Busnes lleol? Nid ydych eisiau colli allan ar y digwyddiadau gwych hyn…
Ydych chi’n rhan o fusnes sy’n dymuno cynnig tendr am swyddi gyda chynghorau lleol?
Mae Busnes Cymru eisiau helpu.
Cynhelir dau weithdy yn Wrecsam i helpu busnesau sy’n newydd i’r broses tendro, neu sy’n dymuno gwella eu sgiliau ysgrifennu cynnig.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Economi – Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Mae’r digwyddiadau hyn yn gyfle gwych i fusnesau yn Wrecsam i ddod i wybod rhagor am y broses tendro a gwella eu sgiliau ysgrifennu tendr. Bydd o help i fusnesau i ddeall beth mae prynwyr yn edrych amdano, ac i nodi ffynonellau o gymorth. Byddwn yn annog pob busnes sy’n edrych am wybodaeth a chefnogaeth ynghylch y broses tendro i gofrestru a mynd i ddigwyddiadau gwych Busnes Cymru.”
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Bydd y ddau weithdy yn cael eu cynnal yn Nhwr Rhydfudr ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam…
Cyflwyniad i’r Gweithdy Tendro
Gweithdy rhyngweithiol wedi’i ddylunio i ddarparu gwybodaeth i fusnesau sy’n newydd i’r broses tendro. Nod yw gweithdy yw:
- Annog tendro sector cyhoeddus
- Helpu cyflenwyr i ddod o hyd i gyfleoedd ac ymateb iddynt
- Gwneud y mwyaf o gwerthwchigymru, gan hyrwyddo eu busnesau Sector Cyhoeddus a phrynwyr Haen 1
- Nodi gofynion tendro a’r gweithdrefnau sydd angen iddynt eu rhoi ar waith i allu ymateb yn effeithiol i dendr.
- Deall beth mae prynwyr yn edrych amdano
- Nodi ffynonellau o gefnogaeth
Mae mynychwyr yn cael eu cynghori i ddod â thabled neu liniadur i’r gweithdy
19 Medi 9.30am – 4.30pm, yn Nhwr Rhydfudr Wrecsam
I gofrestru ewch i wefan Busnes Cymru, neu cysylltwch ar 01745 585025 / e-bost northwales@businesswales.org.uk am ragor o wybodaeth.
Ysgrifennu Cynnig Uwch – canllaw i ennill tendrau o safon uchel
Ymunwch â Jamie Edwards o ‘Tender Write’ am sesiwn hyfforddiant llawn ffeithiau ar sut i symud eich sgiliau ysgrifennu cynnig i’r lefel nesaf. Ydych chi’n tendro i’r cyhoedd neu i’r sector preifat? Os felly, dyma’r cwrs i chi!
Bydd y cwrs newydd hwn, wedi’i noddi gan Fusnes Cymru, yn rhoi cipolwg ffres a chanllaw ymarferol ar sut i:
- Sicrhau bod eich cwmni yn barod i gynnig pan mae’r cyfleoedd yn ymddangos
- Sut i fod yn ‘Rheolwr Cynigion’ gwell o fewn eich busnes
- Deall sut i greu ymatebion gyda chynnwys yn eich cynnig i ennill tendrau
- Rheoli’r broses adborth i strwythuro cynigion gwell
- Ymarferion ymarferol ar y thema gweithdy ar werthuso a datblygu cynigion buddugol
4 Hydref 9am – 4pm, yn Nhwr Rhydfudr, Wrecsam
I gofrestru ewch i Wefan Busnes Cymru, neu cysylltwch ar 01745 585025 / e-bost orthwales@businesswales.org.uk; am ragor o wybodaeth.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION