Mae Cyngor Wrecsam wedi caffael dau eiddo o fewn datblygiad newydd cyffrous yn Acre-fair, gyda chefnogaeth cyllid gan Raglen Gyfalaf Llety Trosiannol (RhGLlT/TACP) Llywodraeth Cymru.
Mae’r Cyngor wedi gweithio ar y cyd â Gower Homes, datblygwr lleol profiadol iawn sy’n gyfrifol am adeiladu dros 950 o gartrefi yn Wrecsam a’r cyffiniau.
Wedi’u lleoli ar Ffordd Treftadaeth yn Acre-fair, mae’r cartrefi tair ystafell wely hyn yn cynnwys ceginau gosod ac ystafelloedd ymolchi o ansawdd uchel, ynghyd â gerddi blaen wedi’u tirlunio sy’n cynnwys lawnt a phlanhigion.



Mae Gower Homes wedi cydnabod agosrwydd y cartrefi i briffordd ac wedi rhoi mesurau gwrthsain effeithiol ar waith i leihau lefelau sŵn. Mae’r rhain yn cynnwys ffenestri gwydr dwbl gyda system awyru wedi’i inswleiddio i flaen yr eiddo sy’n sicrhau amgylchedd byw tawelach. Mae’r nodweddion hyn yn hanfodol ar gyfer gwella cysur preswylwyr.
Mae’r Safle Tir Llwyd hwn wedi bod yn dadfeilio ers dros 10 mlynedd, gan gyflwyno cyfle gwerthfawr i ddatblygu tai gan adfywio’r ardal tra’n cwrdd â’r galw cynyddol am gartrefi.
Mae’r Cyngor wedi parhau i fuddsoddi mewn pentrefi llai a lleoliadau gwledig yn hytrach na chanolbwyntio ar ganol y ddinas yn unig.
Mae’r eiddo hyn yn cefnogi strategaeth ‘bot pupur’, sy’n hwyluso integreiddio cymunedol ac yn meithrin cymuned fwy amrywiol.
Gan fod y cartrefi hyn wedi cael eu prynu “oddi ar y silff” maent yn barod i’w dyrannu ar unwaith trwy broses ddyrannu safonol a system fandio’r Cyngor.
Mae’r eiddo hefyd yn cynnwys technoleg eithriadol i arbed carbon, gan gynnwys pympiau gwres ffynhonnell aer o’r radd flaenaf. Mae hyn yn cyd-fynd ag ymroddiad y Cyngor i wella effeithlonrwydd ynni a lleihau eu hôl troed carbon, tra’n darparu arbedion cost posibl i ddeiliaid contractau.
Mae pympiau gwres ffynhonnell aer yn creu cartrefi sy’n addas i’r dyfodol gan eu bod yn cynnig dewis arall ynni-effeithlon i wresogi ac oeri’r eiddo, trwy drosglwyddo gwres rhwng yr aer tu allan a’r aer tu mewn. Gall hyn ostwng costau rhedeg o’i gymharu â systemau confensiynol.
Mae Gower Homes yn ymfalchïo yn ei gartrefi allyriadau carbon isel. Mae’r cwmni’n nodi bod y lefelau uchel o inswleiddio ynghyd â phympiau gwres ffynhonnell aer sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd yn lleihau allyriadau carbon 89%, sy’n drawiadol o’i gymharu â’r cartref cyffredin yn y DU.
Dwedodd Michael Forgrave, Rheolwr Gyfarwyddwr Gower Homes “Rydym yn falch iawn bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi dewis prynu dau arall o’n tai. Rydym wedi mwynhau perthynas hirsefydlog iawn gyda’r cyngor dros 40 mlynedd”
Dyma’r ail bryniant o’i fath gan Gyngor Wrecsam ac mae’n gyfle cyffrous i ehangu Rhaglen Adeiladu a Phrynu’r Cyngor. Mae’r fenter hon hefyd yn cynnwys prynu hen eiddo cyngor, archwilio cyfleoedd newydd ar gyfer tai Cyngor, a gweithio gyda datblygwyr yn Wrecsam i ddiwallu anghenion tai Cyngor.
Dwedodd y Cynghorydd Paul Blackwell dros ogledd Acre-fair, “Rwy’n croesawu bod y Cyngor wedi prynu dau dŷ ar gyfer rhent fforddiadwy ar yr ystâd dai newydd hon yn Acre-fair gan Gower Homes. Tai fforddiadwy o ansawdd uchel i bobl leol yw’r hyn sydd ei angen arnom, ac mae’r pryniant hwn yn mynd ychydig o’r ffordd i ddiwallu’r angen hwnnw”
Ychwanegodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Tai a Newid Hinsawdd, “Mae hwn yn ddatblygiad tai cyffrous, sy’n dangos ymrwymiad cryf i effeithlonrwydd ynni. Mae’n wych cael perthynas waith gyda Gower Homes, ac rydym yn falch o gael y ddau eiddo hyn ar gael ar gyfer deiliaid contract newydd.”