Oes arnoch chi awydd glanhau eich ardal leol, ond nad oes gennych yr offer cywir? Ewch i un o Ganolbwyntiau Casglu Sbwriel Cadwch Gymru’n Daclus a benthyg yr offer AM DDIM!
Mae eich canolbwyntiau lleol yn cynnig yr holl offer sydd ei angen arnoch i lanhau’n ddiogel. Mae hyn yn cynnwys offer casglu sbwriel, festiau llachar, bagiau sbwriel a chylchynau (hanfodol i gadw eich bagiau ar agor mewn tywydd gwyntog!). Mae’r canolbwyntiau wedi’u sefydlu ar draws Cymru fel rhan o Caru Cymru – mudiad cynhwysol i ddileu sbwriel a gwastraff.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Dywedodd y Cyng David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Cadwch Gymru’n Daclus i gefnogi Caru Cymru.
“Y weledigaeth ar gyfer Caru Cymru yw y bydd yn cael ei blethu i fywyd yng Nghymru, fel bod gwneud y peth iawn yn dod yn ail natur i bobl, o fynd â sbwriel adref a glanhau ar ôl eu cŵn, i ailgylchu wrth fynd o le i le ac ailddefnyddio a thrwsio.”
Dewch o hyd i’ch canolbwynt casglu sbwriel lleol yn Wrecsam trwy fynd i wefan Cadwch Gymru’n Daclus.
Neu anfonwch e-bost at carucymru@wrexham.gov.uk
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL