Rhwng mis Tachwedd 2025 a mis Ionawr 2026, bydd gwefan adrodd a thaliadau Cyngor Wrecsam i breswylwyr – FyNghyfrif – yn cael diweddariad diogelwch.
Bydd hafan FyNghyfrif hefyd yn newid sy’n golygu, pan fyddwch wedi mewngofnodi, byddwch yn gallu gweld pryd fydd eich biniau’n cael eu casglu nesaf.
Fel rhan o’r diweddariad diogelwch, rydym yn gweithredu polisi cyfrineiriau newydd, gyda gofynion diogelwch cryfach fel yr argymhellir gan y Sefydliad Safonau a Thechnoleg Cenedlaethol (NIST) a’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC).
Er mwyn hwyluso’r newid hwn, fe fydd yn ofynnol i chi ddiweddaru eich cyfrinair, a phan gaiff hyn ei actifadu, bydd gofyn i chi newid eich cyfrinair ar gyfer FyNghyfrif. Efallai y bydd hyn yn anghyfleus, ond dim ond unwaith y bydd yn rhaid i chi ei wneud a bydd yn sicrhau gwelliant sylweddol o ran diogelwch.
Bydd angen i gyfrineiriau newydd gynnwys rhwng 8 a 128 nod.
Bydd angen iddo hefyd gynnwys o leiaf:
- 1 llythyren fach
- 1 llythyren fawr
- 1 digid (0-9), ac
- un neu fwy o’r symbolau canlynol: @ # $ % ^ & * – _ + = [ ] { } | \ : ‘ , ? / ` ~ ” ( ) ; .
Os yw eich cyfrinair presennol eisoes yn bodloni’r safonau hyn, gallwch ei ailddefnyddio pan ofynnir i chi newid eich cyfrinair.
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, aelod arweiniol dros lywodraethu a chwsmeriaid: “Rydym yn darllen yn rheolaidd am broblemau diogelwch ar-lein, felly rwy’n falch o weld y diweddariad hwn i feddalwedd talu ac adrodd y cyngor. Byddwn yn annog pob preswylydd sydd â chyfrif i fewngofnodi a newid eu cyfrinair i fodloni’r gofynion newydd – mae’r weithred untro, syml hon yn golygu y bydd eich gwybodaeth yn fwy diogel.”
Os oes unrhyw gwestiynau gennych, mae croeso i chi gysylltu â thîm cymorth FyNghyfrif.


