Wrth i’r ganol y dref ddechrau ailagor yn ofalus ar gyfer masnachu, rydym wedi ystyried sut i agor ein toiledau cyhoeddus yn ddiogel.
O ganlyniad i hyn, mae posib ailagor toiledau Stryd Henblas, gyda rhai newidiadau er mwyn sicrhau fod pawb sy’n eu defnyddio yn ddiogel.
Dyma sut allwch chi eu defnyddio yn ddiogel tra eich bod yng nghanol y dref:
- Bydd mynediad yn gyfyngedig i dair merch yn nhoiledau merched ac un dyn yn nhoiledau dynion ar unrhyw adeg er mwyn cynnal mesurau cadw pellter cymdeithasol. Mae hyn oherwydd maint y cyfleusterau dynion/merched. Fodd bynnag, gall riant / gofalwr fynd mewn gyda’u plant.
- Bydd y toiled hygyrch ar gael.
- Bydd toiledau, troethfeydd a basnau dwylo yn cael eu tapio bob yn ail er mwyn rhwystro pobl rhag eu defnyddio a bydd arwyddion dwyieithog yn hysbysu ymwelwyr i beidio â’u defnyddio oherwydd rheoliadau cadw pellter cymdeithasol.
- Bydd glanhawr wrth y fynedfa er mwyn rheoli’r rhwystr mynediad ac allanfa gan ddefnyddio’r botwm mynediad yn y swyddfa. Bydd arwydd tu allan i’r toiledau yn egluro’r cyfyngiadau mynediad i ymwelwyr.
- Bydd y tâl mynediad 20c yn dal i fod yn gymwys, ond nid fydd newid ar gael gan y glanhawr.
- Bydd y toiledau’n cau am 15 munud bob awr ar gyfer glanhau, gan gynnwys diheintio arwynebau.
- Bydd y toiledau’n agor ar yr oriau arferol 9am i 5pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.
Byddwch yn amyneddgar ac yn gall wrth ddefnyddio’r toiledau a helpwch ni i’ch cadw chi’n ddiogel.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd: “Mae cyfleusterau fel toiledau cyhoeddus yn allweddol i sicrhau y gall ymwelwyr fwynhau eu hamser yng nghanol y dref yn gyfforddus. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at hyn gan sicrhau fod y cyfleusterau hyn yn gallu agor yn ddiogel.”
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws
YMGEISIWCH RŴAN