Os oes gennych brofiad mewn cynnig cefnogaeth weinyddol o ansawdd uchel, efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn edrych ar y swydd hon…
Rydym yn hysbysebu am Swyddog Pwyllgor ar hyn o bryd i weithio yn ein tîm Gwasanaethau Pwyllgorau prysur.
A beth yn union mae Swyddog y Pwyllgor yn ei wneud? Beth am ddechrau drwy edrych ar bwy y byddwch yn eu cefnogi?
Yn syml, pwyllgorau yw’r olwynion sy’n cadw llywodraeth leol i droi – drwy wneud penderfyniadau sy’n cael effaith ar wasanaethau a’n cwsmeriaid.
Yn ddiweddar, cyhoeddom ni flog yn trafod y gwahanol fathau o bwyllgorau. Cymerwch gip…maent yn trafod pethau eithaf pwysig!
A dyma le byddwch chi’n cael eich cynnwys…
Fel Swyddog y Pwyllgor byddwch yn chwarae rôl allweddol – drwy roi cefnogaeth hanfodol i’r cyngor, y Bwrdd Gweithredol a’r holl gyfarfodydd eraill sy’n ffurfio strwythur rheolaeth wleidyddol y Cyngor.
Oes gennych chi ddiddordeb?
I wneud y swydd yn dda, byddwch yn ticio’r holl focsys canlynol…
Byddwch yn gallu cyfathrebu’n wych ac yn gallu gweithio gyda Chynghorwyr a Swyddogion ar bob lefel.
Byddwch yn hynod drefnus ac yn gweithio’n dda dan bwysau.
Bydd angen i chi fod yn greadigol, yn arloesol ac yn meddu ar sgiliau TG da hefyd.
Yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad gweinyddol o weithio o fewn tîm gweinyddu pwyllgorau, ac mae cymhwyster perthnasol mewn maes gweinyddu yn hanfodol.
Os yw hyn yn apelio atoch chi, hoffwn glywed gennych.
I weld y disgrifiad swydd yn llawn ac i wneud cais, cliciwch ar y ddolen isod.
Dyddiad cau’r swydd yw dydd Gwener, 18 Ionawr.
GWYCH…DDANGOSWCH Y SWYDD I MI! NA…DWI’N IAWN DIOLCH