Mae’r ymgynghoriad ar Gynllun y Cyngor nawr yn fyw a gwahoddir chi i roi eich barn ar ein chwech maes blaenoriaeth:
- Datblygu’r economi
- Sicrhau Cyngor modern a chryf
- Sicrhau bod pawb yn ddiogel
- Gwella addysg uwchradd
- Gwella’r Amgylchedd
- Hyrwyddo iechyd a lles da
Unwaith y bydd yr ymgynghoriad hwn wedi cau, bydd y canlyniadau yn cael eu dadansoddi a’r canfyddiadau yn cael eu defnyddio i gwblhau Cynllun y Cyngor 2020 – 2023 a gyflwynir i’r Cyngor ym mis Mai 2020 i’w gymeradwyo. Byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod yn rhoi adborth ar ganlyniadau’r ymgynghoriad i chi bryd hynny.
Bydd yr ymgynghoriad yn cau ddydd Mawrth, 17 Mawrth.
Cymerwch ran yn yr ymgynghoriad ar gyfer cynllun y cyngor yma.
Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf o ran graeanu yn syth i’ch mewnflwch
COFRESTRWCH FI RŴAN