Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Eich dyletswydd gofal chi
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Fideo > Eich dyletswydd gofal chi
FideoPobl a lleY cyngor

Eich dyletswydd gofal chi

Diweddarwyd diwethaf: Mai 20, 2019 1:17 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Eich dyletswydd gofal chi
RHANNU

Gallwch dderbyn dirwy o £300 – darllenwch ymlaen i wneud yn siŵr nad yw hyn yn digwydd i chi!

Os oes gennych chi unrhyw sbwriel domestig neu unrhyw eitemau nad oes arnoch eu heisiau ac yn awyddus i gael rhywun i ddod i’w casglu nhw, mae Taclo Tipio Cymru yn pwysleisio’r neges mai eich dyletswydd chi yw cael gwared ar eich gwastraff.

Os ydych chi’n gadael sbwriel mewn llefydd na ddylech chi – hynny ydi, unrhyw le oni bai am fin neu ganolfan ailgylchu – tipio anghyfreithlon yw hynny.  Gall amrywio o fod yn fag bin unigol i fod yn filoedd o dunelli o wastraff. Gall fod yn beryglus, mae’n llygru’r tir a’r dyfrffyrdd ac yn costio swm sylweddol o arian i awdurdodau lleol ei glirio.

ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH I FYWYD PLENTYN SYDD MEWN GOFAL?

Mae hefyd yn broblem os ydych chi’n talu rhywun arall i gymryd eich gwastraff a’u bod nhw yn eu cario i rywle amhriodol. Pan ddoir o hyd i’r gwastraff, chi fydd yn derbyn y ddirwy, a gallwch gael eich erlyn, gyda dirwyon o hyd at £5000.

Felly … sut allwch chi sicrhau bod eich gwastraff yn mynd i’r lle cywir?

Dyma ddau gam syml i sicrhau bod eich gwastraff yn cael ei waredu’n gywir:

  1. Gwiriwch fod yr unigolyn neu’r cwmni sy’n cymryd eich gwastraff wedi cofrestru â chludydd gwastraff. Gallwch wirio ar-lein drwy ymweld â naturalresources.wales/checkwaste?lang=cy
  2. Gofynnwch ble mae eich gwastraff yn mynd.

Mae Taclo Tipio Cymru hefyd argymell eich bod chi yn:

  • Cofnodi unrhyw wiriadau a wneir, gan gynnwys rhif cofrestru’r gweithredwr
  • Cadw derbynneb sy’n cynnwys disgrifiad o’r gwastraff a’r cwmni a ddefnyddiwyd
  • Cofnodi manylion y busnes neu’r cerbyd (rhif cofrestru, gwneuthuriad, model, lliw)

Am gyngor ar sut i gael gwared ar wastraff domestig ac eitemau nad oes arnoch eu heisiau yn ddiogel, yn gyfreithlon ac yn gyfrifol, ymwelwch â’r dudalen cyngor i ddeiliaid tai.

Ai Maethu yw’r dewis i chi?

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/life_events_w/caring/fostering/index.htm”] DYSGWCH FWY AM FABWYSIADU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Cynllun y Cyngor – sut rydym yn blaenoriaethu’n hadnoddau Cynllun y Cyngor – sut rydym yn blaenoriaethu’n hadnoddau
Erthygl nesaf Llwyddiant Ffair Recordiau yn Nhŷ Pawb Llwyddiant Ffair Recordiau yn Nhŷ Pawb

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Car park
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌

Awst 17, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Pobl a lle

Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod

Awst 17, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English