Mae pethau’n dychwelyd i’w trefn arferol yn dilyn toriad y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, ac rydym ar fin darlledu cyfarfod Bwrdd Gweithredol cyntaf y flwyddyn.
Yn gyntaf ar y rhaglen ceir cyllideb y flwyddyn nesaf yn dilyn setliad terfynol Llywodraeth Cymru, a gofynnir i aelodau argymell y gwariant net o £236,853k i’r Cyngor, a fydd yn golygu cynnydd mewn treth cyngor Band D o 5.5% – £1,153.13.
Mae’r argymhellion cyllideb yn dilyn ymgynghori cyhoeddus, lle y cynigid codi tâl am gludiant i’r ysgol ar gyfer ysgolion ffydd, a ffi o £30 ar gyfer pob casgliad biniau gwyrdd. Nid oes yr un o’r cynigion hyn wedi eu cynnwys yn y gyllideb ac ni fyddant yn mynd yn eu blaenau yn 2019/20.
Yn dilyn y drafodaeth ar y gyllideb, gofynnir i aelodau gytuno ar gynigion ynghylch dyfodol safle Erlas ar Lôn Bryn Estyn, a derbyn adborth ar y cynigion i gynyddu nifer y disgyblion yn Ysgol Bro Alun yng Ngwersyllt.
Bwriedir trafod pêl-droed yn y fwrdeistref sirol yn ogystal, wrth i aelodau dderbyn diweddariad ar ddatblygiad strategaeth bêl-droed sy’n cael ei weithio arno mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a’r camau nesaf ar gyfer cyflwyno cyfres o brosiectau peilot.
Gallwch wylio’r cyfarfod yn fyw o 10yb yfory trwy ddilyn y ddolen hon https://wrexham.public-i.tv/core/portal/home. Yn y cyfamser, os hoffech fwrw golwg dros yr adroddiadau i weld yr hyn sy’n cael ei gynnig, gallwch eu darllen yma.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR