Ydych chi’n rhan o grŵp chwaraeon yn Wrecsam?
Os felly, gallwch ymgeisio am gyllid o dan y cynllun Cist Gymunedol gan fod y rownd nesaf o geisiadau bellach wedi agor.
Mae’r gronfa’n cael ei gefnogi gan Chwaraeon Cymru, sy’n annog a chefnogi cyfranogiad mewn chwaraeon drwy Gymru ac yn cynnig hyd at £1500 ar gyfer grwpiau.
Mae ceisiadau ar gyfer y rownd bresennol o gyllid ar agor tan ddydd Mercher, 15 Ebrill ac fe fydd panel yn cyfarfod i drafod y ceisiadau ar 29 Ebrill.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Louise Brady, Rheolwr Cynorthwyol Datblygu Chwaraeon yng Nghyngor Wrecsam, ar 01978 297359 neu drwy e-bost at louise.brady@wrexham.gov.uk.
Mae gwybodaeth hefyd ar gael ar ein tudalen gwe.
Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio.
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://beta.wrexham.gov.uk/service/what-goes-my-binsrecycling-containers/garden-waste-collection-service”] I WANT TO PAY NOW [/button]