Ar ran Swyddfa’r Cabinet y DU
Mae capiau ar brisiau ynni yma i wneud yn siŵr eich bod chi’n talu pris tecach am eich nwy a’ch trydan.
Beth yw capiau ar brisiau ynni?
Mae Ofgem a Llywodraeth y DU wedi cyflwyno capiau ar brisiau er mwyn sicrhau bod defnyddwyr, yn enwedig y rhai sy’n fwy agored i niwed, yn talu pris tecach am eu hynni ac yn cael eu diogelu rhag talu gormod.
Maent yn seiliedig ar y costau mae Ofgem (rheoleiddiwr ynni Prydain Fawr) yn cyfrifo y mae angen i gyflenwyr ei wario i gael ynni i’ch cartref.
Sut mae capiau ar brisiau yn gweithio?
Mae capiau ar brisiau’n gweithio drwy gyfyngu ar faint y gall cyflenwyr ei godi arnoch fesul uned o ynni.
Os bydd y costau yn gostwng, mae’r capiau yn gwneud yn siŵr bod cyflenwyr yn trosglwyddo’r arbedion.
Nid ydynt yn cyfyngu ar gyfanswm eich bil a fydd yn amrywio yn dibynnu ar faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio.
A oes capiau ar bris pob tariff ynni?
Tariffau yw’r gyfradd y byddwch yn ei dalu am eich nwy a’ch trydan.
Mae cap ar bris eich tariff os byddwch yn…
- Defnyddio mesurydd rhagdalu.
- Yn cael y Gostyngiad Cartrefi Cynnes a/neu…
- Os byddwch ar dariff ynni ‘amrywiadwy safonol‘ neu dariff nad ydych wedi’i ddewis (tariff ‘diofyn’).
A ydw i wedi fy niogelu gan gapiau ar brisiau ynni?
Nid oes angen i chi wneud dim i ddiogelu eich pris – eich cyflenwr fydd yn cymhwyso’r capiau.
Gall eich cyflenwr ddweud wrthych os oes cap ar bris eich tariff ynni. Mae’n rhaid i’ch cyflenwr hefyd ysgrifennu atoch i ddweud wrthych os bydd eich tariff yn newid mewn ffordd a allai eich rhoi o dan anfantais, neu os na fydd y tariff rydych arno ar gael mwyach.
Os nad ydych yn gwybod pwy yw eich cyflenwr, gallwch weld fwy yma.
Gwnewch yn siŵr eich bod ar y tariff gorau
Hyd yn oed os bydd eich pris wedi’i ddiogelu, dylech chwilio am gynigion gwell o hyd i weld a allech arbed mwy o arian.
Siaradwch â’ch cyflenwr neu edrychwch ar ei wefan i weld pa dariffau sydd ar gael ganddo ac a allwch dalu llai.
Gallwch hefyd ddefnyddio gwefan cymharu prisiau i weld a all cyflenwr arall wneud cynnig gwell i chi.
ARBED ARIAN