Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwaith uwchraddio safleoedd gwefru cerbydau trydan i ddechrau ym mis Ionawr
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Gwaith uwchraddio safleoedd gwefru cerbydau trydan i ddechrau ym mis Ionawr
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Gwaith uwchraddio safleoedd gwefru cerbydau trydan i ddechrau ym mis Ionawr

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 9, 2025 3:32 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
EV charging
RHANNU

Mae gwaith yn cael ei wneud yn St. George’s Crescent dros yr wythnosau nesaf i wella’r rhwydwaith gwefru cerbydau trydan.

Mae’r gwaith stryd wedi’i drefnu i ddechrau ar 12 Ionawr 2026, ac mae disgwyl iddo bara tua thair wythnos.

Yn ystod y cyfnod hwn, bydd:

  • lonydd ar gau dros dro
  • llwybr dargyfeirio byr ar gyfer traffig ffyrdd
  • mynediad llawn i gerddwyr drwy gydol y cyfnod
  • mynediad di-dor at siopau, bwytai a busnesau lleol

Byddwn yn gwneud pob ymdrech i leihau’r aflonyddwch a chadw’r ardal yn ddiogel ac yn hygyrch drwy gydol y gwaith.

Mae’r gwaith hwn yn angenrheidiol er mwyn cefnogi gosod dwy uned gwefru cerrynt union bwerus ychwanegol ym maes parcio St Georges Crescent. Ar ôl cwblhau’r gwaith, bydd yr uwchraddiad hwn yn arwain at gynnydd yn nifer yr ymwelwyr drwy annog rhagor o yrwyr cerbydau trydan i barcio, gwefru a threulio amser yn yr ardal leol, gan gefnogi twf parhaus busnesau cyfagos.

Wrth i ni symud tuag at y gwaharddiad ar werthu cerbydau newydd sy’n cael eu pweru gan injan hylosgi mewnol yn 2030 a cherbydau hybrid yn 2035, mae amrywiaeth o atebion posibl ar gyfer gwefru cerbydau trydan yn gyhoeddus a bydd y mannau gwefru hyn yn gwella ein rhwydwaith o fannau gwefru cyhoeddus dibynadwy o ansawdd uchel ymhellach.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, yr aelod arweiniol dros newid hinsawdd:  “Mae gwneud y penderfyniad i newid i gerbyd trydan yn golygu ystyried llawer o ffactorau – yn enwedig os na allwch barcio oddi ar y ffordd gartref. Mae’r gwaith yma, ynghyd â’r gwaith diweddar ym maes parcio’r llyfrgell yng nghanol y ddinas, yn golygu bod y rhai sy’n dewis newid yn cael eu cefnogi.

“Bydd Cyngor Wrecsam yn parhau i weithio i gynyddu’r rhwydwaith gwefru cerbydau trydan yng nghanol y ddinas ac mewn ardaloedd preswyl o amgylch y fwrdeistref sirol.”

Gostyngiad i breswylwyr Wrecsam

Oeddech chi’n gwybod bod preswylwyr Wrecsam yn gallu cael gostyngiad ar fannau gwefru yn ein meysydd parcio?

Os hoffech ragor o wybodaeth ac i wneud cais am y gostyngiad, cysylltwch ag info@costelloes.co.uk.

Rhannu
Erthygl flaenorol Planning ahead? Please keep recycling in mind in the lead up to Christmas Siopa Nadolig – ychydig o bethau i feddwl amdanynt…
Erthygl nesaf S Mary's RC School in Wrexham Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair yn dathlu yn dilyn arolygiad diweddar gan Estyn

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English