Rydym yn cefnogi ymgyrch “Peidiwch â Diffodd y ‘Dolig” er mwyn codi ymwybyddiaeth o beryglon prynu cynnyrch trydanol ffug ar-lein yn y cyfnod cyn y Nadolig.
Mae’r ymgyrch yn annog pobl i adnabod a dewis nwyddau trydanol dilys gan fanwerthwyr cyfreithiol mewn ymgais i leihau’r risg bod nwyddau peryglus a diffygiol yn difetha’r Nadolig ar gyfer teuluoedd.
Mae rhesymau da ar gyfer yr ymgyrch gan fod nwyddau trydanol ffug yn aml yn anniogel ac mae 98% yn methu profion diogelwch.
Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.
Mae data’r Swyddfa Gartref yn dangos fod 10 o dannau tai yn y DU bob dydd wedi’u hachosi gan offer a cheblau diffygiol.
Dywedodd Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu, “Peidiwch â phrynu nwyddau trydanol drwy hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol, neu gyflenwyr anhysbys ar-lein oherwydd bod y pris yn isel. Byddwch yn prynu cynnyrch o ansawdd isel nad ydynt yn para. Gallech fod yn peryglu bywydau.”
“Mae’n bwysig fod cwsmeriaid yn deall, er eu bod yn credu eu bod yn arbed arian, yn aml bydd angen iddynt brynu’r cynnyrch eto yn llawer cynt, felly mae’r dywediad ‘Prynu’n rhad, prynu ddwywaith’ yn wir mewn nifer o achosion.”
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ymgyrch.
Mae Peidiwch â Diffodd y ‘Dolig yn ymgyrch i gwsmeriaid wedi’i arwain gan y Swyddfa Eiddo Deallusol.
Cyfryngau Cymdeithasol
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI