Os hoffech chi yrfa ym maes gofal cymdeithasol ac os ydych chi dros 18 oed, dyma’r digwyddiad i chi.
Mae gennym ni brentisiaethau ar gael ar hyn o bryd mewn gofal cymdeithasol ac mae ’na gyfle i gael gwybod mwy mewn prynhawn agored a fydd yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt. Fe fyddwch chi’n gallu siarad gyda’r rhai sy’n elwa o’r gwasanaeth, rheolwyr gwasanaeth a gweithwyr cefnogi ynglŷn â gweithio yn y sector gofal cymdeithasol.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Mi fydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Iau, 27 Gorffennaf rhwng 12.30pm a 4.00pm.
Rydyn ni’n chwilio am bobl sy’n ofalgar ac yn amyneddgar ac sy’n hoffi i bob diwrnod fod yn wahanol ac yn her. Fe fyddwch chi hefyd yn cael eich talu wrth ddysgu sgiliau.
“cyfle gwych”
Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion:
“Mae gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn gallu rhoi boddhad mawr ac mae hwn yn gyfle gwych i weithio yn y sector a hefyd i gael profiad a chymwysterau gwerthfawr i barhau yn y proffesiwn.”
Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal gan Adran Datblygu Gweithlu’r Cyngor, sy’n gweithio mewn partneriaeth ag ITEC Wrecsam, a fydd yn cynnig llawer o hyfforddiant a phrofiad perthnasol er mwyn i chi allu cael cymwysterau llawn a chael mwy o waith yn y sector gofal.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI