Erthygl Gwadd- Eisteddfod Genedlaethol
Briff Coron 2025
Y CYSYNIAD
Rydym yn gwahodd pobl i fynegi diddordeb mewn dylunio a chreu Coron Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Caiff ei chyflwyno i enillydd un o ddwy gystadleuaeth farddol fwyaf yr Eisteddfod, a gynhelir yn Wrecsam rhwng 2-9 Awst 2025. Elin Haf Davies sydd yn noddi Coron yr Eisteddfod yn 2025, ac felly Elin fydd yn cytundebu’r ymgeisydd llwyddiannus maes o law.
Y Goron yw un o brif anrhydeddau’r Eisteddfod, a dylai’r dyluniad a’r gwneuthuriad fod o’r safon uchaf. Mae’n symbol a ddefnyddir mewn seremoni gyhoeddus a gynhelir ar y llwyfan mawr ger bron miloedd o bobl ar ddydd Llun yr Eisteddfod, ac felly bydd angen i’r dyluniad terfynol a gyflwynir cael ei gymeradwyo gan Fwrdd yr Orsedd cyn dechrau ar y gwaith (Hydref 2024).
MEINI PRAWF DYLUNIO
Dathlu tirwedd, diwylliant a hanes yr ardal gan ystyried hefyd yr elfen amgylcheddol wrth greu o’r newydd.
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn nodi bod RHAID cynnwys y canlynol yn y dyluniad:
• /|\ Y Nod Cyfrin. Dylid ei osod mewn lle amlwg ac urddasol
• Enw swyddogol yr Eisteddfod sef:
Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025
Noder: Ni chaniateir unrhyw eiriau eraill
• Dylai’r Goron gael ei chwblhau erbyn Ebrill 11 2025
/|\ Y NOD CYFRIN
Mae’r Nod Cyfrin /|\ neu Nod y Pelydr Golau yn symbol a ddyfeisiwyd gan Iolo Morganwg i gynrychioli Cariad, Cyfiawnder a’r Gwir. Fodd bynnag, ni wnaeth Iolo ei hun fawr ddim defnydd o’r symbol, ac ni ddaeth yn fwyfwy poblogaidd tan ar ôl ei farwolaeth. Fe’i gwelwyd yn gyntaf ar y Sgrôl Gyhoeddi yng Nghaerdydd, 1833: erbyn 1850, gellid ei weld ar faneri’r gorseddau ac o tua 1860 ar dystysgrifau aelodau newydd. Erbyn diwedd y ganrif fe’i hystyrid yn symbol cymeradwy Gorsedd y Beirdd, ac ymddangosodd ar ei rhaglenni, ar y faner newydd ac weithiau hyd yn oed ar Gerrig yr Orsedd. Erbyn y 1950au, penderfynwyd bod yn rhaid cynnwys y symbol ar bob un o Gadeiriau a Choronau’r Eisteddfod. (www.eisteddfod.cymru)
CAMAU CYLLIDEBOL A PHROSIECT
Y gyllideb ar gyfer dylunio a chreu’r Goron yw hyd at £3,000, i’w dalu mewn tri rhandaliad o dderbyn cyllideb fanwl ac anfoneb:
• Cam 1 – Gweledigaeth a chynllun ddrafft a chymeradwyaeth gan yr Ysgol a Bwrdd yr Orsedd: Taliad o 33% ddiwedd Hydref 2024
• Cam 2 – Taliad o 33% ddiwedd Rhagfyr 2024
• Cam 3 – Cwblhau’r Goron: taliad olaf ar ôl ei chyflwyno’n orffenedig a’i chymeradwyo gan yr Eisteddfod ynghyd â lluniau swyddogol, 11 Ebrill 2025
AMSERLEN
• Rhaid cyflwyno’r cais cyn 17:00, 21 Hydref 2025
• Cynhelir cyfweliadau’r ymgeiswyr ar y rhestr fer ar ddydd Iau 24 neu ddydd Gwener 25 Hydref 2024
• Bydd angen i’r weledigaeth gychwynnol a chynllun ddrafft fod yn barod erbyn y cyfweliad
• Bydd y cynllun angen cael ei gymeradwyo gan Fwrdd yr Orsedd ddiwedd Hydref 2024
• Bydd angen i’r Goron gael ei chwblhau’n llawn erbyn 11 Ebrill 2025
Sylwer y bydd gofyn i’r gwneuthurwr gadw cofnod digidol o’r gwaith creu, er mwyn gallu hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth yn ddigidol drwy gydol y cyfnod llunio. Yr Eisteddfod yn ganolog, ac nid y gwneuthurwr, fydd yn cysylltu efo’r cyfryngau.
• Y dyddiad i’w chyflwyno i Bwyllgor Gwaith yr Eisteddfod a’r lansiad i’r wasg yw canol Mehefin 2025 (bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn bresennol)
• Dyddiad y Coroni yw dydd Llun 4 Awst 2025
• Gofynnir i’r gwneuthurwr ddarparu lluniau amrywiol safonol i’r Eisteddfod, unwaith i’r Goron gael ei chwblhau ar gyfer Rhaglen y Dydd a hyrwyddo cyffredinol
SUT I WNEUD CAIS
Danfonwch eich cais mewn e-bost at Elin Haf Davies: elin@elinhafdavies.co.uk erbyn 17:00, 21 Hydref 2024
Dylai gynnwys y canlynol:
- Enw llawn a manylion cyswllt
- Bywgraffiad, gan gynnwys enghreifftiau graffigol (e.e. brasluniau, ffotograffau) o waith blaenorol
- Cynnig gweledigaeth/ cysyniad mewn llai na 500 gair, a chynllun/dyluniadau. Rhaid cynnwys delweddau yn y rownd gyntaf gan egluro’r cynllun ddrafft, y defnydd o’r deunyddiau (y feddylfryd amgylcheddol), ysbrydoliaeth ac yn y blaen.
- Dadansoddiad o’r gyllideb amcangyfrifiedig o flaen llaw
- Manylion cyswllt dau gleient blaenorol a allai ddarparu geirda
Caiff ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer eu gwahodd i wneud cyflwyniad 10 munud o hyd ar Zoom/Teams, a chymryd rhan mewn trafodaeth fer gyda phanel fydd yn cynnwys Elin ynghyd â Chyfarwyddwr Artistig a/neu Reolwr Cystadlu yr Eisteddfod Genedlaethol, 24 neu 25 Hydref 2024. Gofynnir iddynt hefyd gyflwyno datganiad ariannol byr drwy e-bost cyn y cyfarfod.
I wneud ymholiadau pellach, cysylltwch â elin@elinhafdavies.co.uk neu steffan@eisteddfod.cyrmu