Mae’r mwyafrif o bobl – rhyw dro neu’i gilydd – wedi cael profiad o dechnoleg sydd ddim yn gweithio fel y dylai.
Gall fod yn boen, yn rhwystredig, ac yn eich atal rhag gwneud y pethau pwysig y mae arnoch angen eu gwneud. Pan fydd hyn yn digwydd, rydych yn debygol o fod angen ffonio’r ddesg gymorth.
Posibilrwydd o wneud i rywun wenu
Mae gennym dîm o ddatryswyr problemau, sydd â’r gallu i wneud i bobl wenu. Gelwir y pobl hyn yn ‘arwyr’, ‘sêr’ a hyd yn oed eu bod wedi ‘arbed eu bywyd’ drwy beidio â chynhyrfu, a defnyddio eu gwybodaeth arbenigol i ddatrys problemau TGCh sydd wedi bod yn poeni eraill…felly gallwch ddweud ei fod yn swydd sy’n rhoi llawer o foddhad.
Eisiau ‘arbed bywyd’? Efallai eich bod yn ffodus heddiw 🙂
Rydym yn chwilio am Ddadansoddwr Technegol i weithio yn ein gwasanaeth TGCh. Mae’n swydd llawn amser a swydd barhaol…ydi hyn yn rhywbeth y gallech chi ei wneud?
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Arwain, datblygu a chefnogi
Mae ein tîm o arbenigwyr yn cefnogi a rheoli dyfeisiau, gan gynnwys gliniaduron, dyfeisiau symudol, ac argraffwyr i dros 2,400 o bobl.
Rydym eisiau ychwanegu un aelod arall i’r tîm i arwain, datblygu a chefnogi ystod o feysydd technegol Defnyddwyr.
Rydym eisiau rhywun sydd â phrofiad o weithredu a rheoli dyfeisiau mewn amgylchedd arloesol. Dylent feddu ar brofiad o Windows 10, ac adnoddau rheoli dyfeisiau megis SCCM a Blackberry UEM.
Cyfathrebu yn bwysig
Yn ogystal â meddu ar y sgiliau a gwybodaeth angenrheidiol, mae’n bwysig iawn hefyd bod gennych sgiliau cyfathrebu a gwasanaeth i gwsmeriaid rhagorol.
Bydd rhaid i chi allu ysgogi eich hun a gallu gweithio dan bwysau i gyflawni’r swydd yn dda, ac yn ogystal mae’n gyfle i fentora aelodau eraill o’r tîm.
Cydbwysedd gwaith-bywyd gwych
Ac os ydych yn chwilio am swydd sydd gyda chydbwysedd gwaith a bywyd, yna mae digon o resymau dros ymgeisio.
Er enghraifft, mae ein cynllun gweithio’n hyblyg yn golygu y gallwch gamu nôl o’r dyddiau arferol 9 tan 5 a gorffen yn gynt un diwrnod a gweithio’n hwyrach y diwrnod canlynol – os ydych angen gwneud hynny.
Cewch lwfans gwyliau hael, mynediad at gynllun pensiwn da a buddiannau gweithwyr eraill.
I weld y disgrifiad swydd llawn ac i wneud cais, cliciwch ar y ddolen isod os gwelwch yn dda.
Y dyddiad cau yw 8 Tachwedd.
EWCH Â FI AT Y SWYDD