Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gofalu, Gwrando, Helpu. Cyfarfod â Gweinidogion Stryd Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Gofalu, Gwrando, Helpu. Cyfarfod â Gweinidogion Stryd Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Gofalu, Gwrando, Helpu. Cyfarfod â Gweinidogion Stryd Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 14, 2017 11:41 am
Rhannu
Darllen 3 funud
street pastors
RHANNU

Yfed Llai Mwynhau MwyYsgrifennwyd yr erthygl hon fel rhan o gyfres o negeseuon am yr ymgyrch #yfedllaimwynhaumwy

Ydych chi wedi bod am noson allan yn Wrecsam ac wedi gweld pobl mewn iwnifform glas yn rhoi fflip fflops a fferins i bobl? Mae’r rhain yn weinidogion stryd Wrecsam ac maent yn wirfoddolwyr sydd eisiau gwneud ein strydoedd yn fannau mwy diogel ar noson allan.

Maent yn wirfoddolwyr hyfforddedig o eglwysi lleol sydd yn gofalu am y gymuned leol. Bydd pob gweinidog stryd wedi cwblhau 12 sesiwn hyfforddi wedi’i ledaenu dros flwyddyn sydd wedi cynnwys pynciau gan gynnwys rheoli gwrthdaro, cwnsela a chymorth cyntaf sylfaenol.

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

Cymorth Ymarferol

Gan ddarparu presenoldeb tawelu meddwl, mae gweinidogion stryd yn gwrando a siarad â phobl, yn darparu gwybodaeth ar asiantaethau lleol ac yn ceisio annog dim ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae cymorth ymarferol a ddarperir gan weinidogion stryd yn cynnwys rhoi blancedi, fflip fflops i bobl sydd methu cerdded adref yn eu hesgidiau sawdl uchel, rhoi dŵr, siocled neu fferins i roi egni a sicrhau diogelwch i unrhyw un sy’n teimlo’n ddiamddiffyn.  Mae gweinidogion stryd yn cael gwared â photeli ac arfau posibl eraill sydd ar y stryd, er mwyn peidio annog trais a fandaliaeth.

Gweithio mewn Partneriaeth

Maent yn cael eu harwain gan gydlynydd lleol ac yn cael cymorth gan eglwysi a grwpiau cymunedol lleol mewn partneriaeth â CBSW, Heddlu GC, staff CCTV, staff drws/ diogelwch, Parafeddygon, Canolfan Lles a Gwirfoddol y Groes Goch.

Mae cyfanswm o 36 gweinidog stryd yn Wrecsam, ac maent yn gweithio bob nos Sadwrn o 10.30pm tan tua 3am, yn ogystal â’r 2il a 4ydd dydd Gwener y mis.

Ydych chi eisiau gwirfoddoli?

Ar hyn o bryd mae dros 300 o drefi a dinasoedd ar draws y DU gyda thîm gweinidogion stryd. Hefyd mae nifer cynyddol o dimau gweinidogion stryd dramor.

Os oes gennych ddiddordeb ac eisiau rhagor o wybodaeth am waith Gweinidogion Stryd, neu gyda diddordeb o ddod yn Weinidog Stryd eich hun, cysylltwch â hwy yma.

I gael rhagor o wybodaeth am ymgyrch #YfedLlaiMwynhauMwy, cliciwch yma.

Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Prynu eich anrhegion Nadolig ar-lein? Darllenwch hwn yn gyntaf Prynu eich anrhegion Nadolig ar-lein? Darllenwch hwn yn gyntaf
Erthygl nesaf Agor ac Ailgylchu Agor ac Ailgylchu

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle

Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.

Hydref 1, 2026
the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English