Ydych chi’n ofalwr di-dâl? Gweithio mewn proffesiwn gofalu? Ydych chi eisiau gwybod mwy neu dim ond dangos eich cefnogaeth?
Y Diwrnod Hawliau Gofalwyr hwn, ymunwch â ni i ddathlu arwyr di-glod ein cymuned.
Ddydd Gwener 21 Tachwedd, bydd Tŷ Pawb yn cynnal cynhadledd Diwrnod Hawliau Gofalwyr pwerus ac ysbrydoledig, gan ddod â gweithwyr proffesiynol, gofalwyr di-dâl a lleisiau cymunedol ynghyd o dan y thema: Cydnabod, Cefnogi a Grymuso Gofalwyr.
Bydd y digwyddiad, a gynhelir rhwng 10am a 12.30pm, yn tynnu sylw at gyfraniadau hanfodol gofalwyr di-dâl ac yn darparu arweiniad ymarferol ar gael mynediad at gymorth a gwybod eu hawliau.
Bydd y gynhadledd yn rhoi cyfle i chi glywed gan bobl sy’n gallu rhannu gwybodaeth am gymorth ariannol ac am helpu i ymdopi â salwch fel dementia. Byddwch hefyd yn gallu cwrdd â gofalwyr ifanc a chlywed straeon pobl eraill. Dyma restr lawn o’r hyn y byddwch yn clywed amdano ar y diwrnod:
Gair o groeso
Bydd Alison Reeve, Uwch Bennaeth Gwasanaeth / Prif Swyddog Dros Dro (Oedolion), Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Wrecsam, yn agor y digwyddiad gyda theyrnged i ymroddiad a gwytnwch gofalwyr ledled y rhanbarth.
Deall budd-daliadau gofalwyr
Bydd tîm hawliau lles Cyngor Wrecsam yn egluro budd-daliadau allweddol gan gynnwys Lwfans Gofalwr, Credyd Pensiwn, Credyd Cynhwysol, a gostyngiadau’r Dreth Gyngor – gan sicrhau bod gofalwyr yn gwybod sut i wneud y mwyaf o’u hawliadau.
Profiad bywyd: gofalwyr ifanc a rhieni sy’n ofalwyr
Bydd Lisa a Maisie o Ofalwyr Ifanc WCD yn rhannu eu teithiau personol, gan dynnu sylw at hawliau gofalwyr ifanc ac eirioli dros fwy o gydnabyddiaeth mewn ysgolion a lleoliadau gofal iechyd.
Lleisiau gofalwyr di-dâl
Bydd y grŵp atgofion yn cyflwyno casgliad teimladwy o straeon gan ofalwyr di-dâl – partneriaid, brodyr a chwiorydd, a ffrindiau – sy’n archwilio effaith emosiynol a chorfforol gofalu, a’r ffyrdd creadigol y mae gofalwyr yn adeiladu gwytnwch.
Gwneud i’r niferoedd gyfrif
Bydd Sarah Bartlett (Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol) a Janine Edwards (Prosiect Asesiad Anghenion y Boblogaeth) yn dadansoddi’r data diweddaraf am ofalwyr yng ngogledd Cymru, gan ddatgelu tueddiadau a gwahodd mynychwyr i gyfrannu eu profiadau bywyd at asesiadau yn y dyfodol.
Asesiadau anghenion gofalwyr a hawliau gofalwyr
Bydd NEWCIS yn darparu trosolwg hanfodol o asesiadau gofalwyr a hawliau cyfreithiol gofalwyr di-dâl.
Cefnogi dementia a cholli cof
Bydd tîm Llwybr Cymorth Cof Gogledd Cymru yn rhoi trosolwg o’r gwasanaethau sydd ar gael i bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr, gan gynnwys eiriolaeth, cymorth budd-daliadau, a chymorth wrth ddefnyddio ysbyty.
Sylwadau i gloi
Bydd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion, yn dirwyn y digwyddiad i ben gyda myfyrdodau ar bwysigrwydd cefnogaeth a chydnabyddiaeth barhaus i ofalwyr.
Dywedodd Rob Walsh, Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol i Blant, “Yn aml, mae gan ofalwyr ifanc lawer mwy o gyfrifoldebau na’u cyfoedion. O ganlyniad, maen nhw’n haeddu ein cefnogaeth a’n parch. Ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr, byddwn yn pwysleisio ein hymrwymiad i gydnabod eu hanghenion unigryw, cefnogi eu lles, a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed yn glir ar draws ein cymunedau.”
Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, yr Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion, “Gofalwyr di-dâl yw asgwrn cefn ein system iechyd a gofal cymdeithasol. Mae eu hymroddiad yn aml heb ei weld, ond mae eu heffaith yn ddwys. Ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr, rydym yn sefyll gyda nhw, ac wedi ymrwymo i gydnabod eu cyfraniadau, cefnogi eu lles, a’u grymuso gyda’r hawliau a’r adnoddau maen nhw’n eu haeddu.”
Mae eich tocyn am ddim ar gael nawr ar Eventbrite.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.


