Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dim ond wythnos sydd i fynd nes y bydd Lloyds Bank Taith Prydain Merched 2024 yn dod i Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Landlords
Cynllun prydlesu yn creu cyflenwad o dai fforddiadwy yn Wrecsam
Arall
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Dim ond wythnos sydd i fynd nes y bydd Lloyds Bank Taith Prydain Merched 2024 yn dod i Wrecsam
Pobl a lleBusnes ac addysg

Dim ond wythnos sydd i fynd nes y bydd Lloyds Bank Taith Prydain Merched 2024 yn dod i Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: 2024/05/31 at 9:41 AM
Rhannu
Darllen 3 funud
Dim ond wythnos sydd i fynd nes y bydd Lloyds Bank Taith Prydain Merched 2024 yn dod i Wrecsam
RHANNU

Gydag ychydig dros wythnos i fynd tan y bydd ail gymal Taith Prydain Merched 2024 yn cyrraedd Wrecsam, dyma grynodeb i chi o’r hyn y gallwch ei weld a’i wneud ar y diwrnod.

Cynnwys
Pentref y Daith – Taith Prydain Merched 2024Llwybr ras Taith Prydain Merched 2024:

Bydd 15 tîm i’w gweld ar y llinell gychwyn ar Stryt Caer (y tu allan i Adeiladau’r Goron) ac mae disgwyl i’r beicwyr adael oddeutu 11am i gyfeiriad cylchfan Ffordd Powell.  Disgwylir iddynt gyrraedd yn ôl i ganol y ddinas oddeutu 3.15pm ar hyd Stryt y Twtil.

Pentref y Daith – Taith Prydain Merched 2024

Tra bo’r ras yn cael ei chynnal, fe fydd yna Bentref Taith Prydain yn Llwyn Isaf a fydd yn cynnwys sioe gampau BMX ynghyd â gweithgareddau eraill.  Gallwch ddarllen mwy am y sioe yma – Fe fydd yna sioe gampau BMX yn cael ei chynnal yn Llwyn Isaf pan fydd Wrecsam yn llwyfannu Taith Prydain Merched 2024

Yn yr un modd â phob digwyddiad mawr, fe fydd yna gyfyngiadau ffyrdd a pharcio ar waith a gallwch ddarllen y cyfan am y rhain yma – Mai 2024 – Taith Prydain Merched – manylion am gau ffyrdd a meysydd parcio yng nghanol y ddinas

Os nad ydych chi’n gyfarwydd â chanol y ddinas rydym wedi llunio canllaw defnyddiol ynglŷn â beth i’w wneud, lle i fwyta ac ymweld yn ystod eich ymweliad.  Mae yna fwy o fanylion am hynny yma Ymweld â chanol dinas Wrecsam am y tro cyntaf? Beth i’w wneud a ble i fynd…

Meddai’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio, “Rydym ni’n paratoi ar gyfer ras gyffrous ac rydw i’n edrych ‘mlaen at fod yng nghychwyn a diwedd Cymal 2 yma yng nghanol dinas Wrecsam.

“Gobeithio y daw pawb allan i’w cefnogi nhw ar hyd y llwybr ac y bydd y rhai sydd yng nghanol y ddinas yn manteisio ar bopeth sydd ar gael ar y diwrnod.  Mae’r Sioe Gampau BMX yn argoeli i fod yn ddigwyddiad difyr a chyffrous iawn a bydd yn helpu i basio’r oriau tra y bydd y ras yn cael ei chynnal o amgylch Wrecsam a’r dalgylch.

Llwybr ras Taith Prydain Merched 2024:

Cymal 1 – Dydd Iau 6 Mehefin  2024: Y Trallwng i Landudno

Cymal 2 – Dydd Gwener 7 Mehefin 2024: Wrecsam

Cymal 3 – Dydd Sadwrn 8 Mehefin 2024: Warrington

Cymal 4 – Dydd Sul 9 Mehefin 2024: Manceinion Fwyaf: Canolfan Feicio Genedlaethol i Leigh

Tour of Britain Sage 2 Wrexham to Wrexham

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen – Taith Prydain Merched – gwybodaeth am barcio a chau ffyrdd 6/7 Mehefin 2024

Rhannu
Erthygl flaenorol Tourism Ymweld â chanol dinas Wrecsam am y tro cyntaf? Beth i’w wneud a ble i fynd…
Erthygl nesaf Void Property Mae Cyngor Wrecsam wedi gweld nifer o’i gartrefi gwag wedi lleihau bron i 50% dros y 2 flynedd diwethaf

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Landlords
Cynllun prydlesu yn creu cyflenwad o dai fforddiadwy yn Wrecsam
Arall Awst 12, 2025
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor Awst 12, 2025
Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor Awst 8, 2025
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall Awst 8, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 12, 2025
Family Teulu
Pobl a lleY cyngor

Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth

Awst 8, 2025
Lucy Cowley
DigwyddiadauPobl a lle

Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni

Awst 6, 2025
Jayne Bryant
Busnes ac addysgPobl a lle

Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m

Awst 5, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English