwefan i wirio a ydych chi’n gymwys a gwnewch gais.
Bwganod brain Owrtyn yn codi calon
Mae ambell fwgan brain gwych wedi ymddangos ym mhentref Owrtyn – fel y gweithiwr hwn yn gwagio’r biniau 🙂
Ymgais hyfryd i gael tipyn o hwyl yn y cyfnod caled hwn.
Cofiwch – ffynonellau dibynadwy o wybodaeth am Covid-19
Darperir yr wybodaeth ddiweddaraf am y feirws a’r hyn y dylai pobl ei wneud yn ei gylch drwy:
• Ddatganiadau dyddiol ar y teledu gan y Llywodraeth (gan gynnwys gweinidogion y Llywodraeth) am tua 5pm.
• Datganiadau dyddiol gan Lywodraeth Cymru am tua 12.30pm.
• Briffio swyddogol dyddiol gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am 2pm, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am 3pm.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19
Covid-19 (Novel Coronavirus) – nodyn briffio’r cyhoedd 15.5.20