Mae strydoedd ar draws y fwrdeistref sirol ar fin cael eu goleuo gan goleuadau LED modern, diolch i raglen goleuadau stryd newydd.
Bydd dros 10,200 o unedau yn cael eu newid dan y rhaglen uchelgeisiol a fydd yn cael ei gwneud dros y ddwy flynedd nesaf.
Bydd y gwaith yn golygu gostyngiad mewn costau ynni a lleihau allyriadau carbon.
“A fydd fy stryd yn cael goleuadau LED newydd?”
Goleuadau LED ar y ffordd
Byddwn yn disodli’r goleuadau stryd yr ydym yn berchen arnynt neu’n eu cynnal ar ran rhai cymunedau, ond mae llawer o oleuadau stryd yn eiddo i Gynghorau Cymuned ac yn cael eu cynnal ganddyn nhw.
Er nad yw’n rhan o’r rhaglen hon, rydym yn gobeithio y byddant hefyd yn ceisio cyllid mewn ffordd debyg er mwyn lleihau allyriadau carbon a gwneud arbedion ariannol.
Mae rhai Cynghorau Cymuned eisoes wedi gwneud y newid i oleuadau LED felly efallai y bydd gennych chi rai eisoes
“Gwella ansawdd yr amgylchedd””
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn gobeithio cwblhau’r gwaith o fewn dwy flynedd, sy’n golygu y gallwn ni fanteisio ar yr arbedion ynni cyn gynted â phosib. Mae hefyd yn dod â gostyngiad mewn allyriadau carbon sy’n rhan bwysig o’n hymrwymiad i wella ansawdd yr amgylchedd yn Wrecsam a Chymru.”
Bydd y gwaith yn cael ei ariannu gan fenthyciad di-log gwerth £1.5 miliwn gan Salix – y cwmni sy’n darparu cyllid i’r sector cyhoeddus i wella effeithlonrwydd ynni, lleihau allyriadau carbon a biliau ynni is. Er mwyn cynorthwyo i gyflwyno goleuadau stryd LED, mae’r Cyngor wedi ymrwymo cyllid cyfalaf gwerth £600,000 fel rhan o’i raglen waith barhaus i leihau allyriadau carbon.
Gallwch ddarllen mwy am Salix a sut maen nhw’n gweithio gydag Awdurdodau Lleol yng Nghymru i leihau allyriadau carbon yma.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR