Erthygl wadd – Living Streets
Nododd Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair yn Wrecsam a’r elusen Living Streets Cymru Fis Rhyngwladol Cerdded i’r Ysgol mewn digwyddiad i ddathlu ddydd Iau, 26 Hydref.
Fel rhan o brosiect dwy flynedd, mae Living Streets Cymru’n gweithio gyda 170 o ysgolion cynradd a 42 o ysgolion uwchradd i ddarparu ei raglen cerdded i’r ysgol yng Nghymru.
Mae Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair yn un o wyth o ysgolion yn Wrecsam sy’n dechrau her cerdded i’r ysgol Living Streets – WOW yn y flwyddyn academaidd hon.
Fel rhan o’r her WOW, mae disgyblion yn cofnodi sut maent yn mynd i’r ysgol gan ddefnyddio Traciwr Teithio rhyngweithiol WOW a bydd y rhai sy’n cerdded, seiclo, mynd ar olwynion, sgwter neu’n ‘parcio a cherdded’ i’r ysgol yn derbyn bathodyn WOW misol.
Dim ond 50% o blant ysgol gynradd yng Nghymru sy’n cerdded i’r ysgol ac mae Living Streets yn gweithio i helpu rhagor o deuluoedd i ddewis ffyrdd glanach ac iachach o deithio. Mae ysgolion WOW fel arfer yn gweld cynnydd yn y cyfraddau cerdded o 23%, gyda gostyngiad o 30% yn y ceir sy’n gyrru i giatiau’r ysgol.
Dywedodd Stephen Edwards, Prif Weithredwr Living Streets, “Mae cerdded neu fynd ar olwynion i’r ysgol yn ffordd hawdd i blant a theuluoedd gadw’n heini, yn iach ac yn hapus. Mae’n helpu i gyfrannu at y 60 munud o ymarfer corff a argymhellir gan arbenigwyr iechyd, gan leihau traffig, allyriadau carbon a llygredd yn yr aer.
“Mae’n braf gweld mwy o ddisgyblion yn Wrecsam ac ar draws Cymru’n mwynhau’r buddion o gerdded i’r ysgol gyda WOW.”
Meddai Gwen Thomas, Rheolwr Cludiant Strategol Cyngor Wrecsam “Cefais fore hyfryd yn cwrdd â disgyblion ac athrawon yn Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair a dysgu am sut maent yn mwynhau cerdded i’r ysgol.
“Mae’n wych gweld sut mae’r ysgol yn gweithio gyda Living Streets Cymru i wneud cerdded i’r ysgol yn opsiwn hygyrch i ddisgyblion a’u teuluoedd. Rwy’n siŵr y bydd hyn yn annog rhagor o blant i wneud y mwyaf o’r buddion iechyd ac amgylcheddol sydd ynghlwm ag ymarfer corff rheolaidd.” Meddai Mrs Acton, Pennaeth Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair: “Yn Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair, rydym yn ystyried bod Mis Rhyngwladol Cerdded i’r Ysgol yn gyfle gwych i ddechrau ein siwrnai teithio llesol newydd gydag WOW. Rwy’n siŵr y bydd disgyblion yn mwynhau defnyddio Traciwr Teithio rhyngwladol WOW i gofnodi eu siwrneiau bob bore – a bydd yn annog rhagor o blant a’u teuluoedd i fwynhau cerdded, seiclo, mynd ar olwynion neu sgwter i’r ysgol ac edrychwn ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y bydd hyn yn ei chael ar eu lles a’n hamgylchedd.”
Gall ein dewisiadau bach helpu i wneud gwahaniaeth – Newyddion Cyngor Wrecsam
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.