Mae gennym newyddion da i bobl sy’n defnyddio’r trên, mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw y bydd y trên cyflym rhwng Caerdydd a Chaergybi, a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr 2019, bellach yn stopio yn y Waun, Gobowen a Rhiwabon bob bore J
Bu budd-ddeiliaid yn protestio y llynedd pan gyhoeddwyd na fyddai’r gwasanaeth yn galw yn rhai o’r gorsafoedd trên a’u bod yn bwriadu gwaredu’r gwasanaeth fesul awr sy’n gadael yr Amwythig am 9.25. Nid oedd Trafnidiaeth Cymru wedi cynnal ymgynghoriad, a chyflwynwyd y gwasanaeth er gwaethaf y ddeiseb ar-lein a’r protestiadau amrywiol.
“Mwy cyfleus i bob teithiwr sy’n defnyddio’r gwasanaeth rhwng Caerdydd a Chaergybi“
Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Cadeirydd Partneriaeth Rheilffordd Caer a’r Amwythig, ‘Rydym yn falch o glywed fod Trafnidiaeth Cymru wedi ailystyried patrwm galw’r gwasanaeth ac y bydd y trên cyflym yn galw yn y Waun, Gobowen a Rhiwabon o hyn ymlaen.
“Bydd hyn yn llawer mwy cyfleus i deithwyr syn defnyddio’r gwasanaeth rhwng Caerdydd a Chaergybi, yn hytrach na’r gwasanaeth bws sy’n gweithredu ar ran y gwasanaeth trên ar hyn o bryd. Gyda niferoedd teithwyr yn parhau i gynyddu ym mhob un o’r gorsafoedd ar hyd y llwybr hwn, byddwn yn parhau i bwyso i ailgyflwyno’r gwasanaeth bob awr ar hyd y llinell hwn i sicrhau fod gan bob un o’n cymunedau fynediad at y cysylltiadau trên y mae arnynt eu hangen, p’un a yw hynny ar gyfer swyddi, addysg neu hamdden.’
Dyma ystadegau teithwyr y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd ar gyfer 2019:
- Cynnydd o 7.6% i 529,622 o 492,390 yn Wrecsam Cyffredinol
- Cynnydd o 7.3% i 102,628 o 95,670 yn Rhiwabon
- Cynnydd o 5.6% i 79,746 o 75,524 yn y Waun
- Cynnydd o 4.5% i 228,526 o 218,684 yn Gobowen
Mae rhagor o wybodaeth am y cynnydd mewn niferoedd teithwyr ar gael yma:
Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf o ran graeanu yn syth i’ch mewnflwch
COFRESTRWCH FI RŴAN