Mae cyfranogwyr mewn prosiect sy’n cynnwys ffoaduriaid, ceiswyr lloches a phlant ysgol leol wedi cynhyrchu cyfres o faneri lliwgar sy’n cael eu harddangos yn y caffi a’r prif risiau yn Amgueddfa Wrecsam.
Mae’r prosiect Hiraeth, a gaiff ei redeg gan ‘Just Across’ (Y Groes Goch) gyda Chyswllt Celf a’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’r Loteri Genedlaethol, yn dathlu straeon pobl o amgylch y byd sydd wedi cyrraedd Wrecsam, yn annog plant lleol i ddysgu am fywyd mewn gwledydd eraill ac yn helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n byw yn Wrecsam i ddysgu Saesneg a Chymraeg.
Dywedodd L, (un o’r bobl sydd wedi bod yn rhan o Just Across, elusen y Groes Goch ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches) “Roedd y gwaith adrodd stori yn fy helpu i baratoi ar gyfer fy arholiad Saesneg yng Ngholeg Cambrian. Llwyddais yn fy arholiad lefel dau yr wythnos ddiwethaf gyda 79%. Rwyf eisiau bod yn nyrs. Rwyf angen siarad Saesneg yn dda i wneud hynny.”
Ychwanegodd A (cyfranogwr arall yn y prosiect) ““Wnes i adael fy ngwlad ar ben fy hun pan oeddwn yn 10 oed. O’r diwedd wnes i ddod i Wrecsam. Rwyf wedi bod yma yn Wrecsam ers dwy flynedd a hanner. Rwy’n caru Wrecsam – mae popeth yma i mi. Rwy’n chwarae pêl-droed i dîm lleol. Rwy’n gallu astudio a gweithio yma yn Wrecsam. Rwyf eisiau ymuno â’r heddlu rŵan.” ”
Dywedodd Fiona Collins (storïwraig y prosiect) “Rwyf wedi cyflawni llawer drwy wneud y prosiect hwn ac rwy’n falch fy mod wedi gallu cymryd rhan. Gobeithio fy mod wedi gwneud cyfraniad defnyddiol i gyfoethogi bywydau’r bobl fendigedig a haeddiannol hyn”
Ychwanegodd Catrin Williams (Artist y prosiect) “Roedd yn wych gweld pobl yn barod i gymryd rhan yn cynyddu dros amser, wrth iddynt ddod i fy adnabod ac ymddiried ynof. Ni ellir rhuthro’r math yma o waith”
Eglurodd y staff dysgu yn ysgolion Rhostyllen a San Silyn sut oedd y plant yn rhan o’r prosiect hwn “Roedd y plant yn y ddwy ysgol wnaeth gymryd rhan yn gyffrous iawn i gyfathrebu gyda’r ffoaduriaid. Roedd y ffoaduriaid wrth eu bodd yn cyfnewid cardiau post yn arbennig, pan oeddent yn eu derbyn, a’r plant, pan oeddent yn derbyn eu hymatebion.”
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Amgueddfa Wrecsam ar 01978 297 460
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN