Os ydych yn rhiant neu’n ofalwr, byddwch yn gwybod y bydd ysgolion ar draws Wrecsam yn agor ar gyfer y tymor newydd dydd Mawrth, 1 Medi.
Ar gyfer y mwyafrif o ysgolion, dychwelyd yn raddol fydd yn digwydd dros y pythefnos, gyda grwpiau blwyddyn gwahanol yn dod i mewn ar wahanol ddiwrnodau, a bydd eich ysgol yn cysylltu â chi i gadarnhau’r trefniadau.
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Rydym i gyd yn gwybod ei bod wedi bod yn flwyddyn anodd oherwydd y Coronafeirws, ac mae’n naturiol bod rhieni, gofalwyr a phlant yn poeni ychydig am y tymor newydd.
Fel cyngor, rydym eisiau eich sicrhau bod iechyd ein cymunedau yn dod yn gyntaf, a bod cynlluniau mewn lle i sicrhau bod dychwelyd i’r ysgol mor esmwyth a diogel â phosib.
Gallwn i gyd chwarae rhan
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg “Mae llawer iawn o gynllunio wedi bod yn mynd ymlaen tu ôl y llenni, gyda’r cyngor, ysgolion a darparwyr cludiant yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod canllawiau’r llywodraeth yn cael eu dilyn.
“Bydd trefniadau ychydig yn wahanol o ysgol i ysgol, yn ddibynnol ar yr amgylchiadau. Ond os ydym yn chwarae ein rhan – ac yn dilyn pob canllaw gan ysgolion a’r cyngor – dylai’r dychweliad i’r ysgol fod yn brofiad boddhaol a phleserus i bob plentyn.
“Fel rhan o hyn, rydym yn gofyn i rieni roi gair i gall i’w plant ynghylch hylendid a diogelwch – gan gynnwys yr angen i olchi eu dwylo’n rheolaidd, a dal unrhyw dagiadau neu disian.”
“Bydd pob ysgol uwchradd yn Wrecsam yn gofyn i ddisgyblion prif ffrwd wisgo gorchuddion wyneb mewn ardaloedd cymunedol fel coridorau. Mae’r penderfyniad hwn wedi derbyn cefnogaeth lwyr. Mae penaethiaid wedi gweithio’n galed i roi mesurau ar waith i ddiogelu pawb yn eu gofal a dyma’r enghraifft ddiweddaraf o ddilyn argymhellion Llywodraeth Cymru yn ddi-oed. Gofynnwn i rieni gefnogi ysgol eu plentyn drwy sicrhau bod eu plentyn yn ymwybodol o’r angen i wisgo gorchudd wyneb er mwyn diogelu eu hunain, y bobl o’u hamgylch, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach er mwyn diogelu Wrecsam.”
Pethau y gall rhieni a gofalwyr eu gwneud i helpu
- Dilyn unrhyw gyngor y mae eich ysgol yn ei roi i chi
- Bod yn amyneddgar – nid ydym erioed wedi bod mewn sefyllfa fel hyn o’r blaen, ac efallai bydd arnom angen addasu ychydig fel yr ydym yn mynd yn ein blaenau
- Atgoffa eich plentyn i orchuddio eu ceg wrth disian – yn yr ysgol neu/ac wrth deithio i’r ysgol (er enghraifft ar y bws). Ei ddal, ei daflu, ei ddifa
- Atgoffa eich plentyn i olchi eu dwylo’n rheolaidd – gan gynnwys cyn ac ar ôl defnyddio cludiant cyhoeddus neu gludiant o’r ysgol, a phryd bynnag y mae staff yr ysgol yn gofyn iddynt wneud.
- Os ydych yn gollwng a chasglu eich plant, peidiwch ag ymgasglu wrth giatiau’r ysgol. Cadwch o leiaf 2 fedr i ffwrdd o rieni eraill (tu allan eich aelwyd estynedig), cadwch at gyfarwyddiadau gan eich ysgol, a pheidiwch ag aros o gwmpas yn hirach na sydd ei angen
- Peidiwch ag anfon eich plentyn i’r ysgol os ydynt neu unrhyw un yn eu haelwyd estynedig gyda symptomau
- Peidiwch ag anfon eich plentyn i’r ysgol os ydynt hwy neu rywun yn eu haelwyd estynedig – wedi cael eu cynghori i gael prawf Covid-19 (er enghraifft, gan y tîm olrhain)
- Sicrhewch fod gan eich plant gorchudd wyneb i’w defnyddio yn y mannau cymunol tra yn yr ysgol
- Ewch i weld trefniadau cludiant i’r ysgol yma
- Gwiriwch y newyddion diweddaraf ar brydau ysgol yma
Cadw ein hysgolion yn ddiogel
Ychwanegodd y Cynghorydd Wynn “Fel Cyngor, rydym yn datgloi gwasanaethau a chyfleusterau yn araf ac yn ddiogel yn unol â’r canllaw diweddaraf a thystiolaeth wyddonol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu.
“Mae hyn yn cynnwys ein hysgolion, a diogelwch ein plant, staff a chymunedau sydd yn flaenoriaethau i ni.
“Ond rydym yn gofyn i chi fel rhieni a gofalwyr i’n helpu ni… gan wneud yn siŵr bod eich plant yn deall rhai o’r canllawiau sylfaenol, ac yn dilyn unrhyw gyngor y mae eich ysgol yn ei ddarparu.
“Rydym yn gobeithio y bydd dychwelyd i’r ysgol yn brofiad da i bawb, a bod plant yn benodol yn mwynhau ailgysylltu â’i ffrindiau ac athrawon gan ddysgu mewn ystafell ddosbarth cefnogol.
“Gadewch i ni weithio gyda’n gilydd i wneud y tymor newydd yn llwyddiant, a chadw Wrecsam – a’n hysgolion, yn ddiogel”
YMGEISIWCH RŴAN