Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gofalu, Gwrando, Helpu. Cyfarfod â Bugeiliaid Stryd Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Gofalu, Gwrando, Helpu. Cyfarfod â Bugeiliaid Stryd Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Gofalu, Gwrando, Helpu. Cyfarfod â Bugeiliaid Stryd Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 20, 2018 2:26 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Gofalu, Gwrando, Helpu. Cyfarfod â Bugeiliaid Stryd Wrecsam
RHANNU

Ysgrifennwyd yr erthygl hon fel rhan o gyfres o negeseuon am yr ymgyrch #YfedLlaiMwynhauMwy

Ydych chi wedi bod am noson allan yn Wrecsam ac wedi gweld pobl mewn iwnifform glas yn rhoi fflip fflops a fferins i bobl? Dyma Fugeiliaid Stryd Wrecsam ac maent yn wirfoddolwyr sydd, ynghyd ag asiantau eraill yn helpu i wneud economi Wrecsam yn ystod y nos yn fwy diogel i bawb ar noson allan. Mae Bugeiliaid Stryd Wrecsam hefyd yn darparu cefnogaeth mewn digwyddiadau a chyngherddau ar raddfa fawr.

Maent yn wirfoddolwyr hyfforddedig o eglwysi lleol sydd yn gofalu am y gymuned leol. Bydd pob bugail stryd wedi cwblhau 9 sesiwn hyfforddi wedi’i ledaenu dros flwyddyn sy’n cynnwys pynciau gan gynnwys rheoli gwrthdaro, gwrando a chymorth cyntaf sylfaenol.

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.

Cymorth Ymarferol

Mae bugeiliaid stryd yn gwrando a siarad â phobl, yn darparu gwybodaeth ar asiantaethau lleol, darparu presenoldeb sy’n cynnig sicrwydd ac yn ceisio atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae cymorth ymarferol sy’n cael ei roi gan fugeiliaid stryd yn cynnwys rhoi blancedi, fflip fflops i bobl sydd methu cerdded adref yn eu hesgidiau sodlau uchel, rhoi dŵr, siocled neu fferins i roi egni a sicrhau bod unrhyw un sy’n teimlo’n agored i niwed yn ddiogel. Mae bugeiliaid stryd yn cael gwared â photeli ac arfau posibl eraill sydd ar y stryd, er mwyn ceisio atal trais a fandaliaeth.

Gweithio mewn Partneriaeth

Maent yn cael eu harwain gan gydlynydd lleol (Laurie Searle) ac yn cael cymorth gan eglwysi a grwpiau cymunedol lleol mewn partneriaeth â CBSW, Heddlu GC, staff CCTV, staff drws/ diogelwch, Parafeddygon, Canolfan Lles a Gwirfoddolwyr y Groes Goch.

Mae cyfanswm o 36 o fugeiliaid stryd yn Wrecsam, ac maent yn gweithio bob nos Sadwrn o 10.30pm tan tua 3am, yn ogystal â’r 2il a 4ydd nos Wener y mis.

 

Ydych chi eisiau gwirfoddoli?

Ar hyn o bryd mae dros 300 o drefi a dinasoedd ar draws y DU gyda thîm bugeiliaid stryd. Hefyd mae nifer cynyddol o dimau bugeiliaid stryd dramor.

Os oes gennych ddiddordeb ac eisiau rhagor o wybodaeth am waith Bugeiliaid Stryd, neu â diddordeb mewn bod yn Fugail Stryd eich hun, cysylltwch â hwy yma.

I gael rhagor o wybodaeth am ymgyrch #YfedLlaiMwynhauMwy, cliciwch yma

Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/AchieveForms/?form_uri=sandbox-publish://AF-Process-ceb55423-9f5d-4124-b713-805ac7a73e3e/AF-Stage-854336b9-1221-4e6a-88d7-785fb2f8e340/definition.json&redirectlink=%2Fcy&cancelRedirectLink=%2Fcy&consentMessage=yes”]COFIWCH EICH BINIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Old Roof Tiles Building House Mae arnom ni angen Syrfëwr Adeiladau. Cymerwch gip ar y swydd hon!
Erthygl nesaf Llogi Tŷ Pawb ar gyfer eich digwyddiad am hanner pris ym mis Ionawr! Llogi Tŷ Pawb ar gyfer eich digwyddiad am hanner pris ym mis Ionawr!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English