Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Siopa Nadolig – ychydig o bethau i feddwl amdanynt…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Siopa Nadolig – ychydig o bethau i feddwl amdanynt…
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Siopa Nadolig – ychydig o bethau i feddwl amdanynt…

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 9, 2025 12:43 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Planning ahead? Please keep recycling in mind in the lead up to Christmas
RHANNU

Gyda’r Nadolig yn nesáu, mae’n siŵr eich bod wedi bod yn meddwl am y bargeinion perffaith i’w prynu i’ch anwyliaid…

Cynnwys
  • Prynu papur lapio ailgylchadwy
  • Prynu cardiau a bagiau anrhegion ailgylchadwy
  • Sut i baratoi at y Nadolig

Wel, yma yn Wrecsam, rydyn ni eisoes wedi gwneud Adduned Blwyddyn Newydd i leihau ein gwastraff a chynyddu ein hailgylchu, i gael Wrecsam nôl ymhlith y goreuon o ran ailgylchu.

Mae parhau i ailgylchu ac ailddefnyddio cymaint â phosib yn dal yn bwysig drwy gydol gwyliau’r Nadolig. 

Prynu papur lapio ailgylchadwy

Oeddech chi’n gwybod bod 227,000 milltir o bapur lapio yn cael ei daflu i ffwrdd ar gyfartaledd bob blwyddyn, sy’n ddigon i lapio’r Ddaear gyfan fwy na naw gwaith! Yn anffodus, nid yw’r holl bapur lapio hwn yn ailgylchadwy.

Felly, mae’n bosib eich bod chi’n ystyried sut mae gwybod a oes modd ailgylchu’r papur lapio rydych chi’n bwriadu ei ddefnyddio.

Wel, dyma ddisgrifiad byr… 

Nid yw papur lapio ffoil sgleiniog neu â gliter yn ailgylchadwy ac mae papurau lapio sgleiniog eraill yn tueddu i fod wedi eu lamineiddio, gan eu gwneud nhw’n amhosib eu hailgylchu hefyd. Dylech hefyd geisio osgoi ychwanegu unrhyw beth plastig.  Mae’r prawf sgrensian yn ffordd gyflym a hawdd o wirio – sgrensiwch y papur i siâp pêl; os yw’n aros ar siâp pêl mae’n debygol y gall gael ei ailgylchu (cyn belled nad yw’n ffoil neu’n cynnwys gliter) a gall fynd yn eich bin ailgylchu papur.

Os gwnewch chi geisio osgoi’r rhain wrth wneud eich siopa Nadolig, yna y newyddion da yw y dylai pob math arall o bapur lapio fod yn iawn i’w ailgylchu…Gwnewch yn siŵr eich bod yn tynnu unrhyw dâp gludiog i ffwrdd gyntaf!

Prynu cardiau a bagiau anrhegion ailgylchadwy

Pa mor barod ydych chi eleni i ysgrifennu cardiau pawb sydd ar y rhestr Nadolig? Wel, os nad ydych wedi prynu cardiau eto, dyma ambell awgrym i sicrhau eich bod chi’n gallu prynu’r rhai sydd orau i’r amgylchedd!

Mae modd ailgylchu’r rhan fwyaf o gardiau Nadolig a’u hamlenni gyda’ch papur, ond mae’n ddefnyddiol gwybod pa fathau nad oes modd eu hailgylchu ac y dylech chi felly geisio eu hosgoi. Fel gyda phapur lapio, nid oes modd ailgylchu cardiau Nadolig â gliter a rhubanau felly gwnewch yn siŵr wrth eu rhoi gyda’ch ailgylchu papur nad oes rhubanau na gliter ynghlwm wrthyn nhw.

Mae bagiau anrhegion papur a chardfwrdd bob amser yn opsiwn gwych gan fod modd eu hailgylchu (ar ôl i chi dynnu’r dolenni).  Ond ydych chi wedi ystyried y gallech chi wneud hyd yn oed yn well wrth brynu holl fargeinion Nadolig, drwy eu rhoi mewn cwdyn siopa y gellir ei ailddefnyddio? Byddai’r derbynnydd yn cael dwy anrheg felly! Y rhodd ei hun a chwdyn siopa hir ei oes! 

Hefyd, efallai gallech ystyried ffyrdd eraill o lapio amgen, fel defnyddio tywel te  neu bapur sidan.

Sut i baratoi at y Nadolig

Ffordd arall y gallech chi eich paratoi eich hun ar gyfer y Nadolig yw trwy Gofrestru i dderbyn negeseuon atgoffa am gasgliadau gwastraff. Trwy wneud hyn, byddwch yn derbyn e-bost ddiwrnod cyn eich diwrnod casglu yn eich atgoffa i roi’ch biniau allan.  Mae hefyd yn ffordd wych o gael gwybod am unrhyw newidiadau a allai effeithio arnoch chi.

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

Diweddariad – Llai o gasgliadau gwastraff o’r ardd dros fisoedd y gaeaf – Newyddion Cyngor Wrecsam

Rhannu
Erthygl flaenorol The Maelor School in Penley, Wrexham Canmol Ysgol Maelor am ethos cynhwysol, addysgu effeithiol ac arweinyddiaeth gref yn Adroddiad diweddaraf Estyn
Erthygl nesaf EV charging Gwaith uwchraddio safleoedd gwefru cerbydau trydan i ddechrau ym mis Ionawr

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle

Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.

Hydref 1, 2026
the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English