Mae Arddangosfa Agored Tŷ Pawb yn digwydd bob dwy flynedd yng nghanolfan marchnadoedd, celfyddydau a chymunedol Wrecsam, sydd wedi ennill llu o wobrau.
Eleni bydd yr arddangosfa yn cynnwys gwaith gan dros 150 o artistiaid o ledled y wlad, yn gweithio mewn amrywiaeth o gyfryngau gan gynnwys paent, print a cherflun.
Mae hyn yn dilyn ymateb gwych i’r alwad agored, a gynhaliwyd yn gynharach eleni. Bu i dros 220 o artistiaid gyflwyno mwy na 600 o weithiau celf i’w hystyried.
Gwahoddwyd yr holl artistiaid a’u ffrindiau a’u teuluoedd i noson arbennig i agor yr arddangosfa yn swyddogol.
Cyhoeddwyd enillydd Gwobr y Beirniaid yn ystod y digwyddiad, a ddewiswyd gan y beirniad gwadd arbennig, Harold Offeh.
Y gwaith celf buddugol oedd Narnia, print jet inc gan yr artist Cymreig, Squirrel Natkin.
Gall ymwelwyr â’r arddangosfa bleidleisio dros eu hoff waith celf. Bydd enillydd ‘Gwobr y Bobl’ yn cael ei gyhoeddi yn agosach ar yr arddangosfa ym mis Ionawr.
Mae’r holl waith ar werth – yn ddelfrydol ar gyfer ychydig o siopa Nadolig cynnar!
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI