Yn dilyn cyhoeddi Cynllun Benthyciad Busnes Covid-19 Cymru (gwerth £100 miliwn), mae’r cynllun bellach ar agor ac yn derbyn ceisiadau. Mae’r prif nodweddion a’r meini prawf cymhwyso hefyd ar gael.
Mae’r benthyciad ar gael am gyfnod cyfyngedig gan Fanc Datblygu Cymru er mwyn cefnogi busnesau sy’n profi problemau llif arian o ganlyniad i’r pandemig.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Mae’r benthyciad ar gael i bob menter fach a chanolig yng Nghymru sydd wedi bod yn masnachu ers dwy flynedd neu fwy, gan gynnwys unig fasnachwyr a phartneriaethau.
Prif Nodweddion
- Benthyciadau rhwng £5,000 a £250,000 ar gael (lefelau uchafswm benthyciad yn berthnasol)
- Gwyliau ad-daliadau cyfalaf a llog o 12 mis
- Dim ffioedd trefnu na monitro
- Cyfradd llog sefydlog o 2% am 6 blynedd (yn cynnwys y gwyliau 12 mis)
- Benthyciad wedi’i warantu’n rhannol yn dibynnu ar swm y benthyciad, gwelwch y manylion isod
Am ragor o wybodaeth ac i ymgeisio
Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn anfonwch neges i info@developmentbank.wales.
Bydd y cynllun benthyciad hwn yn gweithio ochr yn ochr â’r Cynllun Benthyciad Amhariad Busnes Coronafeirws sydd ar gael ar draws y DU a chynigion cymorth eraill Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, gan ddarparu mwy o ddewisiadau hanfodol i fusnesau Cymru.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19