Mae töwr twyllodrus wedi cael dedfryd o ddwy flynedd a hanner o garchar am dwyllo perchennog cartref diamddiffyn yn Wrecsam.
Plediodd John Price, sy’n byw mewn maes carafanau ger Croesoswallt, yn euog i bob cyhuddiad o dwyll pan aeth o flaen y llys ar 25 Hydref.
Roedd Mr Price wedi perswadio’r unigolyn bod angen gwneud gwaith helaeth ar do ei gartref a chodwyd cyfanswm o £32,500 arno. Bu swyddogion Safonau Masnach Cyngor Wrecsam yn ymchwilio a datgelwyd nad oedd llawer yn bod ar y to a bod y gwaith a wnaed gan Mr Price o safon isel a bod y pris yn rhy uchel o lawer.
Cymerodd Mr Price daliadau arian parod gan y dioddefwr ar bedwar achlysur gwahanol, gan yrru’r unigolyn i’r banc i godi’r arian parod bob tro. Ar y pumed tro, cododd amheuon staff y banc a chysylltwyd â’r Heddlu.
Wrth ddedfrydu Mr Price, dywedodd y Barnwr, Nicholas Parry, fod Mr Price yn anonest dros ben ac mae’n rhaid ei fod wedi dychryn y dioddefwr er mwyn gwneud iddo fynd i’r banc a thalu’r holl arian iddo. Disgrifiodd y gwaith fel diwerth; twyll oedd y cyfan. Dywedodd fod gweithwyr yr awdurdod lleol wedi gwneud oriau o waith diwyd, ar gost i’r cyhoedd, ac nad oedd unrhyw obaith o gael unrhyw ran o’r costau yn ôl.
Cafodd gwraig Mr Price, Jamie Nadine Price, ei dedfrydu hefyd am drin yr arian a gafodd ei gŵr. Rhoddwyd dedfryd o 12 mis iddi, wedi’i gohirio am 18 mis. Gorchmynnodd y barnwr iddi gwblhau 120 awr o waith di-dâl hefyd a dychwelyd i’r llys yn rheolaidd i roi diweddariad am ei gwaith di-dâl. Eglurodd y Barnwr Parry y byddai’n mynd i’r carchar pe na bai hi’n cwblhau’r gwaith.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, “Mae’r droseddoldeb a’r creulondeb a ddatgelwyd gan yr achos hwn yn aruthrol a dim ond o ganlyniad i’r ymchwiliad trylwyr gan Wasanaeth Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor y cafwyd cyfiawnder. Rwy’n wirioneddol obeithio y bydd hyn yn rhybudd i bobl sy’n ceisio camfanteisio ar bobl ddiamddiffyn yn ein cymunedau. Ni fyddwn yn oedi wrth i ni ymchwilio i achosion o’r fath a dod â throseddwyr o flaen eu gwell am droseddau o’r fath.”
Dywedodd Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu, “Roedd hwn yn achos a oedd yn peri pryder mawr, wrth i breswylydd diamddiffyn gael ei orfodi i dalu swm enfawr o arian am waith diwerth a diangen ar ei gartref, ond mae’n rhoi boddhad gweld cyfiawnder a bod y llys yn cymryd y mater o ddifri. Yr hyn sy’n peri pryder yn yr achos hwn yw bod Price wedi mynd â’r unigolyn i’r banc i godi arian parod ar bum achlysur gwahanol ond dim ond ar y pumed tro y dechreuodd y banc amau bod rhywbeth o’i le, ond erbyn hynny, roedd £32,500 wedi cael ei dalu. Pe bai’r symiau anarferol o uchel wedi’u canfod yn gynharach, gallai’r golled fod wedi bod yn is o lawer. Mae’r bobl sy’n cyflawni’r math hwn o drosedd yn gweithredu’n amlwg yng nghanol ein cymunedau a byddwn i’n annog pawb i gadw golwg ar ran eu ffrindiau, teuluoedd a chymdogion, yn enwedig rhai sy’n fwy diamddiffyn.”
Os byddwch chi’n gweld neu’n clywed unrhyw beth amheus, cysylltwch â’r Heddlu ar 101 neu ffoniwch Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133, neu’r llinell Gymraeg ar 0808 223 1144.
Os oes angen cyngor neu gymorth arnoch am waith sy’n cael ei wneud, ffoniwch Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133 neu’r llinell Gymraeg ar 0808 223 1144.