Erthyl Gwaadd: Mae CThEF yn annog cwsmeriaid Hunanasesiad i fod yn wyliadwrus rhag twyllwyr a sgamiau sy’n gofyn am fanylion personol neu fanylion banc.
Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn rhybuddio cwsmeriaid Hunanasesiad i fod yn wyliadwrus rhag twyllwyr, wrth iddynt ddechrau meddwl am eu Ffurflenni Treth blynyddol ar gyfer y flwyddyn dreth 2021 i 2022.
Yn ystod y 12 mis hyd at fis Awst 2022, gwnaeth CThEF ymateb i dros 180,000 o atgyfeiriadau gan y cyhoedd a oedd yn ymwneud â chysylltiadau amheus. Roedd 81,000 o’r cysylltiadau hyn yn sgamiau a oedd yn cynnig ad-daliadau treth ffug.
Mae troseddwyr, sy’n honni eu bod yn gweithio i CThEF, wedi targedu unigolion drwy e-byst, negeseuon testun a galwadau ffôn. Mae’r rheswm dros y cysylltiadau hyn yn amrywio o gynnig ad-daliadau treth ffug i fygwth arestio pobl am osgoi treth. Dylech fod yn hynod wyliadwrus rhag cysylltiadau o’r fath – ni fyddai CThEF yn eich ffonio a bygwth eich arestio ar unrhyw adeg.
Os bydd rhywun, sy’n honni ei fod yn gweithio i CThEF, yn cysylltu â chi mewn ffordd amheus, dylech bwyllo a phori drwy’r cyngor ar sgamiau sydd ar gael ar GOV.UK.
Gall cwsmeriaid roi gwybod i CThEF am unrhyw weithgareddau amheus. Gallant anfon negeseuon testun amheus sy’n honni eu bod yn dod oddi wrth CThEF i 60599, ac e-byst i gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk neu phishing@hmrc.gov.uk. Gellir rhoi gwybod i CThEF am unrhyw alwadau ffôn twyllodrus wrth ddefnyddio’r ffurflen ar-lein ar GOV.UK.
Meddai Myrtle Lloyd, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEF ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid. “Peidiwch â gadael i unrhyw un eich rhuthro ar unrhyw adeg. Os bydd rhywun yn cysylltu â chi, gan honni ei fod yn gweithio i CThEF a’i fod am i chi drosglwyddo arian ar frys neu roi gwybodaeth bersonol, byddwch yn wyliadwrus.
“Ni fydd CThEF yn eich ffonio a bygwth eich arestio ar unrhyw adeg. Dim ond troseddwyr sy’n gwneud hynny.
“Mae sgamiau treth yn gallu amrywio. Mae rhai yn bygwth eich arestio ar unwaith am osgoi treth, tra bod rhai eraill yn cynnig ad-daliad treth. Dylech fod yn hynod wyliadwrus rhag cysylltiadau o’r fath, felly cymerwch bwyll a gwirio cyngor CThEF ar ‘gwe-rwydo a sgamiau’ ar GOV.UK.”
Mae twyllwyr yn targedu cwsmeriaid pan fyddant yn gwybod eu bod yn fwy tebygol o gael clywed gan CThEF. Dyna pam y dylai cwsmeriaid Hunanasesiad fod yn hynod wyliadwrus rhag y gweithgareddau hyn. Mae yna risg y gallent gael eu twyllo gan negeseuon testun, e-byst neu alwadau ffôn twyllodrus, sydd naill ai’n cynnig ‘ad-daliad’ neu’n mynnu eu bod yn talu dyled treth. Gallai hyn fod oherwydd bod y cwsmeriaid dan yr argraff mai cysylltiadau dilys oddi wrth CThEF yw’r rhain, sy’n cyfeirio at eu Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Gallai rhai cwsmeriaid, sydd heb lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad o’r blaen, gael eu twyllo a chlicio ar gysylltiadau mewn negeseuon e-byst neu negeseuon testun twyllodrus. Wrth wneud hynny, gallent ddatgelu manylion personol neu ariannol i’r troseddwyr.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflenni Treth ar bapur ar gyfer y flwyddyn dreth 2021 i 2022 yw 31 Hydref 2022, a 31 Ionawr 2023 ar gyfer y rheiny sy’n llenwi eu Ffurflenni Treth ar-lein. Ni ddylai cwsmeriaid sy’n cyflwyno’u Ffurflenni Treth ar-lein drwy GOV.UK rannu eu manylion mewngofnodi ar gyfer CThEF. Gallai rhywun sy’n defnyddio’r manylion hyn ddwyn oddi ar y cwsmer neu wneud hawliad twyllodrus yn ei enw.
Mae CThEF yn mynd i’r afael â’r sgamiau a’r twyllwyr sy’n dynwared negeseuon a gweithgareddau CThEF mewn ymgais i ymddangos yn ddilys. Mae tîm penodedig yr adran, sef y Tîm Diogelu Cwsmeriaid, yn gweithio’n ddi-dor i ddod o hyd i sgamiau a’u dileu.
Mae CThEF hefyd yn mynd i’r afael â gwefannau camarweiniol sydd wedi’u cynllunio i godi tâl ar bobl am ddefnyddio gwasanaethau a ddylai fod ar gael yn rhad ac am ddim neu am gost isel. Er enghraifft, drwy godi tâl am gysylltu cwsmeriaid â llinellau cymorth CThEF sydd ar gael yn rhad ac am ddim. Er mwyn diogelu’r cyhoedd, mae CThEF yn mynd ati i herio gwefannau twyllodrus sy’n defnyddio enw neu logo CThEF a chymryd perchnogaeth ohonynt. Ers 2017, mae’r adran wedi adennill meddiant o dros 183 o wefannau a oedd yn cynnig gwasanaethau gwerth isel, megis codi tâl ar gwsmeriaid am gysylltu galwadau ffôn. Mae gwneud hyn wedi arbed miliynau o bunnoedd i bwrs y wlad.
Ydych chi wedi derbyn llythyr/ffurflen ynglŷn â’r gofrestr etholiadol?
PARATOWCH I BLEIDLEISIO